RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH
Gwneud newidiadau i orchmynion cydsyniad seilwaith a’u dirymu
91Y weithdrefn: newid a dirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith
1
Mewn perthynas â chais o dan adran 90—
a
rhaid iddo gael ei wneud ar y ffurf a bennir gan reoliadau;
b
rhaid iddo gael ei wneud yn y modd a bennir mewn rheoliadau;
c
rhaid i wybodaeth o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau fynd gyda’r cais.
2
Pan fo gan berson fuddiant ym mheth, ond nid y cyfan, o’r tir y mae gorchymyn cydsyniad seilwaith yn ymwneud ag ef, caiff y person wneud cais o dan adran 90 mewn cysylltiad â hynny o’r gorchymyn cydsyniad ag sy’n effeithio ar y tir y mae gan y person fuddiant ynddo yn unig.
3
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith a chaiff (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth ynghylch—
a
y weithdrefn sydd i’w dilyn cyn i gais o dan adran 90 gael ei wneud;
b
gwneud cais o’r fath;
c
y broses o wneud penderfyniad mewn perthynas ag arfer y pŵer a roddir gan adran 90(1);
d
gwneud y penderfyniad ynghylch a ddylid arfer y pŵer a roddir gan adran 90(1) ai peidio;
e
effaith penderfyniad i arfer y pŵer yn adran 90(1).
4
Mae paragraffau (c) i (e) o is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas ag arfer y pŵer a roddir gan adran 90(1)—
a
ar gais o dan adran 90, neu
b
heb i gais gael ei wneud (gweler adran 90(6)).
5
Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) roi swyddogaeth, gan gynnwys swyddogaeth sy’n ymwneud ag arfer disgresiwn, i unrhyw berson.
6
Os yw gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cael ei newid neu ei ddirymu wrth arfer y pŵer a roddir gan adran 90(1), rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’r newid neu’r dirymiad i—
a
y ceisydd neu olynydd yn nheitl y ceisydd,
b
y person a wnaeth y cais o dan adran 90 (os yw’n wahanol i’r person a grybwyllir ym mharagraff (a)), ac
c
unrhyw berson neu berson o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.
7
Os oedd yn ofynnol i orchymyn cydsyniad seilwaith gael ei gynnwys mewn offeryn statudol, rhaid i orchymyn sy’n newid neu’n dirymu’r gorchymyn cydsyniad seilwaith a wneir wrth arfer y pŵer a roddir gan adran 90(1) hefyd gael ei gynnwys mewn offeryn statudol.