Rhan 3 – DARPARIAETH GYFFREDINOL
Adran 69 - Rheoliadau: cyfyngiadau
177.Mae rhai o bwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf yn awdurdodi darpariaeth sy’n rhoi swyddogaethau i bersonau a darpariaeth i ddileu neu addasu swyddogaethau presennol, yn ddarostyngedig i hyd a lled y pwerau penodol (er enghraifft, y pŵer i wneud rheoliadau peilot o dan adran 5 a’r pŵer i ddarparu ar gyfer cynlluniau cymorth ariannol o dan adran 28). Mae cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru yn ddarostyngedig i gyfyngiadau yn Atodlen 7B i DLlC 2006, gan olygu y gall cydsyniad gweinidogion llywodraeth y DU, neu ymgynghori â hwy, fod yn ofynnol ar gyfer darpariaethau yn un o Ddeddfau’r Senedd sy’n rhoi swyddogaethau i awdurdodau cyhoeddus nad ydynt yn awdurdodau datganoledig Cymreig, neu ddarpariaethau sy’n dileu neu’n addasu swyddogaethau awdurdodau o’r fath.
178.Mae adran 69 yn darparu na chaiff y rheoliadau o dan y Ddeddf gynnwys darpariaeth a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol cael cydsyniad y Gweinidog priodol o dan baragraff 8(1)(a) neu (c), 10 neu 11 o Atodlen 7B i DLlC 2006 pe bai’r ddarpariaeth yn cael ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru; ac na chaiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol ymgynghori â’r Gweinidog priodol o dan baragraff 11(2) o Atodlen 7B i’r Ddeddf honno pe bai’r ddarpariaeth yn cael ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru.
Adran 70 – Dehongli cyffredinol
179.Mae adran 70 yn diffinio geiriau a thermau penodol a ddefnyddir yn y Ddeddf drwyddi draw.
Adran 71 – Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.
180.Mae adran 71 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n cynnwys darpariaethau atodol, darpariaethau deilliadol, darpariaethau canlyniadol, darpariaethau trosiannol neu ddarpariaethau arbed er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf. Rhaid i’r rheoliadau hynny gael eu gwneud drwy offeryn statudol a chaniateir iddynt ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (sy’n cynnwys darpariaeth yn Neddfau Senedd y DU, Deddfau neu Fesurau’r Senedd ac mewn is-ddeddfwriaeth).
181.Byddai angen i reoliadau o dan yr adran hon sy’n diwygio Deddfau Senedd y DU neu Ddeddfau neu Fesurau Senedd Cymru gael eu cymeradwyo gan Senedd Cymru. Mae rheoliadau eraill a wneir o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad negyddol yn y Senedd.
Adran 72 – Dod i rym
182.Mae adran 72 yn nodi pryd neu sut y daw darpariaethau’r Ddeddf i rym.
183.Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol (gweler is-adran (1)):
y darpariaethau ynghylch peilota a diwygio etholiadau Cymreig (ym Mhennod 3 o Ran 1 a Rhan 2 o Atodlen 1),
anghymhwyso cynghorwyr cymuned rhag bod yn Aelod o’r Senedd (adran 61),
Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: personau na chaniateir iddynt fod yn aelodau etc. (adran 66), a
Rhan 3 o’r Ddeddf.
184.Daw darpariaethau ynghylch adolygiadau o ffiniau a threfniadau etholiadol llywodraeth leol (Pennod 1 o Ran 2), cynnal arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr aflwyddiannus mewn etholiadau llywodraeth leol (adran 25), y canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol i hybu amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig (adran 30), a’r darpariaethau ynghylch anghymhwysiad am arferion llwgr neu anghyfreithlon (adrannau 62 a 63) i rym ddau fis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol (gweler is-adran (2)) Daw’r ddarpariaeth ynghylch cyfyngiadau gwleidyddol ar swyddogion a staff (adran 65) i rym ar 6 Mai 2027.
185.Caniateir i ddarpariaethau eraill y Ddeddf gael eu dwyn i rym ar ddiwrnodau a bennir drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru (gweler is-adran (4)). Caiff y gorchmynion sy’n dwyn darpariaethau i rym bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol a gwneud darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed (gweler is-adran (6)). Rhaid i orchmynion o’r fath gael eu gwneud drwy offeryn statudol, ond nid yw unrhyw weithdrefn gan y Senedd yn gymwys i’w gwneud.
Adran 73 – Enw byr
186.Mae adran 73 yn darparu mai enw byr y Ddeddf yw Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.