Search Legislation

Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: PENNOD 1

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, PENNOD 1. Help about Changes to Legislation

PENNOD 1LL+CTREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

Adolygiadau o drefniadau etholiadol: prif gynghorauLL+C

40Ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol prif ardalLL+C

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 30 (ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol prif ardal), yn lle is-adran (1) rhodder—

(1)Wrth ystyried a fydd yn gwneud argymhellion ynghylch newidiadau i drefniadau etholiadol prif ardal, rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r ffactorau a ganlyn—

(a)dymunoldeb cael cymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol sydd yr un fath, neu bron yr un fath, ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal;

(b)ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol maint, siâp a hygyrchedd ward etholiadol;

(c)unrhyw gwlwm lleol (gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Gymraeg) a fyddai’n cael ei dorri gan newidiadau o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 40 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(2)(a)

41Y cyfnod adolygu ar gyfer adolygiadau prif ardalLL+C

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 29 (adolygu trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal)—

(a)yn is-adran (3)—

(i)yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)y cyfnod o 12 mlynedd sy’n dechrau ar 30 Medi 2023, a;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “10” rhodder “12”;

(b)ar ôl is-adran (3), mewnosoder—

(3A)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (3).

(3)Yn adran 71(2) (gorchmynion a rheoliadau), ar ôl paragraff (ba) (a fewnosodir gan baragraff 1(4)(b) o Ran 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf hon) mewnosoder—

(bb)rheoliadau o dan adran 29(3A),.

(4)Yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1), yn adran 138 (adolygiadau o drefniadau etholiadol), hepgorer is-adran (6).

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 41 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(2)(a)

Adolygiadau o ffiniau atforLL+C

42Adolygu ffiniau atforLL+C

Yn adran 28 o Ddeddf 2013 (adolygu ffiniau tua’r môr), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3)Caiff adolygiad o dan yr adran hon adolygu ffin mwy nag un ardal llywodraeth leol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 42 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(2)(a)

Ymgynghori ac ystyried sylwadauLL+C

43Argymhellion a phenderfyniadau sy’n deillio o adolygiad etholiadol: dyletswydd i roi sylw i sylwadauLL+C

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 37 (gweithredu gan Weinidogion Cymru), yn lle is-adran (3) rhodder—

(3A)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law Gweinidogion Cymru.

(3B)Wrth arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law Gweinidogion Cymru yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law Gweinidogion Cymru.

(3)Yn adran 38 (gweithredu newid i ffin cymuned), yn lle is-adran (2) rhodder—

(2A)Rhaid i’r Comisiwn beidio ag arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Comisiwn.

(2B)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law’r Comisiwn yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Comisiwn.

(4)Yn adran 39 (gweithredu newid i drefniadau etholiadol cymuned), yn lle is-adran (4) rhodder—

(4A)Rhaid i’r Cyngor beidio ag arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (3) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Cyngor.

(4B)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1) neu (3), rhaid i’r Cyngor roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law’r Cyngor yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir yr adroddiad gan y Cyngor (ar gyfer swyddogaethau yn is-adran (1)) neu’r dyddiad y daw’r argymhellion i law’r Cyngor (ar gyfer swyddogaethau o dan is-adran (3)).

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 43 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(2)(a)

44Enwau wardiau etholiadolLL+C

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 36 (adrodd ar yr adolygiad) mewnosoder—

36AEnwau wardiau etholiado‍l

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys i adroddiad adolygu o dan y Rhan hon i’r graddau y mae’n ymwneud ag–

(a)ward etholiadol sydd ag enwau gwahanol (mewn unrhyw gyswllt) at ddibenion nodi’r ward wrth gyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg;

(b)cynnig i ward etholiadol gael enwau gwahanol mewn unrhyw gyswllt at ddibenion nodi’r ward wrth gyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg.

(2)Rhaid i’r Comisiwn neu’r prif gyngor (yn ôl y digwydd) bennu’r ddau enw neu’r ddau enw arfaethedig ar gyfer y ward etholiadol yn nwy fersiwn ieithyddol adroddiad o dan adran 35(2), 36(3) neu 36(4).

(3)Cyn llunio adroddiad o dan adran 35(2), 36(3) neu 36(4), rhaid i’r Comisiwn neu brif gyngor (yn ôl y digwydd) roi sylw, yn benodol, i unrhyw sylwadau a gafwyd oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch orgraff enw ward etholiadol, neu orgraff enw arfaethedig ward etholiadol, y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(4)Yn yr adran hon ystyr “dwy fersiwn ieithyddol yw’r fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 44 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(2)(a)

45Ymgynghori ar adolygiadauLL+C

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 34 (y weithdrefn ragadolygu), yn is-adran (1)(a), ar ôl “sylw” mewnosoder “aelodau o’r cyhoedd yr effeithir arnynt gan yr adolygiad,”.

(3)Yn adran 35 (ymgynghori ac ymchwilio)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “(“y corff adolygu”)—” mewnosoder—

(za)ymgynghori ag aelodau o’r cyhoedd yn yr ardal yr effeithir arni gan yr adolygiad,;

(b)yn is-adran (3)—

(i)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)rhoi cyhoeddusrwydd i’r ffaith y caniateir cyflwyno sylwadau sy’n ymwneud â’r adolygiad i’r corff adolygu yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus,

(ab)nodi yn y deunydd cyhoeddusrwydd pryd y mae’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dechrau ac yn dod i ben,;

(ii)ym mharagraff (b) yn lle “cyfnod ar gyfer sylwadau” rhodder “cyfnod ymgynghori cyhoeddus”;‍

(iii)ym mharagraff (d) hepgorer “, ac”;

(iv)hepgorer paragraff (e);

(v)yn lle is-adran (4) rhodder—

(4)Yn is-adran (3), ystyr “cyfnod ymgynghori cyhoeddus yw cyfnod o 6 wythnos o leiaf a dim mwy na 12 wythnos a benderfynir gan y corff adolygu, na chaniateir iddo ddechrau cyn diwedd cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y cyhoeddir yr adroddiad.

