108.Mae adran 40 yn amnewid adran 30(1) o Ddeddf 2013 ac yn nodi ystyriaethau diwygiedig ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol prif ardal. Mae’r materion y mae rhaid eu hystyried yn cynnwys dymunoldeb cael cymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer yr aelodau sydd yr un fath neu mor debyg â phosibl ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal; maint, siâp a hygyrchedd daearyddol ward etholiadol; a chynnal cwlwm lleol gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Gymraeg.
109.Mae adran 41 yn diwygio adran 29 o Ddeddf 2013 drwy newid hyd y cylch o adolygiadau o drefniadau etholiadol ar gyfer prif ardaloedd o 10 i 12 mlynedd ac ailosod dyddiad dechrau’r cylchoedd yn 30 Medi 2023. Mae’r diwygiad hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio hyd y cylch a’r dyddiad ailosod drwy reoliadau.
110.Mae adran 42 yn diwygio adran 28 o Ddeddf 2013 i egluro bod y Comisiwn yn gallu adolygu ffiniau atfor mwy nag un ardal llywodraeth leol pan fydd yn cynnal adolygiad o dan adran 28.
111.Mae adran 43 yn diwygio adran 37 o Ddeddf 2013 i egluro na all Gweinidogion Cymru weithredu unrhyw argymhelliad na phenderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau ar sail argymhellion mewn perthynas ag adolygiad etholiadol nes bod o leiaf chwe wythnos wedi mynd heibio gan ddechrau â’r diwrnod y daw argymhellion yr adolygiad i law Gweinidogion Cymru. Hefyd, pan fydd Gweinidogion Cymru yn ystyried adroddiad terfynol ar adolygiad o drefniadau etholiadol, rhaid iddynt roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir iddynt yn ystod y cyfnod ‘sylwadau’ chwe wythnos.
112.Mae’r adran hon hefyd yn gwneud diwygiadau tebyg i adrannau 38 a 39 o Ddeddf 2013 mewn perthynas â’r swyddogaethau a arferir gan y Comisiwn mewn cysylltiad ag adroddiadau ar newidiadau i ffiniau cymuned a swyddogaethau a arferir gan gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol mewn cysylltiad â threfniadau etholiadol cymuned.
113.Mae adran 44 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn a’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol ystyried enwi wardiau etholiadol fel rhan o’i weithdrefn ymgynghori ragadolygu.
114.Mae’n mewnosod adran 36A yn Neddf 2013 sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn a chynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol (yn ôl y digwydd), yn achos wardiau etholiadol sydd ag enwau gwahanol at ddibenion nodi’r wardiau wrth gyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, bennu enwau neu enwau arfaethedig Cymraeg a Saesneg y wardiau etholiadol yn y fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg o’u hadroddiadau adolygu drafft a phellach.
115.Rhaid rhoi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch orgraff enwau wardiau etholiadol, a all gynnwys enwau wardiau etholiadol mewn un iaith yn unig.
116.Mae adran 45 yn diwygio adran 34 o Ddeddf 2013 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, cyn cynnal adolygiad, ddod â’r adolygiad hwnnw i sylw aelodau o’r cyhoedd yr effeithir arnynt gan yr adolygiad.
117.Mae’n gwneud diwygiadau tebyg i adran 35 o Ddeddf 2013 i’w gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol ymgynghori ag aelodau o’r cyhoedd yr effeithir arnynt gan yr adolygiad wrth gynnal adolygiad. Rhaid i’r Comisiwn neu gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith y caniateir cyflwyno sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus a nodi pryd y mae’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dechrau ac yn dod i ben. Mae’r adran hon hefyd yn diwygio adran 36 o Ddeddf 2013 i gyfeirio at y ‘cyfnod ymgynghori cyhoeddus’ a ddiffinnir yn adran 35(4) o Ddeddf 2013.
118.Mae adran 46 yn diwygio adran 34(3) o Ddeddf 2013 drwy ychwanegu awdurdodau Parciau Cenedlaethol, awdurdodau Iechyd Porthladd a Chomisiynydd y Gymraeg at y rhestr o gyrff y mae rhaid ymgynghori â hwy mewn perthynas ag adolygiad o dan Ran 3 o Ddeddf 2013.
