RHAN 1PROSIECTAU SEILWAITH ARWYDDOCAOL
Gwastraff
15Cyfleusterau gwastraff peryglus
1
Mae adeiladu cyfleuster gwastraff peryglus yn brosiect seilwaith arwyddocaol—
a
os yw’r cyfleuster yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru,
b
os prif ddiben y cyfleuster yw gwaredu gwastraff peryglus yn derfynol neu ei adfer, ac
c
os disgwylir i’r cyfleuster fod â’r capasiti a bennir yn is-adran (2).
2
Y capasiti yw—
a
yn achos gwaredu gwastraff peryglus drwy dirlenwi neu mewn cyfleuster storio dwfn, mwy na 100,000 o dunelli y flwyddyn;
b
mewn unrhyw achos arall, mwy na 30,000 o dunelli y flwyddyn.
3
Mae addasu cyfleuster gwastraff peryglus yn brosiect seilwaith arwyddocaol—
a
os yw’r cyfleuster yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru,
b
os prif ddiben y cyfleuster yw gwaredu gwastraff peryglus yn derfynol neu ei adfer, ac
c
os disgwylir i’r addasiad gynyddu capasiti’r cyfleuster—
i
yn achos gwaredu gwastraff peryglus drwy dirlenwi neu mewn cyfleuster storio dwfn, fwy na 100,000 o dunelli y flwyddyn;
ii
mewn unrhyw achos arall, fwy na 30,000 o dunelli y flwyddyn.
4
Yn yr adran hon, ystyr “cyfleuster storio dwfn” yw cyfleuster ar gyfer storio gwastraff o dan y ddaear mewn ceudod daearegol dwfn.
5
Mae i “adfer”, “gwaredu” a “gwastraff peryglus” yr un ystyron ag a roddir i “recovery”, “disposal” a “hazardous waste” yn Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru a Lloegr) 2005 (O.S. 2005/894) (fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd).