xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CY SYSTEM BLEIDLEISIO MEWN ETHOLIADAU CYFFREDINOL Y SENEDD A DYRANNU SEDDI

10Diwygiadau cysylltiedigLL+C

(1)Mae Deddf 2006 wedi ei diwygio yn unol ag is-adrannau (2) i (8).

(2)Yn adran 12 (hawlogaeth i bleidleisio)—

(a)yn is-adran (1), hepgorer “(or of a Member of the Senedd)”;

(b)yn is-adran (2)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “constituency vote, or more than one electoral region vote,” rhodder “vote”;

(ii)ar ôl paragraff (a) mewnosoder “or”;

(iii)hepgorer paragraff (c), a’r “or” o’i flaen.

(3)Yn adran 13 (pŵer Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch etholiadau etc.)—

(a)yn is-adran (2)—

(i)hepgorer paragraff (e) (ond nid yr “and” ar ei ôl);

(ii)ym mharagraff (f), yn lle “region” rhodder “constituency”;

(b)yn is-adran (3), yn lle “11(3) to (5)” rhodder “11(4) to (6)”.

(4)Yn adran 13A (pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud darpariaeth ynghylch cyfuno cynnal pleidleisiau), yn is-adran (1)(b) hepgorer “, and by-elections for the return of Members of the Senedd,”.

(5)Yn adran 18 (effaith anghymhwyso), yn is-adran (A1) hepgorer “or an election to fill a vacancy under section 10”.

(6)Yn adran 36 (uniondeb)—

(a)hepgorer is-adran (6);

(b)yn is-adran (11)(a) hepgorer “(apart from those in subsection (6))”.

(7)Yn adran 159 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio), hepgorer y cofnodion ar gyfer yr ymadroddion a ganlyn—

(a)“constituency vote”;

(b)“electoral region figure”;

(c)“electoral region vote”;

(d)“regional returning officer”;

(e)“Senedd constituency member”;

(f)“Senedd electoral region”;

(g)“Senedd regional member”.

(8)Yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 1A (swyddi sy’n anghymhwyso’r deiliad), yn y cofnod ar gyfer swyddogion canlyniadau ar gyfer etholiadau’r Senedd, yn yr ail golofn hepgorer “or Senedd electoral region”.

(9)Yn adran 7B(6) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2) (preswylfa dybiannol: datganiadau o gysylltiad lleol)—

(a)ym mharagraff (a)(ii), hepgorer “or National Assembly for Wales constituency”;

(b)ym mharagraff (b), hepgorer “or section 10 of the Government of Wales Act 2006”.

(10)Yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41)

(a)hepgorer adran 4A(8)(b)(ii) (swyddogaethau Cymreig datganoledig);

(b)hepgorer adran 5(2A)(c) (adroddiadau ar is-etholiadau) (ond nid yr “or” ar ei hôl);

(c)o’r adran 6ZA a fewnosodwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1), hepgorer is-adran (2)(b) (adolygiadau o faterion etholiadol datganoledig yng Nghymru);

(d)hepgorer adran 6A(5)(d) (presenoldeb cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol mewn etholiadau);

(e)o’r adran 6G a fewnosodwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (cod ymarfer ar bresenoldeb sylwedyddion mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru), hepgorer is-adran (2)(b);

(f)o’r adran 9AA a fewnosodwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (safonau perfformiad ar gyfer etholiadau datganoledig a refferenda datganoledig yng Nghymru), hepgorer is-adran (6)(b)‍;

(g)ym mharagraff 25 o Atodlen 1, yn yr is-baragraff (2) a fewnosodwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dehongli), o’r diffiniad o “devolved Welsh election” hepgorer paragraff (b);

(h)ym mharagraff 6 o Atodlen 9 (terfynau ar wariant ymgyrch)—

(i)yn is-baragraff (1), hepgorer “or regions”;

(ii)yn is-baragraff (2), hepgorer paragraff (b) a’r “plus” o’i flaen.

(11)Yn adran 44(7) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (p. 22) (ardal etholiadol mewn perthynas ag etholiad i’r Senedd), yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)in relation to an election to Senedd Cymru, a Senedd constituency within the meaning of section 2 of the Government of Wales Act 2006 (Senedd constituencies);.

(12)Yn adran 6(3) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (mccc 4) (swyddogaethau’r Comisiynydd)—

(a)ar ôl paragraff (c) mewnosoder “a”;

(b)hepgorer paragraff (e), a’r “ac” o’i flaen.

(13)Yn Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 (mccc 4) (anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Bwrdd Taliadau Annibynnol)—

(a)ym mharagraff (1)(d)—

(i)hepgorer “rhanbarthol”;

(ii)hepgorer “mewn rhanbarthau etholiadol”;

(b)ym mharagraff 3, yn lle “is-adran (3)” rhodder “is-adran (4)”.

(14)Yn Neddf Cymru 2014 (p. 29), hepgorer adran 2 (diwygiadau i Ran 1 o Ddeddf 2006).

(15)Yn Atodlen 1 i Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1), ym mharagraff 2(8)(c) hepgorer y cofnodion ar gyfer yr ymadroddion a ganlyn—

(a)“Senedd constituency member”;

(b)“Senedd electoral region”;

(c)“Senedd regional member”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 10 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(b)