RHAN 4ARCHWILIO CEISIADAU

Archwilio ceisiadau

48Mynediad at dystiolaeth mewn ymchwiliad

(1)

Mewn ymchwiliad lleol a gynhelir o dan adran 47—

(a)

rhaid clywed tystiolaeth lafar yn gyhoeddus, a

(b)

rhaid i dystiolaeth ddogfennol fod ar gael i’r cyhoedd edrych arni.

(2)

Ond os yw awdurdod gweinidogol yn fodlon bod y ddau amod yn is-adran (3) wedi eu bodloni mewn perthynas ag ymchwiliad o’r fath, caiff gyfarwyddo’r awdurdod archwilio sy’n cynnal yr ymchwiliad nad yw tystiolaeth o fath a bennir yn y cyfarwyddyd i’w chlywed nac ar gael i edrych arni yn yr ymchwiliad hwnnw ond gan bersonau a bennir yn y cyfarwyddyd neu gan bersonau o fath a bennir ynddo.

(3)

Yr amodau yw—

(a)

y byddai rhoi tystiolaeth o ddisgrifiad penodol yn gyhoeddus neu sicrhau ei bod ar gael i’r cyhoedd edrych arni yn debygol o arwain at ddatgelu gwybodaeth—

(i)

am ddiogelwch cenedlaethol, neu

(ii)

am y mesurau a gymerwyd neu sydd i’w cymryd i sicrhau diogelwch unrhyw dir neu unrhyw eiddo arall, a

(b)

y byddai datgelu’r wybodaeth i’r cyhoedd yn erbyn y buddiant cenedlaethol.

(4)

Os yw awdurdod gweinidogol yn ystyried rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, caiff y Cwnsler Cyffredinol benodi person (“cynrychiolydd penodedig”) i gynrychioli buddiannau unrhyw berson a fydd yn cael ei atal rhag clywed unrhyw dystiolaeth neu edrych ar unrhyw dystiolaeth mewn ymchwiliad lleol os rhoddir y cyfarwyddyd.

(5)

Os nad oes cynrychiolydd penodedig pan fydd awdurdod gweinidogol yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, caiff y Cwnsler Cyffredinol benodi person yn gynrychiolydd penodedig ar unrhyw adeg at ddibenion yr ymchwiliad.

(6)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)

y weithdrefn sydd i’w dilyn gan awdurdod gweinidogol cyn iddo roi cyfarwyddyd o dan yr adran hon mewn achos pan geir cynrychiolydd penodedig;

(b)

swyddogaethau cynrychiolydd penodedig.

(7)

Yn yr adran hon ac yn adran 49, ystyr “awdurdod gweinidogol” yw Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol.