xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3COMISIWN DEMOCRATIAETH A FFINIAU CYMRU

11Ailenwi Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

(1)Mae enw byr Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) wedi ei newid i Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013.

(2)Cyfeirir at y Ddeddf honno yn y Ddeddf hon fel “Deddf 2013”.

(3)Yn adran 76 o Ddeddf 2013 (enw byr), yn lle “Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.‍

(4)Mae Rhan 1 o Atodlen 1 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r adran hon.

12Ailenwi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

(1)Yn adran 2 o Ddeddf 2013 (enw a pharhad y Comisiwn)—

(a)hepgorer is-adran (2);

(b)ar y diwedd mewnosoder—

(3)Mae’r corff corfforedig hwnnw (a ailenwyd gyntaf gan is-adran (2)) wedi ei ailenwi yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Comisiwn).;

(c)yn y pennawd, yn lle “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru” rhodder “Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.‍

(2)Mae Rhan 2 o Atodlen 1 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r adran hon.

13Nifer aelodau’r Comisiwn

Yn adran 4(1) o Ddeddf 2013 (aelodau’r Comisiwn), yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)o leiaf 1 aelod arall ond dim mwy na 7 o aelodau eraill.

14Personau na chaniateir iddynt fod yn aelodau o’r Comisiwn neu’n brif weithredwr arno

(1)Yn adran 4(3) o Ddeddf 2013 (personau na chaniateir eu penodi yn aelodau o’r Comisiwn)—

(a)yn lle “Ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person sydd yn” rhodder “Ni chaiff aelod fod yn”;

(b)yn lle paragraff‍ (a) rhodder‍—

(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;;

(c)yn lle paragraff (b) rhodder—

(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)cynghorydd arbennig‍;.

(2)Yn adran 8(4) o’r Ddeddf honno (personau na chaniateir eu penodi yn brif weithredwr)—

(a)yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;;‍

(b)yn lle paragraff (b) rhodder—

(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)cynghorydd arbennig‍;.

(3)Yn adran 72(1) o’r Ddeddf honno (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

(4)Yn Atodlen 3 i’r Ddeddf honno (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio), yn nhabl 2—

(a)ar ôl y cofnod ar gyfer “aelod cadeirio” mewnosoder—

Aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU (Member of a UK legislature)Adran 72(1);

(b)ar ôl y cofnod ar gyfer “cyfarfod cymunedol” mewnosoder—

‍Cynghorydd arbennig (Special adviser)Adran 72(1);

(c)ar ôl y cofnod ar gyfer “newid i sir wedi ei chadw” mewnosoder—

Plaid wleidyddol gofrestredig (Registered political party)Adran 72(1).

15Cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r Comisiwn

Yn adran 6 o Ddeddf 2013 (trafodion y Comisiwn), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (1) i newid y cworwm, ond ni chânt newid y cworwm i rif sy’n is na 3.

16Comisiynwyr cynorthwyol

(1)Yn adran 11 o Ddeddf 2013 (comisiynwyr cynorthwyol y caniateir dirprwyo iddynt swyddogaethau sy’n ymwneud â llywodraeth leol)—

(a)yn lle is-adran (1) rhodder—

(1)Caiff y Comisiwn benodi un neu ragor o bersonau (a elwir yn “comisiynydd cynorthwyol) y caiff y Comisiwn ddirprwyo swyddogaethau iddo neu iddynt yn unol ag adran 13(1).;

(b)yn is-adran (2)—

(i)yn lle “Ond ni chaiff y Comisiwn benodi person sydd yn” rhodder “Ni chaiff comisiynydd cynorthwyol fod yn”;

(ii)yn lle paragraff‍ (a) rhodder‍—

(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;;

(iii)yn lle paragraff (b) rhodder—

(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)cynghorydd arbennig‍;.

(2)Yn adran 13(1) o’r Ddeddf honno (dirprwyo), yn lle “gomisiynydd cynorthwyol” rhodder “un neu fwy o’i gomisiynwyr cynorthwyol”.

(3)Yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 1A i Ddeddf 2006 (swyddi sy’n anghymhwyso’r deiliad rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisydd mewn etholiad i fod yn Aelod o’r Senedd), ar ôl y cofnod ar gyfer “Comptroller and Auditor General or Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol” mewnosoder—

‍Democracy and Boundary Commission Cymru or Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau CymruThe members, assistant commissioners and chief executive of the Commission.