RHAN 2GOFYNIAD AM GYDSYNIAD SEILWAITH
Pwerau i newid y gofyniad neu ei effaith
22Cyfarwyddydau sy’n pennu bod datblygiad yn brosiect seilwaith arwyddocaol
1
Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n pennu bod datblygiad yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
2
Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1)—
a
os bydd y datblygiad (ar ôl ei gwblhau) yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru neu yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn ardal forol Cymru,
b
os yw’r datblygiad yn brosiect (neu’n brosiect arfaethedig) neu’n ffurfio rhan o brosiect (neu brosiect arfaethedig) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod o arwyddocâd cenedlaethol i Gymru, naill ai ar ei ben ei hun neu pan y’i hystyrir ar y cyd ag un neu ragor o brosiectau eraill, ac
c
os yw’r datblygiad yn brosiect (neu’n brosiect arfaethedig) neu’n ffurfio rhan o brosiect (neu brosiect arfaethedig) o fath a bennir mewn rheoliadau.
3
Mae cyfarwyddyd o dan is-adran (1) yn gymwys i ddatblygiad sy’n rhannol yng Nghymru neu yn rhannol yn ardal forol Cymru dim ond i’r graddau y bo’r datblygiad yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru.
4
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod o fewn is-adran (5) ddarparu unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru at ddiben eu galluogi i benderfynu—
a
pa un ai i roi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) ai peidio, a
b
ym mha dermau y dylid rhoi cyfarwyddyd o’r fath.
5
Mae awdurdod o fewn yr is-adran hon os yw cais am gydsyniad adran 20 mewn perthynas â’r datblygiad wedi ei wneud iddo, neu y gallai gael ei wneud iddo.