108.Mae adran 40 yn amnewid adran 30(1) o Ddeddf 2013 ac yn nodi ystyriaethau diwygiedig ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol prif ardal. Mae’r materion y mae rhaid eu hystyried yn cynnwys dymunoldeb cael cymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer yr aelodau sydd yr un fath neu mor debyg â phosibl ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal; maint, siâp a hygyrchedd daearyddol ward etholiadol; a chynnal cwlwm lleol gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Gymraeg.
109.Mae adran 41 yn diwygio adran 29 o Ddeddf 2013 drwy newid hyd y cylch o adolygiadau o drefniadau etholiadol ar gyfer prif ardaloedd o 10 i 12 mlynedd ac ailosod dyddiad dechrau’r cylchoedd yn 30 Medi 2023. Mae’r diwygiad hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio hyd y cylch a’r dyddiad ailosod drwy reoliadau.
110.Mae adran 42 yn diwygio adran 28 o Ddeddf 2013 i egluro bod y Comisiwn yn gallu adolygu ffiniau atfor mwy nag un ardal llywodraeth leol pan fydd yn cynnal adolygiad o dan adran 28.
111.Mae adran 43 yn diwygio adran 37 o Ddeddf 2013 i egluro na all Gweinidogion Cymru weithredu unrhyw argymhelliad na phenderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau ar sail argymhellion mewn perthynas ag adolygiad etholiadol nes bod o leiaf chwe wythnos wedi mynd heibio gan ddechrau â’r diwrnod y daw argymhellion yr adolygiad i law Gweinidogion Cymru. Hefyd, pan fydd Gweinidogion Cymru yn ystyried adroddiad terfynol ar adolygiad o drefniadau etholiadol, rhaid iddynt roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir iddynt yn ystod y cyfnod ‘sylwadau’ chwe wythnos.
112.Mae’r adran hon hefyd yn gwneud diwygiadau tebyg i adrannau 38 a 39 o Ddeddf 2013 mewn perthynas â’r swyddogaethau a arferir gan y Comisiwn mewn cysylltiad ag adroddiadau ar newidiadau i ffiniau cymuned a swyddogaethau a arferir gan gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol mewn cysylltiad â threfniadau etholiadol cymuned.
113.Mae adran 44 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn a’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol ystyried enwi wardiau etholiadol fel rhan o’i weithdrefn ymgynghori ragadolygu.
114.Mae’n mewnosod adran 36A yn Neddf 2013 sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn a chynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol (yn ôl y digwydd), yn achos wardiau etholiadol sydd ag enwau gwahanol at ddibenion nodi’r wardiau wrth gyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, bennu enwau neu enwau arfaethedig Cymraeg a Saesneg y wardiau etholiadol yn y fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg o’u hadroddiadau adolygu drafft a phellach.
115.Rhaid rhoi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch orgraff enwau wardiau etholiadol, a all gynnwys enwau wardiau etholiadol mewn un iaith yn unig.
116.Mae adran 45 yn diwygio adran 34 o Ddeddf 2013 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, cyn cynnal adolygiad, ddod â’r adolygiad hwnnw i sylw aelodau o’r cyhoedd yr effeithir arnynt gan yr adolygiad.
117.Mae’n gwneud diwygiadau tebyg i adran 35 o Ddeddf 2013 i’w gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol ymgynghori ag aelodau o’r cyhoedd yr effeithir arnynt gan yr adolygiad wrth gynnal adolygiad. Rhaid i’r Comisiwn neu gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith y caniateir cyflwyno sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus a nodi pryd y mae’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dechrau ac yn dod i ben. Mae’r adran hon hefyd yn diwygio adran 36 o Ddeddf 2013 i gyfeirio at y ‘cyfnod ymgynghori cyhoeddus’ a ddiffinnir yn adran 35(4) o Ddeddf 2013.
118.Mae adran 46 yn diwygio adran 34(3) o Ddeddf 2013 drwy ychwanegu awdurdodau Parciau Cenedlaethol, awdurdodau Iechyd Porthladd a Chomisiynydd y Gymraeg at y rhestr o gyrff y mae rhaid ymgynghori â hwy mewn perthynas ag adolygiad o dan Ran 3 o Ddeddf 2013.
119.Mae adran 47 yn diwygio adran 29(8) o Ddeddf 2013 i newid y cyfnod pan na chaniateir i’r Comisiwn wneud na chyhoeddi unrhyw argymhellion sy’n ymwneud â threfniadau etholiadol cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol o 9 i 12 mis.
120.Mae hefyd yn diwygio adran 37 o Ddeddf 2013 i wahardd Gweinidogion Cymru rhag arfer eu swyddogaethau o dan adran 37(1) yn y chwe mis cyn etholiad cyffredin llywodraeth leol (sef yr etholiad i bob sedd ym mhob cyngor a gynhelir unwaith bob pum mlynedd).
121.Mae adran 48 yn diwygio Deddf 2013 drwy fewnosod adran newydd 36B. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn neu gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol (yn ôl y digwydd) gyhoeddi datganiad sy’n pennu’r diwrnod y mae adolygiad yn dechrau ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn neu gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiadau pellach o fewn y dyddiadau cau fel y’u pennir. Nid yw methu â chadw at yr amserlen yn annilysu’r adolygiad. Ni ddylai’r amserlen ar gyfer adolygiadau o ffiniau prif ardaloedd, siroedd wedi eu cadw a threfniadau etholiadol ar gyfer prif ardal fod yn fwy na 12 mis o ran hyd, ni ddylai’r amserlen ar gyfer adolygiadau o ffiniau atfor fod yn fwy na 18 mis o ran hyd ac, ar gyfer adolygiadau o ffiniau cymunedau ac o drefniadau etholiadol cymunedau, ni ddylai fod yn fwy na 24 mis o ran hyd.
