RHAN 4ARCHWILIO CEISIADAU
Archwilio ceisiadau
45Pŵer i fynd ar dir mewn cysylltiad ag archwiliad
1
Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru fynd ar dir yng Nghymru ar adeg resymol at ddiben edrych ar y tir mewn cysylltiad ag archwilio ceisiadau o dan y Rhan hon.
2
Mewn perthynas â pherson sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan is-adran (1)—
a
rhaid iddo, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y person, a datgan diben mynd ar y tir, cyn mynd arno,
b
ni chaiff fynnu cael mynediad fel hawl i unrhyw dir sydd wedi ei feddiannu oni roddwyd 14 o ddiwrnodau o rybudd o’r mynediad bwriadedig i’r meddiannydd,
c
caiff fynd ag unrhyw bersonau eraill sy’n angenrheidiol ar y tir,
d
rhaid iddo, os yw’n ymadael â’r tir ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth y person arno, ac
e
rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw amodau eraill y rhoddir awdurdodiad Gweinidogion Cymru yn ddarostyngedig iddynt.
3
Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn rhwystro’n fwriadol berson sy’n gweithredu wrth arfer pŵer o dan is-adran (1).
4
Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (3) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.