(1)Os bodlonir amod yn is-adran (2) neu (3), caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sydd—
(a)yn dileu gofyniad bod cydsyniad penodedig awdurdod perthnasol i’w roi;
(b)yn tybio bod cydsyniad penodedig awdurdod perthnasol wedi ei roi.
(2)Yr amod yw bod yr awdurdod perthnasol wedi rhoi cydsyniad i gynnwys y ddarpariaeth cyn diwedd y cyfnod penodedig.
(3)Yr amod yw nad yw’r awdurdod perthnasol wedi gwrthod cydsyniad i’r ddarpariaeth gael ei chynnwys cyn diwedd y cyfnod penodedig.
(4)Caiff rheoliadau ddarparu eithriadau i’r gofyniad i fodloni’r amodau yn is-adrannau (2) a (3).
(5)Yn yr adran hon—
ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw’r awdurdod y byddai ganddo fel arall y swyddogaeth o benderfynu a ddylid rhoi’r cydsyniad penodedig ai peidio;
ystyr “cydsyniad” (“consent”) yw—
cydsyniad neu awdurdodiad y mae’n ofynnol, o dan ddeddfiad, ei gael ar gyfer datblygiad,
cydsyniad neu awdurdodiad—
a gaiff awdurdodi datblygiad, a
a roddir o dan ddeddfiad, neu
hysbysiad y mae’n ofynnol gan ddeddfiad ei roi mewn perthynas â datblygiad;
ystyr “penodedig” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn rheoliadau.