119.Mae adran 47 yn diwygio adran 29(8) o Ddeddf 2013 i newid y cyfnod pan na chaniateir i’r Comisiwn wneud na chyhoeddi unrhyw argymhellion sy’n ymwneud â threfniadau etholiadol cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol o 9 i 12 mis.
120.Mae hefyd yn diwygio adran 37 o Ddeddf 2013 i wahardd Gweinidogion Cymru rhag arfer eu swyddogaethau o dan adran 37(1) yn y chwe mis cyn etholiad cyffredin llywodraeth leol (sef yr etholiad i bob sedd ym mhob cyngor a gynhelir unwaith bob pum mlynedd).
121.Mae adran 48 yn diwygio Deddf 2013 drwy fewnosod adran newydd 36B. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn neu gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol (yn ôl y digwydd) gyhoeddi datganiad sy’n pennu’r diwrnod y mae adolygiad yn dechrau ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn neu gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiadau pellach o fewn y dyddiadau cau fel y’u pennir. Nid yw methu â chadw at yr amserlen yn annilysu’r adolygiad. Ni ddylai’r amserlen ar gyfer adolygiadau o ffiniau prif ardaloedd, siroedd wedi eu cadw a threfniadau etholiadol ar gyfer prif ardal fod yn fwy na 12 mis o ran hyd, ni ddylai’r amserlen ar gyfer adolygiadau o ffiniau atfor fod yn fwy na 18 mis o ran hyd ac, ar gyfer adolygiadau o ffiniau cymunedau ac o drefniadau etholiadol cymunedau, ni ddylai fod yn fwy na 24 mis o ran hyd.
122.Mae adran 49 yn diwygio adran 37 o Ddeddf 2013 drwy ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud pob ymdrech i wneud penderfyniad ar bob argymhelliad a gânt o dan adran 37(1) o Ddeddf 2013, mewn perthynas ag adolygiad, o fewn tri mis i gael yr argymhellion. Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd gyhoeddi datganiad sy’n nodi eu penderfyniad mewn cysylltiad â phob argymhelliad. Mae’r dyddiad y cyhoeddir y datganiad i’w drin fel dyddiad y penderfyniad. Nid yw methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd hon yn annilysu unrhyw orchymyn neu unrhyw benderfyniad.
123.Diwygir adrannau 38 a 39 o Ddeddf 2013 i osod dyletswydd debyg ar y Comisiwn mewn perthynas â’i benderfyniadau ar yr argymhellion y mae’n eu cael oddi wrth gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol mewn cysylltiad â newidiadau i ffiniau cymunedau, ac ar gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol mewn cysylltiad â threfniadau etholiadol cymunedau.
124.Mae adran 50 yn diwygio adran 48 o Ddeddf 2013 i alluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi cyfarwyddyd i oedi adolygiad sy’n cael ei gynnal o dan Ran 3 o Ddeddf 2013. Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddefnyddio’r pŵer hwn i oedi adolygiad am gyfnod sy’n fwy na chyfanswm o 9 mis. Pan fydd adolygiad yn cael ei oedi, nid yw cyfnod yr oedi i’w ystyried at ddiben cyfrifo hyd y cyfnodau o dan adran 36B(2) i (5).
125.Mae adran 51 yn diwygio adran 22 o Ddeddf 2013 i’w gwneud yn ofynnol i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol gyhoeddi adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 1 Gorffennaf bob blwyddyn ar y modd y cyflawnodd ei swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf 2013 ac adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dylai’r adroddiad hwn egluro’r modd y cyflawnodd ei swyddogaethau i’r graddau y mae’r swyddogaethau’n ymwneud ag enwau cymunedau, newidiadau i ffiniau cymunedau, newidiadau i gynghorau cymuned a threfniadau etholiadol cymunedau yn ystod y flwyddyn. Rhaid anfon copi o’r adroddiad i’r Comisiwn ac at Weinidogion Cymru.
126.Mae’r adran hon hefyd yn diwygio adran 31 o Ddeddf 2013 i egluro dyletswydd cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol i gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob cymuned yn ei ardal o leiaf unwaith ym mhob cyfnod adolygu (12 mlynedd). Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio hyd y cyfnod adolygu, a’i ddyddiad dechrau.
127.Mae’r adran hon hefyd yn diwygio adran 33(3) o Ddeddf 2013 i’w gwneud yn ofynnol i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol roi sylw i ystyriaethau daearyddol arbennig, yn benodol maint, siâp a hygyrchedd ward gymunedol, ynghyd ag unrhyw gwlwm lleol sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Gymraeg, wrth gynnal adolygiad o drefniadau etholiadol cymuned.
128.Mae adran 52 yn diwygio adran 245B o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i’w gwneud yn ofynnol i gyngor cymuned roi hysbysiad electronig o unrhyw benderfyniad y mae’n ei basio o dan adran 245B(1) neu (6) (cymuned i gael statws tref, neu i beidio â chael statws tref) i Weinidogion Cymru, i’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol perthnasol ac i’r Comisiwn.
129.Mae adran 53 yn diwygio Deddf 2013 drwy fewnosod adran 49ZA. Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol a’r Comisiwn gyhoeddi ar eu gwefannau gopïau o’r holl orchmynion y maent yn eu gwneud o dan Ran 3 o Ddeddf 2013 a hefyd y rhai a wneir gan gyrff eraill sy’n gallu gwneud gorchmynion o dan yr un Rhan. Yn achos yr olaf, mae’n ofynnol i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol gyhoeddi’r gorchmynion hynny sy’n berthnasol i’w hardal hwy yn unig.
130.Mae’r adran hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ba gorff bynnag sydd wedi gwneud gorchymyn o dan Ran 3 o Ddeddf 2013 anfon copi o’r gorchymyn hwnnw i’r cyrff eraill sy’n gallu gwneud gorchmynion o dan Ran 3, neu eu hysbysu bod y gorchymyn hwnnw wedi ei wneud.
131.Nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys ond i orchmynion a wneir ar ôl i adran 49ZA ddod i rym.
132.Mae adran 54 yn diwygio Deddf 2013 drwy fewnosod adran 49ZB. Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol gyhoeddi a chynnal ar ei wefan restr gyfredol o’r holl gymunedau a chynghorau cymuned yn ei ardal, gyda’u henwau presennol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn wneud yr un peth ar gyfer yr holl gymunedau a chynghorau cymuned yng Nghymru. O ran cymunedau a chynghorau cymuned a chanddynt enwau at ddiben cyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, dylai’r rhestr ddangos yr enwau Cymraeg a Saesneg gyda’i gilydd ni waeth a yw’r rhestr yn cael ei chyrchu drwy’r Gymraeg ynteu drwy’r Saesneg.
133.Mae adran 55 yn galluogi unrhyw adolygiad a gynhelir o dan Ran 3 o Ddeddf 2013 sy’n cael ei gynnal pan ddaw Pennod 1 i rym i gael ei gwblhau o dan y trefniadau a oedd yn gymwys pan gychwynnwyd yr adolygiad. Mae hefyd yn sicrhau bod Rhan 3 o Ddeddf 2013 a’r holl orchmynion a rheoliadau a wneir o dan y Rhan honno cyn i Bennod 1 ddod i rym yn parhau i gael effaith at ddibenion adolygiadau o’r fath.
134.Mae adran 56 yn diddymu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac yn dileu o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 ddarpariaethau sy’n ymwneud â swyddogaethau ac aelodaeth y Panel.
135.Mae adran 57 yn mewnosod Rhan 5A yn Neddf 2013 sy’n nodi swyddogaethau’r Comisiwn mewn cysylltiad â thaliadau a phensiynau i aelodau o awdurdodau perthnasol yng Nghymru (fel y’u diffinnir yn adran newydd 69C(2) o Ddeddf 2013) a thaliadau i gyn-aelodau o awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae Rhan 5A yn cynnwys y darpariaethau a ganlyn:
136.Mae adran 69A yn nodi swyddogaethau’r Comisiwn mewn cysylltiad â thaliadau i aelodau o awdurdod perthnasol. Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025 ac ar gyfer pob blwyddyn ariannol ddilynol, rhaid i’r Comisiwn benderfynu ar y materion perthnasol y mae’n ofynnol i awdurdod perthnasol wneud taliadau i aelodau o’r awdurdod amdanynt, neu yr awdurdodir awdurdod perthnasol i wneud taliadau i aelodau o’r awdurdod amdanynt.
