- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol.
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Rhagolygol
(1)Rhaid i’r Llywydd gyflwyno cynnig sy’n cydymffurfio ag is-adran (2)—
(a)cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 7 Tachwedd 2025, a
(b)sut bynnag, yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad hwnnw.
(2)Rhaid i’r cynnig—
(a)cynnig bod y Senedd yn sefydlu pwyllgor at ddiben cynnal adolygiad o’r graddau—
(i)y dylai personau allu dal unrhyw swydd berthnasol ar y cyd;
(ii)y dylai person allu dal swydd berthnasol dros dro tra nad yw’r person a benodir i’r swydd honno neu a etholir i’r swydd honno ar gael, a
(b)cynnig bod y pwyllgor yn llunio adroddiad ar yr adolygiad, yn nodi ei argymhellion.
(3)Yn is-adran (2)(a), ystyr “swydd berthnasol” yw swydd—
(a)Aelod o’r Senedd;
(b)y Llywydd;
(c)Dirprwy Lywydd;
(d)aelod o Gomisiwn y Senedd (a benodir yn unol ag adran 27 o Ddeddf 2006);
(e)y Prif Weinidog;
(f)Gweinidog Cymru (a benodir o dan adran 48 o Ddeddf 2006);
(g)Dirprwy Weinidog Cymru (a benodir o dan adran 50 o Ddeddf 2006);
(h)y Cwnsler Cyffredinol.
(4)Mae is-adran (5) yn gymwys os, yn dilyn adolygiad o unrhyw rai o’r materion a grybwyllir yn is-adran (2)(a) gan bwyllgor a sefydlir yn unol â chynnig a gyflwynir yn unol ag is-adran (1), y gosodir adroddiad ar yr adolygiad gerbron y Senedd gan y pwyllgor.
(5)Os yw’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron y Senedd ddatganiad sy’n—
(a)nodi ymateb Gweinidogion Cymru i’r adroddiad a grybwyllir yn is-adran (4), a
(b)nodi pa gamau, os oes rhai, y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw argymhellion yn yr adroddiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 7 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(a)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: