Search Legislation

Deddf Seilwaith (Cymru) 2024

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 130

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/06/2024.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Seilwaith (Cymru) 2024, Adran 130. Help about Changes to Legislation

130Cyfarwyddydau i awdurdodau cyhoeddusLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus y mae’r adran hon yn gymwys iddo wneud pethau mewn perthynas â chais a wneir i Weinidogion Cymru.

(2)Mae’r adran hon yn gymwys i’r awdurdodau cyhoeddus a ganlyn—

(a)awdurdod cynllunio;

(b)Cyfoeth Naturiol Cymru;

(c)awdurdod Cymreig datganoledig a bennir mewn rheoliadau.

(3)Caiff cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon—

(a)ymwneud â chais penodol neu ddisgrifiad o gais, neu geisiadau yn gyffredinol;

(b)cael ei roi i awdurdod cyhoeddus penodol neu ddisgrifiad o awdurdod cyhoeddus neu i awdurdodau cyhoeddus yn gyffredinol.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer adennill costau, ac mewn cysylltiad ag adennill costau, y mae awdurdodau cyhoeddus wedi mynd iddynt am bethau a wneir yn unol â chyfarwyddydau o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 130 mewn grym ar 4.6.2024 at ddibenion penodedig, gweler a. 147(1)(b)

Back to top

Options/Help