RHAN 5PENDERFYNU AR GEISIADAU AM GYDSYNIAD SEILWAITH
Y penderfyniad
60Rhoi neu wrthod cydsyniad seilwaith
1
Pan fydd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith, rhaid i Weinidogion Cymru naill ai—
a
gwneud gorchymyn sy’n rhoi cydsyniad seilwaith (“gorchymyn cydsyniad seilwaith”), neu
b
gwrthod cydsyniad seilwaith.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r canlynol am eu penderfyniad i naill ai gwneud gorchymyn cydsyniad seilwaith neu wrthod cydsyniad seilwaith—
a
y ceisydd;
b
unrhyw awdurdod cynllunio neu gyngor cymuned sydd wedi cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais;
c
Cyfoeth Naturiol Cymru os yw wedi cyflwyno adroddiad effaith ar y môr i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais;
d
unrhyw berson arall neu berson arall o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.
3
Pan fydd yr awdurdod archwilio wedi penderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith, rhaid iddo naill ai—
a
hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod wedi penderfynu bod gorchymyn cydsyniad seilwaith i’w wneud, neu
b
gwrthod cydsyniad seilwaith.
4
Rhaid i’r awdurdod archwilio hysbysu’r canlynol am ei benderfyniad naill ai bod gorchymyn cydsyniad seilwaith i’w wneud neu i wrthod cydsyniad seilwaith—
a
y ceisydd;
b
unrhyw awdurdod cynllunio neu gyngor cymuned sydd wedi cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais;
c
Cyfoeth Naturiol Cymru os yw wedi cyflwyno adroddiad effaith ar y môr i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais;
d
unrhyw berson arall neu berson arall o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.
5
Pan fydd Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan is-adran (3)(a), rhaid iddynt wneud gorchymyn cydsyniad seilwaith mewn cysylltiad â’r cais y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.
6
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy’n rheoleiddio’r weithdrefn i’w dilyn os yw—
a
Gweinidogion Cymru yn cynnig gwneud gorchymyn cydsyniad seilwaith ar delerau sy’n sylweddol wahanol i’r rhai a gynigir yn y cais;
b
Gweinidogion Cymru yn cynnig gwneud gorchymyn cydsyniad seilwaith ar delerau sy’n sylweddol wahanol i’r rhai a gynigir yn y cais o ganlyniad i hysbysiad o dan is-adran (3)(a).