137.Diffinnir “materion perthnasol” yn is-adran (2) fel materion sy’n ymwneud â busnes swyddogol aelodau (fel y’i diffinnir yn adran 69A(11)) neu gyfnodau o absenoldeb teuluol y mae gan aelodau hawlogaeth i’w cael o dan Ran 2 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.
138.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn osod y swm y mae rhaid ei dalu i aelod neu’r uchafswm y gellir ei dalu i aelod. Caiff y Comisiwn benderfynu na ellir talu taliadau i fwy na chyfran benodedig neu nifer penodedig o aelodau awdurdod perthnasol. Ni all y gyfran neu’r nifer (yn ôl y digwydd) fod yn fwy na 50% oni bai bod Gweinidogion Cymru yn rhoi eu cydsyniad.
139.Caiff y Comisiwn osod canran uchaf neu gyfradd uchaf arall yr addasiad y gall awdurdod perthnasol ei gwneud, ar gyfer blwyddyn ariannol, i’r symiau a oedd ag effaith mewn cysylltiad â materion perthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol. Gellir gosod mynegrif hefyd.
140.Wrth osod swm, gwneud penderfyniad neu osod cyfradd neu fynegrif, rhaid i’r Comisiwn ystyried effaith ariannol debygol ei benderfyniadau ar awdurdodau perthnasol.
141.Mae adran 69B yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn benderfynu ar y disgrifiadau o aelodau awdurdod perthnasol y mae’n ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn mewn cysylltiad â hwy. Nid yw hyn yn cynnwys aelodau cyfetholedig o awdurdodau perthnasol sy’n gymwys i fod yn aelodau o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Rhaid i’r Comisiwn hefyd benderfynu ar y materion perthnasol y mae’n ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn mewn cysylltiad â hwy.
142.Mae adran 69C yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn Rhan 5A o Ddeddf 2013, gan gynnwys “awdurdod perthnasol” ac “aelodau awdurdod perthnasol” ac mae hefyd yn cynnwys pŵer i bennu awdurdod perthnasol mewn rheoliadau o dan is-adran (2)(e).
143.Mae adran 69D yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn wneud penderfyniadau penodol am daliadau ailsefydlu. Mae taliad ailsefydlu yn daliad i berson sy’n peidio â bod yn aelod o awdurdod lleol ar ddiwedd tymor ei swydd; a oedd, pan oedd yn ei swydd, yn aelod o awdurdod lleol (fel y’i diffinnir yn adran 72 o Ddeddf 2013) o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru; sydd wedi sefyll i gael ei ailethol i fod yn aelod o’r un awdurdod; ac nad yw wedi ei ddychwelyd i’w swydd yn yr etholiad hwnnw.
144.Rhaid i’r Comisiwn benderfynu ar faterion megis swm y taliad ailsefydlu sydd i’w dalu, yr amodau cymhwyso i gael taliad a’r uchafswm sydd i’w dalu. Rhaid i’r Comisiwn ystyried yr effaith ariannol debygol ar awdurdodau lleol a rhaid iddo adolygu penderfyniadau cyn pob etholiad cyffredin llywodraeth leol gan ddechrau â’r etholiad sydd i’w gynnal ym mis Mai 2027.
145.Mae adran 69E yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydnabyddiaeth ariannol (“tâl” yn Neddf 2013) ynghylch arfer ei swyddogaethau o dan Ran 5A heb fod yn hwyrach na 28 Chwefror yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi neu unrhyw ddyddiad diweddarach y mae’r Comisiwn a Gweinidogion Cymru yn cytuno arno. Rhaid i’r adroddiad gynnwys yr wybodaeth a nodir yn yr adran.
146.Mae adran 69F yn galluogi’r Comisiwn i lunio a chyhoeddi un neu ragor o adroddiadau atodol ar gydnabyddiaeth ariannol i’w adroddiad diweddaraf ar gydnabyddiaeth ariannol. Caiff yr adroddiad atodol amrywio darpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol hwnnw ar gydnabyddiaeth ariannol neu wneud unrhyw ddarpariaeth y gallai’r adroddiad blynyddol ar gydnabyddiaeth ariannol fod wedi ei gwneud.
147.Mae adran 69G yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn, cyn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydnabyddiaeth ariannol neu adroddiad atodol ar gydnabyddiaeth ariannol, anfon drafft o’r adroddiad hwnnw i gyrff penodol ac at bersonau penodol a chyhoeddi’r adroddiad drafft cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl ei anfon. Wrth lunio adroddiad blynyddol ar gydnabyddiaeth ariannol neu adroddiad atodol ar gydnabyddiaeth ariannol, rhaid i’r Comisiwn ystyried yr adroddiad blynyddol diwethaf ar gydnabyddiaeth ariannol ac unrhyw adroddiad atodol ar gydnabyddiaeth ariannol a sylwadau sydd wedi dod i law ynghylch yr adroddiadau hyn a’r adroddiadau drafft.
148.Mae adran 69H yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo’r Comisiwn i ailystyried darpariaeth mewn adroddiad drafft blynyddol neu adroddiad drafft atodol ar gydnabyddiaeth ariannol. Mae’n nodi’r wybodaeth y mae rhaid ei phennu mewn cyfarwyddyd, gan gynnwys y rheswm dros roi’r cyfarwyddyd a dyddiad penodedig ar gyfer ymateb. Nid oes rhwymedigaeth ar y Comisiwn i amrywio’r adroddiad drafft ond rhaid iddo ymateb a chynnwys ei resymeg os yw’n penderfynu peidio ag amrywio’r adroddiad drafft.
149.Mae adran 69I yn nodi dyletswyddau mewn cysylltiad â chyhoeddi’r adroddiadau blynyddol ac atodol ar gydnabyddiaeth ariannol, gan gynnwys y gofyniad bod y Comisiwn yn caniatáu cyfnod o wyth wythnos o leiaf ar gyfer ymgynghori ar adroddiad drafft cyn cyhoeddi adroddiad atodol ar gydnabyddiaeth ariannol a’r gofyniad bod y Comisiwn yn cyhoeddi’r adroddiadau ar gydnabyddiaeth ariannol ar ei wefan ac mewn unrhyw ffordd arall y mae’r Comisiwn yn ystyried ei bod yn briodol.
150.Mae adran 69J yn galluogi adroddiadau blynyddol ar gydnabyddiaeth ariannol i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau perthnasol roi systemau gweinyddol yn eu lle er mwyn osgoi dyblygu taliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol a cheisiadau am daliad mewn cysylltiad â’r un materion perthnasol. Gall yr adroddiadau hyn hefyd gynnwys gofynion y Comisiwn ar gyfer cadw cofnodion o daliadau a wneir o dan Ran 5A.
151.Mae adran 69K yn galluogi’r Comisiwn i nodi yn ei adroddiad blynyddol ar gydnabyddiaeth ariannol wybodaeth y mae’n ofynnol i awdurdodau perthnasol ei chyhoeddi.
152.Mae adran 69L yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau perthnasol gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a nodir mewn adroddiad blynyddol ar gydnabyddiaeth ariannol neu adroddiad atodol ar gydnabyddiaeth ariannol ac mae’n galluogi’r Comisiwn i fonitro gweithrediad a’r modd y rheolir y taliadau a wneir gan awdurdodau perthnasol. Gall y Comisiwn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau perthnasol ddarparu gwybodaeth iddo am faterion gan gynnwys materion mewn cysylltiad â thaliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol, pensiynau perthnasol, a thaliadau ailsefydlu. Rhaid i awdurdodau perthnasol gydymffurfio ag unrhyw ofyniad o’r fath.
