(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hynny’n briodol at ddibenion y Ddeddf hon, o ganlyniad iddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth sydd ynddi, cânt, drwy reoliadau, wneud—
(a)darpariaeth atodol, ddeilliadol neu ganlyniadol;
(b)darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad a geir yn y Ddeddf hon).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 144 mewn grym ar 4.6.2024, gweler a. 147(1)(c)