RHAN 3COMISIWN DEMOCRATIAETH A FFINIAU CYMRU

14Personau na chaniateir iddynt fod yn aelodau o’r Comisiwn neu’n brif weithredwr arno

1

Yn adran 4(3) o Ddeddf 2013 (personau na chaniateir eu penodi yn aelodau o’r Comisiwn)—

a

yn lle “Ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person sydd yn” rhodder “Ni chaiff aelod fod yn”;

b

yn lle paragraff‍ (a) rhodder‍—

a

aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;

c

yn lle paragraff (b) rhodder—

ba

person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

bb

person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

bc

cynghorydd arbennig‍;

2

Yn adran 8(4) o’r Ddeddf honno (personau na chaniateir eu penodi yn brif weithredwr)—

a

yn lle paragraff (a) rhodder—

a

aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;

b

yn lle paragraff (b) rhodder—

ba

person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

bb

person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

bc

cynghorydd arbennig‍;

3

Yn adran 72(1) o’r Ddeddf honno (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

4

Yn Atodlen 3 i’r Ddeddf honno (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio), yn nhabl 2—

a

ar ôl y cofnod ar gyfer “aelod cadeirio” mewnosoder—

Aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU (Member of a UK legislature)

Adran 72(1)

b

ar ôl y cofnod ar gyfer “cyfarfod cymunedol” mewnosoder—

‍Cynghorydd arbennig (Special adviser)

Adran 72(1)

c

ar ôl y cofnod ar gyfer “newid i sir wedi ei chadw” mewnosoder—

Plaid wleidyddol gofrestredig (Registered political party)

Adran 72(1)