- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, Paragraff 7.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
7(1)Ar ddiwedd y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn—
(a)cyhoeddi dogfen sy’n nodi unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw (gan gynnwys unrhyw sylwadau ar yr adroddiad cychwynnol a wnaed gan Gomisiynydd y Gymraeg pan ymgynghorwyd â’r Comisiynydd o dan baragraff 6(3)),
(b)ystyried ei gynigion gan roi sylw i’r sylwadau hynny, ac
(c)os yw’r Comisiwn, ar ôl ystyried ei gynigion, yn ystyried unrhyw newidiadau i enw arfaethedig etholaeth Senedd fel y’i nodir yn yr adroddiad cychwynnol, rhaid iddo—
(i)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a
(ii)rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig.
(2)Ar ôl cymryd y camau yn is-baragraff (1), rhaid i’r Comisiwn wneud ail adroddiad yn nodi’r etholaethau Senedd arfaethedig, gan gynnwys—
(a)pa etholaethau seneddol y DU yng Nghymru sy’n gyffiniol sydd i’w cyfuno i greu ardaloedd yr 16 o etholaethau’r Senedd,
(b)enw arfaethedig pob etholaeth, ac
(c)manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion yn yr adroddiad cychwynnol, ac esboniad ynghylch pam y gwnaed y newidiadau hynny.
(3)Rhaid i’r Comisiwn—
(a)cyhoeddi’r ail adroddiad,
(b)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r adroddiad,
(c)gwahodd sylwadau ar yr adroddiad, a
(d)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau.
(4)Yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg.
(5)Mae’r ail gyfnod ar gyfer sylwadau yn gyfnod o bedair wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr ail adroddiad.
(6)Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw rhaid i’r Comisiwn—
(a)cyhoeddi dogfen sy’n nodi unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw (gan gynnwys unrhyw sylwadau ar yr ail adroddiad a wnaed gan Gomisiynydd y Gymraeg pan ymgynghorwyd â’r Comisiynydd o dan is-baragraff (4)),
(b)ystyried ei gynigion gan roi sylw i’r sylwadau hynny, ac
(c)os yw’r Comisiwn, ar ôl ystyried ei gynigion, yn ystyried unrhyw newidiadau i enw arfaethedig etholaeth Senedd fel y’i nodir yn yr ail adroddiad, rhaid iddo—
(i)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a
(ii)rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(b)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: