ATODLEN 3RHAN NEWYDD 3A O DDEDDF 2013
1Rhan 3A o Ddeddf 2013
Yn Neddf 2013, ar ôl Rhan 3 mewnosoder—
RHAN 3AADOLYGIADAU O FFINIAU ETHOLAETHAU’R SENEDD
49AAdolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd
1
Rhaid i’r Comisiwn gynnal adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd unwaith ym mhob cyfnod adolygu.
2
Adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd yw adolygiad o etholaethau’r Senedd at ddiben penderfynu a ddylai’r ffiniau hynny newid er mwyn rhoi effaith i’r rheolau a nodir yn adran 49C.
3
Os yw’r Comisiwn yn penderfynu yn ystod adolygiad y dylai ffiniau etholaeth Senedd newid, rhaid i’r Comisiwn hefyd benderfynu—
a
yr hyn ddylai fod yr enwau ar yr etholaethau yr effeithir arnynt;
b
pa un a yw pob etholaeth yr effeithir arni yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.
4
Ond os yw’r Comisiwn yn penderfynu yn ystod adolygiad, er na ddylai ffiniau etholaeth Senedd newid, y dylai enw’r etholaeth newid neu y dylai ei dynodiad yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol newid, caiff y Comisiwn benderfynu—
a
yr hyn ddylai fod yr enw ar yr etholaeth;
b
pa un a ddylai fod yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.
5
At ddiben is-adran (1), ystyr “cyfnod adolygu” yw—
a
y cyfnod sy’n dechrau ag 1 Ebrill 2025 ac sy’n dod i ben â 30 Tachwedd 2028,
b
y cyfnod o 8 mlynedd sy’n dechrau ag 1 Rhagfyr 2028, ac
c
pob cyfnod dilynol o 8 mlynedd.
49BHysbysiad cychwyn adolygiad ffiniau etholaethau’r Senedd
1
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cychwyn adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd, rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi hysbysiad—
a
yn datgan bod y Comisiwn wedi cychwyn adolygiad, a
b
yn pennu’r dyddiad y cychwynnodd yr adolygiad arno.
2
Yn y Rhan hon, ystyr “dyddiad yr adolygiad” yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan is-adran (1)(b).
49CRheolau ynghylch etholaethau
1
Rhaid i’r etholyddiaeth ar gyfer pob etholaeth Senedd fod yn—
a
dim llai na 90% o’r cwota etholiadol, a
b
dim mwy na 110% o’r cwota etholiadol.
2
Wrth ystyried, yn ystod adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd, pa un a ddylid gwneud newidiadau i etholaethau’r Senedd, a pha newidiadau y dylid eu gwneud—
a
caiff y Comisiwn roi sylw i—
i
ffiniau llywodraeth leol sy’n bodoli neu sy’n ddarpar ffiniau ar ddyddiad yr adolygiad;
ii
ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol faint, siâp a hygyrchedd etholaeth Senedd arfaethedig neu etholaeth Senedd bresennol;
iii
unrhyw gwlwm lleol (gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â’r defnydd o’r Gymraeg) a fyddai’n cael ei dorri gan y newidiadau hynny; ond
b
sut bynnag, rhaid i’r Comisiwn—
i
ceisio sicrhau y gwneir cyn lleied o newidiadau â phosibl i etholaethau’r Senedd sy’n bodoli ar ddyddiad yr adolygiad, a
ii
rhoi sylw i’r anghyfleustra a achosir drwy wneud newidiadau i etholaethau’r Senedd.
3
At ddibenion is-adran (1)—
a
yr etholyddiaeth yw cyfanswm nifer yr etholwyr llywodraeth leol, a
b
y cwota etholiadol yw etholyddiaeth Cymru wedi ei rannu ag 16 (sef nifer etholaethau’r Senedd), ac
at ddibenion paragraff (a), etholwr llywodraeth leol yw person sydd wedi ei gofrestru yn y fersiwn berthnasol o’r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol mewn cyfeiriad o fewn etholaeth Senedd.
4
Y fersiwn berthnasol o’r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol, ar ddyddiad yr adolygiad, yw’r fersiwn ddiweddaraf a gyhoeddwyd o dan adran 13(1)(a) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2).
5
Yn achos ffin llywodraeth leol sy’n ddarpar ffin ar ddyddiad yr adolygiad, y ffin honno (yn hytrach nag unrhyw ffin sy’n bodoli eisoes a ddisodlir ganddi) yw’r ffin y mae rhaid ei hystyried o dan is-adran (2)(a)(i).
6
Mae ffin llywodraeth leol yn “ddarpar ffin” ar ddyddiad yr adolygiad—
a
os yw’r ffin, ar y dyddiad hwnnw, wedi ei phennu mewn darpariaeth mewn—
i
deddfwriaeth sylfaenol, neu
ii
offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth sylfaenol, a
b
os nad yw’r ddarpariaeth sy’n pennu’r ffin mewn grym hyd hynny at bob diben ar y dyddiad hwnnw.
7
Yn is-adran (6), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—
a
Deddf a ddeddfir o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
b
Mesur a ddeddfwyd o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno;
c
Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.
49DPenderfynu ar enwau etholaethau’r Senedd
1
Rhaid i bob etholaeth Senedd gael enw unigol at ddibenion adnabod yr etholaeth mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, oni bai bod y Comisiwn yn ystyried y byddai hyn yn annerbyniol (os felly caniateir i’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg).
2
Cyn gwneud ei adroddiad cychwynnol (gweler adran 49E) rhaid i’r Comisiwn, os yw’n bwriadu gwneud cynnig yn ymwneud ag enw etholaeth Senedd—
a
ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a
b
ystyried ei gynnig gan roi sylw i unrhyw sylwadau gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig.
3
Mae gofyniad o dan y Rhan hon i nodi enw neu enw arfaethedig etholaeth Senedd mewn adroddiad, pan fo’r Comisiwn yn ystyried y dylai’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, yn ofyniad i nodi’r ddau enw—
a
yn fersiwn Gymraeg yr adroddiad, a
b
yn fersiwn Saesneg yr adroddiad.
49EAdroddiad cychwynnol ar yr adolygiad ffiniau a’r cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau
1
Ar ôl cymryd y camau yn adrannau 49B(1) a 49D(2), rhaid i’r Comisiwn wneud adroddiad cychwynnol yn nodi—
a
cynigion y Comisiwn ar gyfer newid i—
i
ffiniau etholaethau’r Senedd;
ii
enwau etholaethau’r Senedd, neu
b
os nad yw’n ystyried bod unrhyw newid yn briodol, datganiad i’r perwyl hwnnw.
2
Rhaid i’r Comisiwn—
a
cyhoeddi’r adroddiad cychwynnol,
b
hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r adroddiad,
c
gwahodd sylwadau ar yr adroddiad, a
d
hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau.
3
Yn ystod y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg.
4
Mae’r cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau yn gyfnod o wyth wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr adroddiad cychwynnol.
49FCyhoeddi sylwadau ac ymgynghori arnynt
1
Ar ddiwedd y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau, rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi dogfen yn nodi unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw (gan gynnwys unrhyw sylwadau ar yr adroddiad cychwynnol a wnaed gan Gomisiynydd y Gymraeg pan ymgynghorwyd â’r Comisiynydd o dan adran 49E(3)).
2
Rhaid i’r Comisiwn hefyd—
a
hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r ddogfen a gyhoeddir o dan is-adran (1),
b
gwahodd sylwadau mewn cysylltiad â’r sylwadau a nodir yn y ddogfen a gyhoeddir o dan is-adran (1),
c
hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau, a
d
cyhoeddi gwybodaeth ynghylch yr amseroedd a’r lleoedd y cynhelir gwrandawiadau cyhoeddus o dan adran 49G a, phan fo gwrandawiadau i’w cynnal yn rhannol wyneb yn wyneb ac yn rhannol drwy ddefnyddio cyfleusterau o bell, bennu cyfarwyddiadau ynghylch sut i wneud sylwadau drwy ddefnyddio cyfleusterau o bell.
3
Mae’r ail gyfnod ar gyfer sylwadau yn gyfnod o chwe wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir y ddogfen o dan is-adran (1).
4
Yn is-adran (2)(d), ystyr “cyfleusterau o bell” yw unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi pobl nad ydynt yn y man lle y cynhelir y gwrandawiad i wneud sylwadau yn y gwrandawiad.
49GGwrandawiadau cyhoeddus
1
Yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau, rhaid i’r Comisiwn gynnal o leiaf ddau o wrandawiadau cyhoeddus, ond nid mwy na phump o’r gwrandawiadau cyhoeddus hynny, i alluogi gwneud sylwadau ynghylch ei gynigion.
2
Rhaid i’r gwrandawiadau cyhoeddus rhyngddynt gwmpasu Cymru gyfan.
3
Rhaid i wrandawiad cyhoeddus gael ei gwblhau o fewn dau ddiwrnod.
4
Os yw gwrandawiad i’w gynnal yn rhannol drwy ddefnyddio cyfleusterau o bell (o fewn yr ystyr a roddir yn adran 49F(4)), rhaid i’r cyfleusterau o bell alluogi’r bobl sy’n gwneud sylwadau yn y gwrandawiad ond nad ydynt yn y man lle y cynhelir y gwrandawiad i siarad ac i gael eu clywed gan (pa un a yw’n galluogi’r bobl hynny i weld ac i gael eu gweld ai peidio gan)—
a
ei gilydd, a
b
pobl yn y man lle y cynhelir y gwrandawiad.
5
Rhaid i’r Comisiwn benodi person i fod yn gadeirydd ar bob gwrandawiad (“y cadeirydd”).
6
Rhaid i’r cadeirydd bennu’r weithdrefn sydd i lywodraethu’r gwrandawiad hwnnw.
7
Rhaid i’r cadeirydd wneud trefniadau i wrandawiad cyhoeddus ddechrau gydag esboniad o—
a
y cynigion y mae’r gwrandawiad yn ymwneud â hwy;
b
sut y caniateir gwneud sylwadau ynghylch y cynigion.
8
Rhaid i’r cadeirydd ganiatáu i sylwadau gael eu gwneud—
a
gan bob plaid wleidyddol sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41) ac sydd naill ai—
i
ag o leiaf un Aelod o’r Senedd, neu
ii
wedi cael o leiaf 10% o’r pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholiad cyffredinol mwyaf diweddar;
b
gan unrhyw berson arall y mae’r cadeirydd yn ystyried bod ganddo fuddiant yn unrhyw un neu ragor o’r cynigion y mae’r gwrandawiad yn ymwneud â hwy (yn ddarostyngedig i is-adran (9)(c)).
9
Caiff y cadeirydd—
a
pennu ym mha drefn y gwneir sylwadau;
b
cyfyngu ar faint o amser a ganiateir ar gyfer sylwadau, ac nid oes angen iddo ganiatáu’r un faint o amser i bob person;
c
os yw’n angenrheidiol oherwydd prinder amser, benderfynu pa rai o’r personau a grybwyllir yn is-adran (8)(b) nas caniateir iddynt wneud sylwadau.
10
Caiff y cadeirydd holi cwestiynau i berson sy’n gwneud sylwadau yn y gwrandawiad, neu ganiatáu i gwestiynau cael eu holi i’r person hwnnw.
11
Os caniateir holi cwestiynau, caiff y cadeirydd reoleiddio modd y cwestiynu neu gyfyngu ar nifer y cwestiynau y caiff person eu gofyn.
49HAil adroddiad ar yr adolygiad ffiniau a’r cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau
1
Ar ddiwedd yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau—
a
rhaid i’r Comisiwn ystyried ei gynigion gan roi sylw i’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau a’r ail gyfnod ar gyfer sylwadau, a
b
os yw’r Comisiwn, ar ôl ystyried ei gynigion, yn bwriadu gwneud cynnig nas nodwyd yn yr adroddiad cychwynnol yn ymwneud ag enw etholaeth Senedd, rhaid iddo—
i
ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a
ii
rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig.
2
Ar ôl cymryd y camau yn is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn wneud ail adroddiad—
a
yn nodi—
i
cynigion y Comisiwn ar gyfer newid ffiniau ac enwau etholaethau’r Senedd, neu
ii
os nad yw’r Comisiwn yn ystyried bod unrhyw newid yn briodol, ddatganiad i’r perwyl hwnnw;
b
yn pennu manylion unrhyw newidiadau y mae’r Comisiwn wedi eu gwneud i’r cynigion a nodwyd yn yr adroddiad cychwynnol, ac esboniad ynghylch pam y gwnaed y newidiadau hynny.
3
Rhaid i’r Comisiwn—
a
cyhoeddi’r ail adroddiad,
b
cyhoeddi dogfen—
i
yn cynnwys cofnodion o’r gwrandawiadau cyhoeddus a gynhaliwyd o dan adran 49G, a
ii
yn nodi unrhyw sylwadau (o’r math a ddisgrifir yn adran 49F(2)(b)) a gafwyd yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau,
c
hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r adroddiad a’r ddogfen a gyhoeddwyd o dan baragraff (b),
d
gwahodd sylwadau—
i
ar yr adroddiad,
ii
mewn cysylltiad ag unrhyw sylwadau a wnaed yn ystod y gwrandawiadau cyhoeddus, a
iii
mewn cysylltiad ag unrhyw sylwadau (o’r math a ddisgrifir yn adran 49F(2)(b)) a gafwyd yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau, a
e
hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch y cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau.
4
Yn ystod y cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg.
5
Mae’r cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau yn gyfnod o bedair wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr ail adroddiad.
6
Ar ddiwedd y cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn—
a
cyhoeddi dogfen sy’n nodi unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw (gan gynnws unrhyw sylwadau wnaed gan Gomisiynydd y Gymraeg, pan ymgynghorwyd â’r Comisiynydd o dan is-adran (4), ar yr ail adroddiad ac ar y sylwadau a grybwyllir yn is-adran (3)(d)(ii) a (iii)),
b
ystyried ei gynigion gan roi sylw i’r sylwadau hynny, ac
c
os yw’r Comisiwn, ar ôl ystyried ei gynigion, yn bwriadu gwneud cynnig nas nodwyd yn yr ail adroddiad yn ymwneud ag enw etholaeth Senedd, rhaid iddo—
i
ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a
ii
rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig.
49IAdroddiad terfynol ar adolygiad ffiniau
1
Cyn 1 Rhagfyr 2028, a chyn 1 Rhagfyr bob wythfed flynedd ar ôl hynny, rhaid i’r Comisiwn—
a
wneud adroddiad terfynol a’i gyhoeddi, a
b
anfon yr adroddiad at Weinidogion Cymru.
2
Rhaid i’r adroddiad terfynol—
a
naill ai—
i
nodi manylion unrhyw newidiadau y mae’n ofynnol i’w gwneud i etholaethau’r Senedd, neu
ii
datgan nad yw’n ofynnol gwneud unrhyw newid i etholaethau’r Senedd, a
b
pennu manylion unrhyw newidiadau y mae’r Comisiwn wedi eu gwneud i’r cynigion a nodir yn yr ail adroddiad, ac esbonio pam y gwnaed y newidiadau hynny.
3
Os yw’n ofynnol gwneud newidiadau i ffiniau etholaethau’r Senedd, rhaid i’r adroddiad terfynol nodi—
a
ffiniau yr holl etholaethau y dychwelir Aelodau o’r Senedd ar eu cyfer,
b
enwau’r holl etholaethau hynny, ac
c
a yw pob etholaeth yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.
4
Os nad oes newid i’w wneud i ffiniau un o etholaethau’r Senedd ond bod angen newid y naill neu’r llall neu’r ddau o’r pethau a ganlyn—
a
enw’r etholaeth;
b
ei dynodiad yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol,
rhaid i’r adroddiad terfynol nodi’r newid.
5
Nid yw methiant gan y Comisiwn i gydymffurfio â therfyn amser yn is-adran (1) yn annilysu adroddiad terfynol.
6
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru gael adroddiad terfynol, rhaid iddynt ei osod gerbron Senedd Cymru.
49JGweithredu adroddiad terfynol gan Weinidogion Cymru
1
Pan fo adroddiad terfynol yn nodi newidiadau y mae’n ofynnol i’w gwneud i etholaethau’r Senedd, rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn rhoi effaith i’r penderfyniadau yn adroddiad terfynol y Comisiwn—
a
cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gosod yr adroddiad gerbron Senedd Cymru, a
b
sut bynnag, oni bai bod amgylchiadau eithriadol, cyn diwedd y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr adroddiad gerbron y Senedd.
