Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024

19Adolygiad o weithrediad y Ddeddf etc. ar ôl etholiad cyffredinol 2026

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i’r Llywydd gyflwyno cynnig sy’n cydymffurfio ag is-adran (2)—

(a)cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026, a

(b)sut bynnag, yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad hwnnw.

(2)Rhaid i’r cynnig—

(a)cynnig bod y Senedd yn sefydlu pwyllgor at ddiben cynnal adolygiad o—

(i)gweithrediad ac effaith darpariaethau Deddf 2006 a gaiff eu diwygio, neu eu mewnosod yn y Ddeddf honno, gan Rannau 1 a 2 o’r Ddeddf hon (y Senedd a’i Haelodau, nifer Gweinidogion Cymru, a’r system bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol etc.);

(ii)i ba raddau y mae elfennau democratiaeth iach yn bresennol yng Nghymru, a

(b)cynnig bod rhaid i adroddiad ar yr adolygiad fod wedi ei gwblhau gan y pwyllgor yn ddim hwyrach na deuddeg mis ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys os, yn dilyn adolygiad o unrhyw rai o’r materion a grybwyllir yn is-adran (2)(a) gan bwyllgor a sefydlir yn unol â chynnig a gyflwynir yn unol ag is-adran (1), y gosodir adroddiad ar yr adolygiad gerbron y Senedd gan y pwyllgor.

(4)Os yw’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron y Senedd ddatganiad sy’n nodi ymateb Gweinidogion Cymru i’r adroddiad a grybwyllir yn is-adran‍ (3).