153.Mae adran 69M yn galluogi Gweinidogion Cymru, os ydynt wedi eu bodloni bod awdurdod wedi methu â chydymffurfio â gofyniad mewn adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol ar gydnabyddiaeth ariannol, i roi cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod gydymffurfio â’r gofyniad hwnnw. Mae’r adran yn nodi’r materion y mae rhaid eu pennu yn y cyfarwyddyd.
154.Mae adran 69N yn galluogi person i ildio ei hawlogaeth i gael taliadau, naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol fel y penderfynir gan y person hwnnw. Gan ei bod yn ofynnol i awdurdodau wneud taliadau penodol i aelodau, mae adran 69N(2) yn galluogi awdurdodau i beidio â thalu lwfansau mewn amgylchiadau pan fo aelod wedi dewis ymwrthod â thaliad drwy hysbysiad ysgrifenedig.
155.Mae adran 69O yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol gadw yn ôl daliadau i berson:
sydd wedi ei atal dros dro (neu wedi ei atal dros dro yn rhannol) rhag bod yn aelod yn rhinwedd Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu
sydd wedi ei rwystro rhag gweithredu fel aelod o awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 80A(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
156.Mae’r adran hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi cyfarwyddydau i awdurdodau perthnasol (ar ôl ymgynghori â’r Comisiwn) i gadw taliadau yn ôl mewn cysylltiad â’r materion perthnasol a bennir yn y cyfarwyddyd neu i beidio â gwneud taliad ailsefydlu.
157.Mae’r adran hon hefyd yn galluogi awdurdodau perthnasol i’w gwneud yn ofynnol i berson wneud ad-daliadau mewn amgylchiadau penodol ac mae’n galluogi awdurdodau lleol i adennill taliadau mewn amgylchiadau penodol.
158.Mae adran 69P yn galluogi’r Comisiwn i ddyroddi canllawiau i awdurdodau perthnasol ynghylch sut i gydymffurfio â gofynion o dan Ran 5A. Mae hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau i’r Comisiwn ynghylch ei swyddogaethau o dan y Rhan honno. Mae’n ofynnol i awdurdodau perthnasol neu’r Comisiwn, yn ôl y digwydd, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon.
159.Mae adran 69Q yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud cais am orchymyn llys i orfodi cyfarwyddydau a wneir o dan adrannau 69M a 69O ac yn nodi nad yw’r pŵer i ddyroddi cyfarwyddydau o dan y Rhan hon yn cyfyngu ar bŵer cyffredinol Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo’r Comisiwn o dan adran 14 o Ddeddf 2013.
160.Mae adran 69R yn galluogi Gweinidogion Cymru i addasu Rhan 5A o Ddeddf 2013 drwy reoliadau.
161.Mae’r adran hon yn darparu bod yr holl eiddo a ddelir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn union cyn ei ddiddymu, a holl hawliau ac atebolrwyddau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol sy’n bodoli yn union cyn ei ddiddymu, yn trosglwyddo i’r Comisiwn.
162.Mae’r adran hon yn cyflwyno Rhan 4 o Atodlen 1, sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ganlyniadol ar adrannau 56 i 58 o’r Ddeddf.
163.Mae adran 60 yn arbed effaith y darpariaethau a ddiddymir gan adran 56 at ddibenion y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025 ac eithrio’r cyfeiriadau at Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, y dylid eu dehongli fel pe baent yn gyfeiriadau at Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
164.Mae adran 61 yn diwygio adran 16(1) o DLlC 2006, sy’n pennu’r personau sydd wedi eu hanghymhwyso rhag dod yn Aelod o’r Senedd neu barhau i fod yn Aelod o’r Senedd (ond nid rhag bod yn ymgeisydd i fod yn Aelod o’r Senedd). Mae hefyd yn diddymu adrannau 17B, 17E a 17F o DLlC 2006 sy’n darparu ar gyfer eithriadau cyfyngedig penodol rhag anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd yn rhinwedd bod yn aelod o gyrff etholedig eraill, ac yn diwygio adran 17D o DLlC 2006.
