RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYDSYNIAD SEILWAITH
Y weithdrefn gwneud cais
33Penderfynu ar ddilysrwydd cais a hysbysu’r ceisydd
1
Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais am gydsyniad seilwaith rhaid iddynt benderfynu a ydynt yn derbyn y cais fel cais dilys ai peidio.
2
Mae cais yn gais dilys—
a
os yw’n dod i law Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod a bennir mewn rheoliadau o dan adran 32(4)(g);
b
os yw’n cydymffurfio â’r gofynion a osodir gan adran 32 neu odani.
3
Os yw Gweinidogion Cymru yn derbyn y cais rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’r penderfyniad i’r ceisydd.
4
Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu na ellir derbyn y cais rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’u penderfyniad i’r ceisydd gan roi rhesymau dros y penderfyniad.
5
At ddibenion y Ddeddf hon mae cais yn cael ei dderbyn fel cais dilys ar y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad am y penderfyniad i’r ceisydd o dan is-adran (1).