RHAN 5PENDERFYNU AR GEISIADAU AM GYDSYNIAD SEILWAITH
Y penderfyniad
62Rhesymau dros benderfynu rhoi neu wrthod cydsyniad seilwaith
1
Pan fydd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith, rhaid iddynt lunio datganiad o’u rhesymau dros benderfynu—
a
gwneud gorchymyn cydsyniad seilwaith, neu
b
gwrthod cydsyniad seilwaith.
2
Pan fydd yr awdurdod archwilio wedi penderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith, rhaid iddo lunio datganiad o’i resymau dros benderfynu—
a
bod gorchymyn cydsyniad seilwaith i’w wneud, neu
b
gwrthod cydsyniad seilwaith.
3
Rhaid i’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) ddarparu copi o’r datganiad i—
a
y ceisydd;
b
unrhyw awdurdod cynllunio neu gyngor cymuned sydd wedi cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais;
c
Cyfoeth Naturiol Cymru os yw wedi cyflwyno adroddiad effaith ar y môr i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais;
d
unrhyw berson neu berson o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.
4
Rhaid i’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) gyhoeddi’r datganiad yn y modd y maent, neu y mae, yn ystyried ei fod yn briodol.