165.Mae adran 16(1)(za) o DLlC 2006 yn darparu bod person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd os yw’r person yn aelod o Dŷ’r Cyffredin. Mae adran 17B o DLlC 2006 yn darparu eithriad rhag anghymhwyso ar gyfer Aelod o’r Senedd a ddychwelir fel aelod o Dŷ’r Cyffredin o fewn 372 o ddiwrnodau i ddiwrnod disgwyliedig yr etholiad cyffredinol nesaf ar gyfer Aelodau’r Senedd. Mae adran 61(3) yn dileu adran 17B o DLlC 2006 fel nad yw’r eithriad yn gymwys mwyach.
166.Mae adran 16(1)(zc) o DLlC 2006 yn darparu bod person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd os yw’r person yn aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru. Mae adran 61(2)(b) yn ymestyn y ddarpariaeth anghymhwyso hon i berson sy’n aelod o gyngor cymuned yng Nghymru, er mwyn cysoni’r trefniadau ar gyfer cynghorwyr cymuned (gan gynnwys cynghorwyr tref) yng Nghymru â’r gyfundrefn anghymhwyso ar gyfer cynghorwyr prif gynghorau yng Nghymru.
167.Mae adran 17D o DLlC 2006 yn darparu ar gyfer eithriad rhag anghymhwyso ar gyfer aelodau sydd newydd eu hethol, am gyfnod penodol. Nid yw person a ddychwelir fel Aelod mewn etholiad i’r Senedd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd yn rhinwedd bod yn aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru nes i’r person hwnnw honni ei fod yn tyngu’r llw teyrngarwch (neu’r cadarnhad cyfatebol) o dan DLlC 2006. Hefyd, nid yw Aelod o’r Senedd a ddychwelir fel aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd nes i’r person hwnnw wneud datganiad derbyn o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae adran 61(4) yn diwygio adran 17D fel bod y darpariaethau hyn hefyd yn gymwys pan fo’r person yn aelod o gyngor cymuned yng Nghymru, neu’n cael ei ddychwelyd fel aelod o gyngor o’r fath.
168.Mae adran 17E o DLlC 2006 yn darparu ar gyfer eithriad â therfyn amser rhag anghymhwyso os dychwelir aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru fel Aelod o’r Senedd; ac mae diwrnod disgwyliedig etholiad cyffredin nesaf aelodau’r cyngor o fewn 372 o ddiwrnodau i’r diwrnod dychwelyd. Mae adran 61(5) yn dileu adran 17E o DLlC 2006 fel nad yw’r eithriad yn gymwys mwyach. Mae adran 17F o DLlC 2006 yn darparu ar gyfer eithriad â therfyn amser rhag anghymhwyso os dychwelwyd Aelod o’r Senedd fel aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru ac mae diwrnod disgwyliedig yr etholiad cyffredinol nesaf i’r Senedd o fewn 372 o ddiwrnodau i’r diwrnod dychwelyd. Mae adran 61(6) yn dileu adran 17F o DLlC 2006 fel nad yw’r eithriad yn gymwys mwyach. Mae adran 61(7) yn darparu y bydd y newidiadau hyn yn cymryd effaith at ddibenion etholiad i’r Senedd pan gynhelir y pôl ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026.
169.Mae adran 62 yn diwygio’r gyfraith ar anghymhwyso rhag bod yn ymgeisydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru ac yn aelod ohoni. Mae’r adran yn mewnosod is-adran (ba) yn adran 80A(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 er mwyn cau bwlch yn y gyfundrefn anghymhwyso drwy ychwanegu categori newydd o bersonau sydd wedi eu hanghymhwyso: personau na chaniateir iddynt sefyll fel ymgeisydd ar gyfer cyngor dosbarth yng Ngogledd Iwerddon na bod yn aelod o gyngor o’r fath.
170.Mae adran 63 yn diwygio’r gyfraith ar anghymhwyso rhag bod yn ymgeisydd ar gyfer y Senedd ac yn aelod ohoni. Mae’r adran yn mewnosod paragraff (5A) yn Atodlen 1A i DLlC 2006 er mwyn cau bwlch yn y gyfundrefn anghymhwyso drwy ychwanegu categori newydd o bersonau sydd wedi eu hanghymhwyso: personau na chaniateir iddynt sefyll fel ymgeisydd ar gyfer cyngor dosbarth yng Ngogledd Iwerddon na bod yn aelod o gyngor o’r fath.
