72Hysbysiad o awdurdodiad i gaffael yn orfodolLL+C
(1)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth sy’n gosod gofynion ar ddarpar brynwr—
(a)i roi, i gyhoeddi ac i arddangos hysbysiad caffael gorfodol;
(b)i alluogi’r cyhoedd i weld copi o’r gorchymyn cydsyniad seilwaith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.
(2)Ystyr hysbysiad caffael gorfodol yw hysbysiad ar y ffurf a bennir mewn rheoliadau—
(a)sy’n disgrifio tir y gorchymyn,
(b)mewn achos pan fo’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael hawl dros dir yn orfodol drwy greu hawl newydd, sy’n disgrifio’r hawl,
(c)sy’n datgan bod y gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael hawl dros y tir yn orfodol drwy greu hawl drosto neu (yn ôl y digwydd) gaffael y tir yn orfodol,
(d)mewn achos pan fo’r gorchymyn yn cymhwyso Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 (p. 66)—
(i)sy’n cynnwys datganiad a bennir mewn rheoliadau ynghylch effaith y Rhannau hynny, a
(ii)sy’n gwahodd unrhyw berson a fyddai â hawlogaeth i hawlio digollediad pe bai datganiad yn cael ei gwblhau o dan adran 4 o’r Ddeddf honno i roi gwybodaeth i’r darpar brynwr ynghylch enw a chyfeiriad y person a’i fuddiant yn y tir gan ddefnyddio ffurf a bennir mewn rheoliadau,
(e)sy’n datgan ymhle a phryd y mae copi o’r gorchymyn ar gael i edrych arno yn unol â rheoliadau o dan is-adran (1)(b), ac
(f)sy’n datgan na chaiff person a dramgwyddir gan y gorchymyn ond herio’r gorchymyn yn unol ag adran 96.
(3)Yn yr adran hon—
ystyr “y darpar brynwr” (“the prospective purchaser”) yw—
(a)mewn achos pan fo’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael hawl dros dir yn orfodol drwy greu hawl newydd, y person y mae’r gorchymyn yn awdurdodi creu’r hawl er ei fudd;
(b)mewn unrhyw achos arall pan fo’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael tir yn orfodol, y person a awdurdodir gan y gorchymyn i gaffael y tir yn orfodol;
ystyr “tir y gorchymyn” (“the order land”) yw—
(a)mewn achos pan fo’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael hawl dros dir yn orfodol drwy greu hawl newydd, y tir y mae’r hawl i fod yn arferadwy drosto neu (yn achos cyfamod cyfyngol) y mae’n gymwys iddo;
(b)mewn unrhyw achos arall pan fo’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael tir yn orfodol, y tir yr awdurdodir ei gaffael yn orfodol.
(4)Rhaid i’r darpar brynwr anfon hysbysiad caffael gorfodol at y Prif Gofrestrydd Tir ac mae i fod yn bridiant tir lleol mewn cysylltiad â’r tir y mae’n ymwneud ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 72 mewn grym ar 4.6.2024 at ddibenion penodedig, gweler a. 147(1)(b)