RHAN 2GOFYNIAD AM GYDSYNIAD SEILWAITH
Pwerau i newid y gofyniad neu ei effaith
25Cyfarwyddydau o dan adrannau 22 i 24: darpariaeth gyffredinol
1
Mae’r adran hon yn gymwys i gyfarwyddydau o dan adrannau 22, 23 a 24.
2
Caniateir rhoi cyfarwyddyd yn ddarostyngedig i amodau.
3
Caiff cyfarwyddyd bennu o fewn pa gyfnod y mae’n cael effaith.
4
Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd yn dilyn archiad cymhwysol oddi wrth ddatblygwr neu pan na cheir archiad cymhwysol oddi wrth ddatblygwr.
5
Nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried archiad am gyfarwyddyd oni bai ei fod yn archiad cymhwysol oddi wrth ddatblygwr.
6
Os yw Gweinidogion Cymru yn cael archiad cymhwysol, rhaid iddynt roi rhesymau dros eu penderfyniad i roi neu i beidio â rhoi’r cyfarwyddyd y gwnaed archiad amdano i’r person a wnaeth yr archiad.
7
Yn yr adran hon—
ystyr “archiad cymhwysol” (“qualifying request”) yw archiad ysgrifenedig am gyfarwyddyd o dan yr adran hon sy’n pennu’r datblygiad y mae’n ymwneud ag ef;
ystyr “datblygwr” (“developer”) yw—
- a
person sy’n bwriadu cynnal unrhyw ran neu’r cyfan o’r datblygiad y mae’r archiad yn ymwneud ag ef;
- b
person sydd wedi gwneud cais, neu sy’n bwriadu gwneud cais, am gydsyniad adran 20 mewn perthynas ag unrhyw ran neu’r cyfan o’r datblygiad;
- c
person sydd, os rhoddir cyfarwyddyd o dan adran 22(1) mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw, yn bwriadu gwneud cais am gydsyniad seilwaith ar gyfer unrhyw ran neu’r cyfan o’r datblygiad hwnnw.
- a