ATODLEN 3RHAN NEWYDD 3A O DDEDDF 2013

2Diwygiadau cysylltiedig

1

Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio yn unol ag is-baragraffau (2) i (6).

2

Yn adran 1 (trosolwg), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

3A

Mae Rhan 3A yn gwneud darpariaeth ynghylch adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd a gynhelir gan y Comisiwn.

3

Yn adran 13(1) (dirprwyo), yn lle’r geiriau o “Benodau 2” hyd at y diwedd rhodder

a

Penodau 2 i 4, 6 neu 7 o Ran 3 (swyddogaethau sy’n ymwneud â chynnal adolygiadau o lywodraeth leol neu ymchwiliadau lleol);

b

Rhan 3A (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd);

c

Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau cychwynnol),

fel a benderfynir ganddo i’r graddau y mae wedi eu dirprwyo felly.

4

Yn adran 14 (cyfarwyddiadau), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

3

Nid yw’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn yn ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 3A (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd).

5

Yn adran 71(4) (gorchmynion a rheoliadau), ar ôl “adran 45 neu 75” mewnosoder “, neu reoliadau a wneir o dan adran 49J”.

6

Yn Atodlen 3 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio), yn nhabl ‍2—

a

yn y lleoedd priodol mewnosoder—

Cyfleusterau o bell (Remote facilities)

Adran 49F(4)

Dyddiad yr adolygiad (Review date)

Adran 49B(2)

Etholaeth Senedd (Senedd constituency)

Adran 49L(1)

Etholiad cyffredinol (General election)

Adran 49L(1)

Ffiniau llywodraeth leol (Local government boundaries)

Adran 49L(1)

b

yn y cofnod ar gyfer “Etholwr llywodraeth leol (Local government elector)”, yn yr ail golofn, ar ôl “Adran 30” mewnosoder “at ddibenion Rhan 3 ac adran 49C(3) at ddibenion Rhan 3A”.

7

Yn Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, hepgorer paragraff 13 (dirprwyo swyddogaethau o dan yr Atodlen honno).