122.Mae adran 49 yn diwygio adran 37 o Ddeddf 2013 drwy ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud pob ymdrech i wneud penderfyniad ar bob argymhelliad a gânt o dan adran 37(1) o Ddeddf 2013, mewn perthynas ag adolygiad, o fewn tri mis i gael yr argymhellion. Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd gyhoeddi datganiad sy’n nodi eu penderfyniad mewn cysylltiad â phob argymhelliad. Mae’r dyddiad y cyhoeddir y datganiad i’w drin fel dyddiad y penderfyniad. Nid yw methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd hon yn annilysu unrhyw orchymyn neu unrhyw benderfyniad.
123.Diwygir adrannau 38 a 39 o Ddeddf 2013 i osod dyletswydd debyg ar y Comisiwn mewn perthynas â’i benderfyniadau ar yr argymhellion y mae’n eu cael oddi wrth gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol mewn cysylltiad â newidiadau i ffiniau cymunedau, ac ar gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol mewn cysylltiad â threfniadau etholiadol cymunedau.
124.Mae adran 50 yn diwygio adran 48 o Ddeddf 2013 i alluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi cyfarwyddyd i oedi adolygiad sy’n cael ei gynnal o dan Ran 3 o Ddeddf 2013. Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddefnyddio’r pŵer hwn i oedi adolygiad am gyfnod sy’n fwy na chyfanswm o 9 mis. Pan fydd adolygiad yn cael ei oedi, nid yw cyfnod yr oedi i’w ystyried at ddiben cyfrifo hyd y cyfnodau o dan adran 36B(2) i (5).
125.Mae adran 51 yn diwygio adran 22 o Ddeddf 2013 i’w gwneud yn ofynnol i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol gyhoeddi adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 1 Gorffennaf bob blwyddyn ar y modd y cyflawnodd ei swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf 2013 ac adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dylai’r adroddiad hwn egluro’r modd y cyflawnodd ei swyddogaethau i’r graddau y mae’r swyddogaethau’n ymwneud ag enwau cymunedau, newidiadau i ffiniau cymunedau, newidiadau i gynghorau cymuned a threfniadau etholiadol cymunedau yn ystod y flwyddyn. Rhaid anfon copi o’r adroddiad i’r Comisiwn ac at Weinidogion Cymru.
126.Mae’r adran hon hefyd yn diwygio adran 31 o Ddeddf 2013 i egluro dyletswydd cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol i gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob cymuned yn ei ardal o leiaf unwaith ym mhob cyfnod adolygu (12 mlynedd). Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio hyd y cyfnod adolygu, a’i ddyddiad dechrau.
127.Mae’r adran hon hefyd yn diwygio adran 33(3) o Ddeddf 2013 i’w gwneud yn ofynnol i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol roi sylw i ystyriaethau daearyddol arbennig, yn benodol maint, siâp a hygyrchedd ward gymunedol, ynghyd ag unrhyw gwlwm lleol sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Gymraeg, wrth gynnal adolygiad o drefniadau etholiadol cymuned.
128.Mae adran 52 yn diwygio adran 245B o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i’w gwneud yn ofynnol i gyngor cymuned roi hysbysiad electronig o unrhyw benderfyniad y mae’n ei basio o dan adran 245B(1) neu (6) (cymuned i gael statws tref, neu i beidio â chael statws tref) i Weinidogion Cymru, i’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol perthnasol ac i’r Comisiwn.
129.Mae adran 53 yn diwygio Deddf 2013 drwy fewnosod adran 49ZA. Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol a’r Comisiwn gyhoeddi ar eu gwefannau gopïau o’r holl orchmynion y maent yn eu gwneud o dan Ran 3 o Ddeddf 2013 a hefyd y rhai a wneir gan gyrff eraill sy’n gallu gwneud gorchmynion o dan yr un Rhan. Yn achos yr olaf, mae’n ofynnol i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol gyhoeddi’r gorchmynion hynny sy’n berthnasol i’w hardal hwy yn unig.
130.Mae’r adran hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ba gorff bynnag sydd wedi gwneud gorchymyn o dan Ran 3 o Ddeddf 2013 anfon copi o’r gorchymyn hwnnw i’r cyrff eraill sy’n gallu gwneud gorchmynion o dan Ran 3, neu eu hysbysu bod y gorchymyn hwnnw wedi ei wneud.
131.Nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys ond i orchmynion a wneir ar ôl i adran 49ZA ddod i rym.
132.Mae adran 54 yn diwygio Deddf 2013 drwy fewnosod adran 49ZB. Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol gyhoeddi a chynnal ar ei wefan restr gyfredol o’r holl gymunedau a chynghorau cymuned yn ei ardal, gyda’u henwau presennol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn wneud yr un peth ar gyfer yr holl gymunedau a chynghorau cymuned yng Nghymru. O ran cymunedau a chynghorau cymuned a chanddynt enwau at ddiben cyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, dylai’r rhestr ddangos yr enwau Cymraeg a Saesneg gyda’i gilydd ni waeth a yw’r rhestr yn cael ei chyrchu drwy’r Gymraeg ynteu drwy’r Saesneg.
133.Mae adran 55 yn galluogi unrhyw adolygiad a gynhelir o dan Ran 3 o Ddeddf 2013 sy’n cael ei gynnal pan ddaw Pennod 1 i rym i gael ei gwblhau o dan y trefniadau a oedd yn gymwys pan gychwynnwyd yr adolygiad. Mae hefyd yn sicrhau bod Rhan 3 o Ddeddf 2013 a’r holl orchmynion a rheoliadau a wneir o dan y Rhan honno cyn i Bennod 1 ddod i rym yn parhau i gael effaith at ddibenion adolygiadau o’r fath.