Gwerthuso peilotauLL+C
17Gwerthuso’r rheoliadau peilotLL+C
(1)Rhaid i’r Comisiwn Etholiadol lunio adroddiad ar weithrediad y rheoliadau peilot cyn y diwrnod a bennir o dan adran 6(1)(b).
(2)Rhaid i’r adroddiad gynnwys, yn benodol—
(a)disgrifiad—
(i)o’r ffordd yr oedd y ddarpariaeth a wnaed gan y rheoliadau peilot yn wahanol i’r darpariaethau a fyddai wedi bod yn gymwys fel arall, neu
(ii)yn achos rheoliadau peilot sy’n cynnwys darpariaeth o’r math a bennir yn adran 5(4), y darpariaethau sy’n cael eu profi;
(b)copi o’r rheoliadau peilot;
(c)asesiad o lwyddiant y rheoliadau peilot, neu fel arall, wrth gyflawni’r amcan a bennir yn y rheoliadau peilot;
(d)asesiad o ran a ddylai darpariaeth sy’n debyg i’r ddarpariaeth honno a wnaed gan y rheoliadau peilot fod yn gymwys yn gyffredinol, ac ar sail barhaol, mewn perthynas ag etholiadau Cymreig neu unrhyw fath o etholiad Cymreig.
(3)Rhaid i’r prif gyngor ar gyfer unrhyw ardal neu unrhyw ran o ardal y mae rheoliadau peilot yn gymwys iddi roi i’r Comisiwn unrhyw gymorth sy’n rhesymol ofynnol gan y Comisiwn mewn cysylltiad â llunio’r adroddiad.
(4)Caiff y cymorth gynnwys—
(a)gwneud trefniadau ar gyfer canfod safbwyntiau etholwyr ynghylch sut y gweithredwyd darpariaethau’r rheoliadau peilot;
(b)adrodd i’r Comisiwn honiadau o droseddau etholiadol neu gamymarfer arall.
(5)Rhaid i’r Comisiwn anfon copi o’r adroddiad—
(a)at Weinidogion Cymru,
(b)at bob swyddog canlyniadau ar gyfer yr etholiad yr oedd y rheoliadau peilot yn gymwys iddo, oni bai nad yw’r adroddiad ond yn ymwneud â chynigion a wneir o dan adran 11, ac
(c)os yw’r adroddiad yn ymwneud â chynigion a wneir o dan adran 11, at bob swyddog cofrestru etholiadol ar gyfer ardal yr oedd y rheoliadau peilot yn gymwys iddi,
cyn y diwrnod a bennir yn y rheoliadau peilot.
(6)Rhaid i swyddog canlyniadau sy’n cael adroddiad o dan is-adran (5) gyhoeddi’r adroddiad cyn diwedd y cyfnod o un mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r swyddog yn cael yr adroddiad gan y Comisiwn, oni bai nad yw’r adroddiad ond yn ymwneud â chynigion a wneir o dan adran 11.
(7)Rhaid i swyddog cofrestru etholiadol sy’n cael adroddiad o dan is-adran (5) gyhoeddi’r adroddiad cyn diwedd y cyfnod o un mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r swyddog yn cael yr adroddiad gan y Comisiwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 17 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(1)(a)