2
Pan na fo rheoliadau wedi eu gwneud cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1)(b), rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron Senedd Cymru yn nodi’r amgylchiadau eithriadol.
3
Rhaid i ddatganiad o dan is-adran (2) gael ei osod cyn diwedd y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr adroddiad terfynol gerbron Senedd Cymru.
4
Rhaid i ddatganiadau pellach sy’n nodi’r amgylchiadau eithriadol gael eu gosod gerbron Senedd Cymru cyn diwedd pob cyfnod dilynol o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodwyd y datganiad blaenorol, hyd nes bo’r rheoliadau wedi eu gwneud.
5
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ar gyfer unrhyw faterion y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn ddeilliadol i’r penderfyniadau yn yr adroddiad terfynol, neu’n ganlyniadol arnynt.
6
Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon gael eu gwneud drwy offeryn statudol.
7
Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon gael ei osod gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r rheoliadau gael eu gwneud.
8
Nid yw dod i rym y rheoliadau hyn yn effeithio ar ddychwelyd Aelod o’r Senedd i Senedd Cymru, na chyfansoddiad Senedd Cymru, hyd nes y diddymir y Senedd mewn cysylltiad ag—
a
yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf, neu
b
etholiad cyffredinol eithriadol, y cynhelir y bleidlais ar ei gyfer—
i
yn ystod y cyfnod o fis sy’n gorffen â’r diwrnod cyn y diwrnod y byddai’r bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf wedi ei chynnal o dan adran 3(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), gan ddiystyru paragraffau (a) a (b) o’r is-adran honno, neu
ii
ar y diwrnod y byddai’r bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf wedi ei chynnal o dan adran 3(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gan ddiystyru paragraffau (a) a (b) o’r is-adran honno.
49KAddasu adroddiad terfynol gan y Comisiwn
1
Mae’r adran hon yn gymwys—
a
pan fo Gweinidogion Cymru wedi gosod adroddiad terfynol gerbron Senedd Cymru o dan adran 49I(6),
b
pan fo’r adroddiad yn nodi newidiadau y mae’n ofynnol i’w gwneud i etholaethau’r Senedd,
c
pan fo’r Comisiwn yn ystyried bod angen addasu’r adroddiad i gywiro gwall neu wallau mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion a grybwyllir yn adran 49I(3) neu (4), a
d
pan na fo’r rheoliadau wedi eu gwneud hyd hynny o dan adran 49J.
2
Caiff y Comisiwn anfon datganiad at Weinidogion Cymru yn pennu—
a
yr addasiadau i’r adroddiad, a
b
y rhesymau dros yr addasiadau hynny.
3
Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad a anfonir at Weinidogion Cymru o dan is-adran (2).
4
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru gael datganiad, rhaid iddynt ei osod gerbron Senedd Cymru.
5
Pan fo datganiad wedi ei anfon at Weinidogion Cymru, rhaid i’r rheoliadau a wneir o dan adran 49J roi effaith i’r adroddiad terfynol gyda’r addasiadau a bennir yn y datganiad.
49LDehongli’r Rhan
1
Yn y Rhan hon—
mae i “cyfleusterau o bell” (“remote facilities”) yr ystyr a roddir gan adran 49F(4);
mae i “dyddiad yr adolygiad” (“review date”) yr ystyr a roddir gan adran 49B(2);
ystyr “etholaeth Senedd” (“Senedd constituency”) yw etholaeth y darperir ar ei chyfer mewn rheoliadau a wneir o dan adran 49J;
ystyr “etholiad cyffredinol” (“general election”) yw etholiad cyffredinol cyffredin neu etholiad cyffredinol eithriadol a gynhelir o dan Ran 1 o Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
ystyr “ffiniau llywodraeth leol” (“local government boundaries”) yw ffiniau siroedd, ffiniau bwrdeistrefi sirol, ffiniau wardiau etholiadol, ffiniau cymunedau a ffiniau wardiau cymunedol yng Nghymru.
2
Pan fo’r Rhan hon yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn i gyhoeddi hysbysiad, adroddiad neu ddogfen arall, rhaid i’r hysbysiad, yr adroddiad neu ddogfen arall gael ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi—
a
ar wefan y Comisiwn, a
b
mewn unrhyw fodd arall y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol.