RHAN 2GOFYNIAD AM GYDSYNIAD SEILWAITH
Y gofyniad
20Effaith gofyniad am gydsyniad seilwaith
1
I’r graddau y bo cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar gyfer datblygiad, nid yw’r un o’r canlynol yn ofynnol ar gyfer y datblygiad—
a
caniatâd cynllunio;
b
cydsyniad o dan adran 36 neu 37 o Ddeddf Trydan 1989 (p. 29) (adeiladu etc. orsafoedd cynhyrchu a gosod llinellau uwchben);
c
awdurdodiad o dan y Rhannau a ganlyn o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (dsc 3)—
i
Rhan 2 (gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig: awdurdodi dosbarthau ac awdurdodi drwy gydsyniad heneb gofrestredig);
ii
Rhan 3 (gwaith sy’n effeithio ar adeiladau rhestredig: awdurdodi drwy gydsyniad adeilad rhestredig);
iii
Rhan 4 (dymchwel adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth: awdurdodi drwy gydsyniad ardal gadwraeth).
2
I’r graddau y bo cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar gyfer datblygiad, ni chaniateir awdurdodi’r datblygiad gan unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
a
gorchymyn o dan adran 14 neu 16 o Ddeddf Harbyrau 1964 (p. 40) (gorchmynion mewn perthynas â harbyrau, dociau a cheiau);
b
gorchymyn o dan adran 1 neu 3 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42) (gorchmynion o ran rheilffyrdd, tramffyrdd, dyfrffyrdd mewndirol etc.).
3
Os yw cydsyniad seilwaith yn ofynnol i adeiladu, gwella neu addasu priffordd, ni chaniateir i unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael ei wneud neu eu gwneud na’i gadarnhau neu eu cadarnhau mewn perthynas â’r briffordd neu mewn cysylltiad ag adeiladu, gwella neu addasu’r briffordd—
a
gorchymyn o dan adran 10 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66) (darpariaethau cyffredinol o ran cefnffyrdd) sy’n cyfarwyddo y dylai’r briffordd ddod yn gefnffordd;
b
gorchymyn o dan adran 14 o’r Ddeddf honno (gorchmynion atodol sy’n ymwneud â chefnffyrdd a ffyrdd dosbarthiadol);
c
cynllun o dan adran 16 o’r Ddeddf honno (cynlluniau sy’n awdurdodi darparu ffyrdd arbennig);
d
gorchymyn o dan adran 18 o’r Ddeddf honno (gorchmynion atodol sy’n ymwneud â ffyrdd arbennig);
e
gorchymyn neu gynllun o dan adran 106 o’r Ddeddf honno (gorchmynion a chynlluniau sy’n darparu ar gyfer adeiladu pontydd dros ddyfroedd mordwyol neu dwnelau odanynt);
f
gorchymyn o dan adran 108 o’r Ddeddf honno (gorchmynion sy’n awdurdodi dargyfeirio cyrsiau dŵr mordwyol);
g
gorchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22) (gorchmynion tollau).
4
Os yw cydsyniad seilwaith yn ofynnol i adeiladu, gwella neu addasu priffordd, nid yw adran 110 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66) (pŵer i awdurdodi dargyfeirio dyfroedd anfordwyol) yn gymwys mewn perthynas â’r briffordd nac mewn cysylltiad ag adeiladu, gwella neu addasu’r briffordd.