RHAN 1PROSIECTAU SEILWAITH ARWYDDOCAOL
Gwastraff
16Cyfleusterau gwaredu daearegol gwastraff ymbelydrol
1
Mae datblygiad sy’n gysylltiedig â chyfleuster gwaredu daearegol gwastraff ymbelydrol o fewn is-adran (4) neu (6) yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
2
Ystyr cyfleuster gwaredu daearegol gwastraff ymbelydrol yw cyfleuster sy’n bodloni’r amodau yn is-adran (3).
3
Yr amodau yw—
a
y disgwylir mai prif ddiben y cyfleuster fydd gwaredu gwastraff ymbelydrol yn derfynol,
b
y disgwylir y bydd y rhan o’r cyfleuster lle y mae’r gwastraff ymbelydrol i’w waredu yn cael ei hadeiladu o leiaf 200 o fetrau o ddyfnder o dan arwyneb y ddaear neu wely’r môr, ac
c
y disgwylir y bydd yr amgylchedd naturiol sy’n amgylchynu’r cyfleuster yn gweithredu, ar y cyd ag unrhyw fesurau a beiriannwyd, i atal radioniwclidau rhag symud o’r rhan o’r cyfleuster lle y mae’r gwastraff ymbelydrol i’w waredu i’r arwyneb.
4
Mae datblygiad o fewn yr is-adran hon—
a
os adeiladu un twll turio neu ragor, a chynnal unrhyw waith cloddio, adeiladu neu saernïo cysylltiedig ydyw,
b
os caiff y twll turio neu’r tyllau turio ei adeiladu neu eu hadeiladu, ac y cynhelir unrhyw waith cloddio, adeiladu neu saernïo cysylltiedig, yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru, ac
c
os bodlonir yr amodau yn is-adran (5) mewn perthynas â phob twll turio.
5
Yr amodau yw—
a
y disgwylir i’r twll turio gael ei adeiladu o leiaf 150 o fetrau o ddyfnder o dan arwyneb y ddaear neu wely’r môr, a
b
mai prif ddiben adeiladu’r twll turio yw cael gwybodaeth, data neu samplau er mwyn penderfynu a yw safle yn addas ar gyfer adeiladu neu ddefnyddio cyfleuster gwaredu daearegol gwastraff ymbelydrol.
6
Mae datblygiad o fewn yr is-adran hon—
a
os adeiladu cyfleuster gwaredu daearegol gwastraff ymbelydrol ydyw, a
b
os bydd y cyfleuster (ar ôl ei adeiladu) yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru.
7
Yn yr adran hon—
ystyr “gwaredu (“disposal”) mewn perthynas â gwastraff ymbelydrol yw ei ddodi mewn cyfleuster priodol heb fwriadu ei gael yn ôl;
mae i “gwastraff ymbelydrol” yr un ystyr ag a roddir i “radioactive waste” yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (O.S. 2016/1154) (fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd) (gweler paragraff 3(1) o Ran 2 o Atodlen 23 i’r rheoliadau hynny).