44(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn lle adran 1(2) (trosolwg), rhodder—
“(2)Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad a swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.”
(3)Ym mhennawd Rhan 2, yn lle “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru” rhodder “Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.
(4)Yn Atodlen 1 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—
(a)hepgorer paragraff 1(3)(b);
(b)hepgorer paragraffau 3 a 4 a’r penawdau italig o’u blaenau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 44 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)