171.Mae adran 114A o Ddeddf 1983 yn nodi’r rhestr o weithgareddau a all fod yn gyfystyr â’r arfer llwgr o ddylanwad amhriodol.
172.Mae adran 64(2) yn diwygio adran 114A o Ddeddf 1983 fel bod y disgrifiad o’r arfer llwgr o ddylanwad amhriodol sy’n gymwys ar hyn o bryd mewn etholiadau llywodraeth leol yn Lloegr ac yn etholiadau Senedd y DU hefyd yn gymwys i etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae adran 64(3) yn hepgor cyfeiriadau at Gymru o adran 115 fel nad yw’r disgrifiad o’r arfer llwgr o ddylanwad amhriodol a nodir yn adran 115 o Ddeddf 1983 yn gymwys mwyach i etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
173.Mae adran 65 yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i ychwanegu bod person sy’n dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol pan fo’r swydd honno o dan gyngor cymuned, cyd-bwyllgor corfforedig, neu awdurdod lleol ym Mhrydain Fawr wedi ei anghymhwyso rhag dod yn aelod o gyngor cymuned neu barhau i fod yn aelod o gyngor cymuned. Mae’r diwygiad yn egluro ymhellach pwy sydd i’w ystyried yn berson sy’n dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol pan fo’r swydd honno o dan gyngor cymuned. Mae’r diwygiad hefyd yn estyn, i gynghorau cymuned, y darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ynghylch rhoi a goruchwylio esemptiadau rhag cyfyngiadau gwleidyddol, y terfynau ar wyliau â thâl ar gyfer ymgymryd â dyletswyddau awdurdod lleol a’r darpariaethau mewn perthynas â gwrthdaro buddiannau mewn negodiadau staff.
174.Mae adran 66 yn diwygio Deddf 2013 drwy ychwanegu at y rhestr o’r rhai sydd wedi eu heithrio rhag bod yn aelodau o’r Comisiwn er mwyn sicrhau didueddrwydd. Y rhai sydd wedi eu hychwanegu at y rhestr yw aelodau o staff awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru, aelodau neu aelodau o staff cyd-bwyllgor corfforedig, ac aelodau neu aelodau o staff awdurdod tân ac achub. Mae’r diwygiad hefyd yn ei gwneud yn glir bod staff awdurdod lleol wedi eu heithrio.
175.Mae adran 67 yn diwygio adran 17 o Ddeddf 2013 i’w gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn sefydlu pwyllgor llywodraethu ac archwilio. Mae hefyd yn rhoi swyddogaethau adolygu ac asesu ychwanegol i’r pwyllgor mewn perthynas â threfniadau archwilio mewnol ac allanol y Comisiwn, sut y mae’n ymdrin â chwynion, ac adolygu datganiadau ariannol ac adroddiadau. Gwneir darpariaeth hefyd sy’n galluogi’r Comisiwn i roi swyddogaethau addas pellach i’r pwyllgor. At hynny, mae’r adran yn diwygio adran 18 o Ddeddf 2013 i bennu uchafswm nifer yr aelodau o’r pwyllgor ac isafswm nifer yr aelodau lleyg o’r pwyllgor, ac i ddarparu bod rhaid i gadeirydd y pwyllgor a’r dirprwy i’r cadeirydd ill dau fod yn aelodau lleyg o’r pwyllgor.
176.Mae adran 68 yn diwygio Deddf 2013 i fewnosod adran 11A, sy’n darparu pŵer i’r Comisiwn i godi tâl ar y sawl sy’n cael nwyddau neu hyfforddiant a ddarperir gan y Comisiwn mewn perthynas â’i swyddogaethau gweinyddu etholiadol, neu’r rhai sy’n ymwneud â swyddogaethau prif gyngor o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, pan fo’r derbynnydd wedi cytuno i gael y nwyddau neu’r hyfforddiant. Er enghraifft, gall y Comisiwn ddarparu sesiynau hyfforddi dewisol i’r gymuned etholiadol, a gallai osod tâl amdanynt ar fynychwyr er mwyn adennill y gost o ddarparu’r hyfforddiant.