RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYDSYNIAD SEILWAITH

Cymorth i geisyddion

28Cael gwybodaeth ynghylch buddiannau mewn tir

(1)

Pan fo person yn gwneud cais, neu’n cynnig gwneud cais, am orchymyn cydsyniad seilwaith mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys at ddiben galluogi’r person (“y ceisydd”) i gydymffurfio â darpariaethau adran 29, adran 30 neu adrannau 64 i 72, neu ddarpariaethau a wneir odanynt.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi’r ceisydd i gyflwyno hysbysiad i berson a bennir yn is-adran (4) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person (“y derbynnydd”) roi i’r ceisydd yn ysgrifenedig enw a chyfeiriad unrhyw berson y mae’r derbynnydd yn credu ei fod yn un neu ragor o’r canlynol—

(a)

perchennog, lesddeiliad, tenant (beth bynnag y bo cyfnod y denantiaeth) neu feddiannwr y tir;

(b)

person a chanddo fuddiant yn y tir;

(c)

person sydd â phŵer—

(i)

i werthu a thrawsgludo’r tir, neu

(ii)

i ryddhau’r tir.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi’r ceisydd i gyflwyno hysbysiad i berson a bennir yn is-adran (4) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person (“y derbynnydd”) roi i’r ceisydd yn ysgrifenedig enw a chyfeiriad unrhyw berson y mae’r derbynnydd yn credu ei fod yn berson, pe bai’r gorchymyn a geisir gan y cais neu’r cais arfaethedig yn cael ei wneud a’i weithredu’n llawn, a fyddai â hawlogaeth neu a allai fod â hawolgaeth i wneud hawliad perthnasol—

(a)

o ganlyniad i weithredu’r gorchymyn,

(b)

o ganlyniad i’r ffaith bod y gorchymyn wedi ei weithredu, neu

(c)

o ganlyniad i’r defnydd o’r tir ar ôl i’r gorchymyn gael ei weithredu.

(4)

Y personau yw—

(a)

person sy’n meddiannu’r tir;

(b)

person a chanddo fuddiant yn y tir fel rhydd-ddeiliad, morgeisai neu lesddeiliad;

(c)

person sy’n cael rhent yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol am y tir;

(d)

person sydd, yn unol â chytundeb rhwng y person hwnnw a pherson a chanddo fuddiant yn y tir, wedi ei awdurdodi i reoli’r tir neu i drefnu i’w osod.

(5)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3), gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)

ffurf a chynnwys hysbysiad;

(b)

sut y mae hysbysiad i’w roi;

(c)

yr amserlen ar gyfer ymateb i hysbysiad.

(6)

Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) a gyflwynir i’r person.

(7)

Mae person yn cyflawni trosedd os yw, mewn ymateb i hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) a gyflwynir i’r person—

(a)

yn rhoi gwybodaeth sy’n anwir o ran manylyn perthnasol, a

(b)

pan fo’r person yn gwneud hynny, yn gwybod neu y dylai yn rhesymol fod yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir.

(8)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(9)

Yn is-adrannau (2) i (4) ystyr “y tir” yw—

(a)

y tir y mae’r cais, neu’r cais arfaethedig, yn ymwneud ag ef, neu

(b)

unrhyw ran o’r tir hwnnw.

(10)

Mae i unrhyw ymadrodd arall sy’n ymddangos yn y naill neu’r llall o baragraffau (b) ac (c) o is-adran (2) a hefyd yn adran 5(1) o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (p. 56), yn y paragraffau hynny, yr ystyr a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn adran 5(1) o’r Ddeddf honno.

(11)

Yn is-adran (4) fel y mae’n gymwys at ddibenion is-adran (3) mae “y tir” hefyd yn cynnwys unrhyw dir perthnasol yr effeithir arno (gweler is-adran (12)).

(12)

Pan fo’r ceisydd yn credu, pe bai’r gorchymyn a geisir gan y cais neu’r cais arfaethedig yn cael ei wneud a’i weithredu’n llawn, y byddai personau â hawlogaeth neu a allai fod â hawlogaeth—

(a)

o ganlyniad i weithredu’r gorchymyn,

(b)

o ganlyniad i’r ffaith bod y gorchymyn wedi ei weithredu, neu

(c)

o ganlyniad i’r defnydd o’r tir ar ôl i’r gorchymyn gael ei weithredu,

i wneud hawliad perthnasol mewn cysylltiad ag unrhyw dir neu mewn cysylltiad â buddiant mewn unrhyw dir, mae’r tir hwnnw yn “tir perthnasol yr effeithir arno” at ddibenion is-adran (11).

(13)

Yn yr adran hon, ystyr “hawliad perthnasol” yw—

(a)

hawliad o dan adran 10 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (digollediad pan na wneir iawn am brynu tir yn orfodol neu pan na wneir iawn am effaith niweidiol sy’n deillio o brynu gorfodol);

(b)

hawliad o dan Ran 1 o Ddeddf Digollediad Tir 1973 (p. 26) (digollediad am ddibrisiant yng ngwerth tir gan ffactorau ffisegol a achosir gan ddefnydd o waith cyhoeddus);

(c)

hawliad o dan adran 101(3).