RHAN 2Y SYSTEM BLEIDLEISIO MEWN ETHOLIADAU CYFFREDINOL Y SENEDD A DYRANNU SEDDI

I110Diwygiadau cysylltiedig

1

Mae Deddf 2006 wedi ei diwygio yn unol ag is-adrannau (2) i (8).

2

Yn adran 12 (hawlogaeth i bleidleisio)—

a

yn is-adran (1), hepgorer “(or of a Member of the Senedd)”;

b

yn is-adran (2)—

i

ym mharagraff (a), yn lle “constituency vote, or more than one electoral region vote,” rhodder “vote”;

ii

ar ôl paragraff (a) mewnosoder “or”;

iii

hepgorer paragraff (c), a’r “or” o’i flaen.

3

Yn adran 13 (pŵer Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch etholiadau etc.)—

a

yn is-adran (2)—

i

hepgorer paragraff (e) (ond nid yr “and” ar ei ôl);

ii

ym mharagraff (f), yn lle “region” rhodder “constituency”;

b

yn is-adran (3), yn lle “11(3) to (5)” rhodder “11(4) to (6)”.

4

Yn adran 13A (pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud darpariaeth ynghylch cyfuno cynnal pleidleisiau), yn is-adran (1)(b) hepgorer “, and by-elections for the return of Members of the Senedd,”.

5

Yn adran 18 (effaith anghymhwyso), yn is-adran (A1) hepgorer “or an election to fill a vacancy under section 10”.

6

Yn adran 36 (uniondeb)—

a

hepgorer is-adran (6);

b

yn is-adran (11)(a) hepgorer “(apart from those in subsection (6))”.

7

Yn adran 159 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio), hepgorer y cofnodion ar gyfer yr ymadroddion a ganlyn—

a

“constituency vote”;

b

“electoral region figure”;

c

“electoral region vote”;

d

“regional returning officer”;

e

“Senedd constituency member”;

f

“Senedd electoral region”;

g

“Senedd regional member”.

8

Yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 1A (swyddi sy’n anghymhwyso’r deiliad), yn y cofnod ar gyfer swyddogion canlyniadau ar gyfer etholiadau’r Senedd, yn yr ail golofn hepgorer “or Senedd electoral region”.

9

Yn adran 7B(6) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2) (preswylfa dybiannol: datganiadau o gysylltiad lleol)—

a

ym mharagraff (a)(ii), hepgorer “or National Assembly for Wales constituency”;

b

ym mharagraff (b), hepgorer “or section 10 of the Government of Wales Act 2006”.

10

a

hepgorer adran 4A(8)(b)(ii) (swyddogaethau Cymreig datganoledig);

b

hepgorer adran 5(2A)(c) (adroddiadau ar is-etholiadau) (ond nid yr “or” ar ei hôl);

c

o’r adran 6ZA a fewnosodwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1), hepgorer is-adran (2)(b) (adolygiadau o faterion etholiadol datganoledig yng Nghymru);

d

hepgorer adran 6A(5)(d) (presenoldeb cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol mewn etholiadau);

e

o’r adran 6G a fewnosodwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (cod ymarfer ar bresenoldeb sylwedyddion mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru), hepgorer is-adran (2)(b);

f

o’r adran 9AA a fewnosodwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (safonau perfformiad ar gyfer etholiadau datganoledig a refferenda datganoledig yng Nghymru), hepgorer is-adran (6)(b)‍;

g

ym mharagraff 25 o Atodlen 1, yn yr is-baragraff (2) a fewnosodwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dehongli), o’r diffiniad o “devolved Welsh election” hepgorer paragraff (b);

h

ym mharagraff 6 o Atodlen 9 (terfynau ar wariant ymgyrch)—

i

yn is-baragraff (1), hepgorer “or regions”;

ii

yn is-baragraff (2), hepgorer paragraff (b) a’r “plus” o’i flaen.

11

Yn adran 44(7) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (p. 22) (ardal etholiadol mewn perthynas ag etholiad i’r Senedd), yn lle paragraff (b) rhodder—

b

in relation to an election to Senedd Cymru, a Senedd constituency within the meaning of section 2 of the Government of Wales Act 2006 (Senedd constituencies);

12

Yn adran 6(3) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (mccc 4) (swyddogaethau’r Comisiynydd)—

a

ar ôl paragraff (c) mewnosoder “a”;

b

hepgorer paragraff (e), a’r “ac” o’i flaen.

13

Yn Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 (mccc 4) (anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Bwrdd Taliadau Annibynnol)—

a

ym mharagraff (1)(d)—

i

hepgorer “rhanbarthol”;

ii

hepgorer “mewn rhanbarthau etholiadol”;

b

ym mharagraff 3, yn lle “is-adran (3)” rhodder “is-adran (4)”.

14

Yn Neddf Cymru 2014 (p. 29), hepgorer adran 2 (diwygiadau i Ran 1 o Ddeddf 2006).

15

Yn Atodlen 1 i Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1), ym mharagraff 2(8)(c) hepgorer y cofnodion ar gyfer yr ymadroddion a ganlyn—

a

“Senedd constituency member”;

b

“Senedd electoral region”;

c

“Senedd regional member”.