RHAN 5ADOLYGIAD O WEITHREDIAD Y DDEDDF ETC. A DARPARIAETHAU CYFFREDINOL
Cyffredinol
24Darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â Rhannau 1 a 2
(1)
Er iddynt ddod i rym, o dan adran 25(2)(a) a (b), nid yw’r diwygiadau a wneir gan adrannau 1 a 2 a Rhan 2 yn cael effaith mewn perthynas ag—
(a)
etholiad cyffredinol y cynhelir y bleidlais ar ei gyfer ar 6 Ebrill 2026 neu cyn hynny;
(b)
Senedd a ddychwelir mewn etholiad cyffredinol y cynhelir y bleidlais ar ei gyfer ar 6 Ebrill 2026 neu cyn hynny (sy’n cynnwys y Senedd a basiodd y Bil ar gyfer y Ddeddf hon);
(c)
dychwelyd Aelod i Senedd a grybwyllir ym mharagraff (b) (mewn etholiad cyffredinol neu fel arall).
(2)
Er iddo ddod i rym, o dan adran 25(2)(a), nid yw’r diwygiad a wneir gan adran 6 yn cael effaith mewn perthynas â pherson sy’n Aelod o’r Senedd a grybwyllir yn is-adran (1)(b), neu sy’n ymgeisydd (pa un a yw hynny mewn etholiad cyffredinol ai peidio) i fod yn aelod ohoni.
(3)
Os, o dan adran 25(3), y daw adran 3 i rym drannoeth diwrnod y bleidlais ar gyfer etholiad cyffredinol eithriadol, bydd is-adran (4) yn gymwys at ddiben penderfynu pryd y cynhelir yr etholiad cyffredinol cyffredin cyntaf yn dilyn yr etholiad cyffredinol eithriadol hwnnw.
(4)
Os yw’r is-adran hon yn gymwys, mae adran 3(1) o Ddeddf 2006 i’w darllen fel pe bai “2030” wedi ei roi yn lle’r geiriau “the fourth calendar year following that in which the previous ordinary election was held”.