(4)Yn adran 36 (adrodd ar yr adolygiad), yn is-adran (1), yn lle “cyfnod ar gyfer sylwadau” rhodder “cyfnod ymgynghori cyhoeddus”.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 45 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(2)(a)

46Ystyr “ymgyngoreion gorfodol” yn Rhan 3 o Ddeddf 2013LL+C

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 34(3) (y weithdrefn ragadolygu), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(ca)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol mewn ardal yr effeithir arni gan yr adolygiad,

(cb)yr awdurdod Iechyd Porthladd a gyfansoddir o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22) ar gyfer rhanbarth iechyd porthladd mewn ardal yr effeithir arni gan yr adolygiad,

(cc)Comisiynydd y Gymraeg,.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 46 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(2)(a)

Amseriad adolygiadau a gweithreduLL+C

47Argymhellion a phenderfyniadau sy’n deillio o adolygiad etholiadol: y cyfnod cyn etholiad lleolLL+C

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 29(8) (adolygu trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal), yn lle “9” rhodder “12”.

(3)Yn adran 37 (gweithredu gan Weinidogion Cymru), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1) mewn unrhyw gyfnod o 6 mis cyn diwrnod etholiad cyffredin cyngor o dan adran 26 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr).

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 47 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(2)(a)

48Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau adolygiadauLL+C

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 36A (cynigion ar gyfer enwau wardiau etholiadol: adroddiadau adolygu) (a fewnosodir gan adran 44) mewnosoder—

36BY dyddiad cau ar gyfer cwblhau adolygiadau

(1)Cyn cynnal adolygiad o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor gyhoeddi datganiad sy’n pennu’r diwrnod y mae’r adolygiad yn dechrau.

(2)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 23, 27 neu 29, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 12 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).

(3)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 28, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 18 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).

(4)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 2‍6 neu 32, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 24 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).

(5)Rhaid i brif gyngor, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 25 neu 31, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 24 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).

(6)Os bydd corff adolygu yn methu â chydymffurfio â dyletswydd a osodir gan yr adran hon mewn perthynas ag adolygiad, nid yw methiant y corff i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd yr adolygiad at ddibenion y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 48 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(2)(a)

49Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau gweithreduLL+C

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 37 (gweithredu gan Weinidogion Cymru)—

(a)yn is-adran (1)(b), ar ôl “gweithredu” mewnosoder “ar unrhyw argymhelliad”;

(b)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud pob ymdrech i wneud penderfyniad ar bob argymhelliad a gânt, o’r math a ddisgrifir yn is-adran (1), cyn diwedd cyfnod o 3 mis sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (3A).

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n nodi eu penderfyniad mewn cysylltiad â phob argymhelliad; ac mae’r dyddiad y cyhoeddir y datganiad i’w drin fel dyddiad y penderfyniad at ddibenion is-adran (5).

(7)Os bydd Gweinidogion Cymru yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (5), nid yw’r methiant i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw orchymyn o dan is-adran (1)(a) nac unrhyw benderfyniad i beidio â gweithredu o dan is-adran (1)(b).

(3)Yn adran 38 (gweithredu newid i ffin cymuned), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(5)Rhaid i’r Comisiwn wneud pob ymdrech i wneud penderfyniad ar bob argymhelliad a gaiff, o’r math a ddisgrifir yn is-adran (1), cyn diwedd cyfnod o 3 mis sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (2A).

(6)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad sy’n nodi ei benderfyniad mewn cysylltiad â phob argymhelliad; ac mae’r dyddiad y cyhoeddir y datganiad i’w drin fel dyddiad y penderfyniad.

(7)Os bydd y Comisiwn yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (5), nid yw’r methiant i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw orchymyn o dan is-adran (1)(a) neu (b) nac unrhyw adolygiad o dan is-adran (1)(c).

(4)Yn adran 39 (gweithredu newid i drefniadau etholiadol cymuned)—

(a)ar ôl is-adran (4B) (a fewnosodir gan adran 43(4)) mewnosoder—

(4C)Rhaid i’r prif gyngor wneud pob ymdrech i wneud penderfyniad ar bob argymhelliad a gaiff, o’r math a ddisgrifir yn is-adran (3), cyn diwedd cyfnod o 3 mis sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (4A).

(4D)Rhaid i’r prif gyngor gyhoeddi datganiad sy’n nodi ei benderfyniad mewn cysylltiad â phob argymhelliad; ac mae’r dyddiad y cyhoeddir y datganiad i’w drin fel dyddiad y penderfyniad.

(4E)Os bydd prif gyngor yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (4C), nid yw’r methiant i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw orchymyn o dan is-adran (3)(a) neu (b) nac unrhyw benderfyniad neu hysbysiad o dan is-adran (3)(c).

(b)yn is-adran (6), ym mharagraff (b), yn lle “6 mis sy’n dechrau ar y dyddiad y cafodd y cyngor argymhellion y Comisiwn” rhodder “3 mis sy’n dechrau gyda diwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (4C)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 49 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(2)(a)

50Cyfarwyddydau i oedi adolygiadauLL+C

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 48 (cyfarwyddiadau a chanllawiau ynghylch Rhan 3)—

(a)yn is-adran (2), ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

(f)i oedi adolygiad y mae’n ei gynnal o dan y Rhan hon am gyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd neu hyd oni roddir cyfarwyddyd pellach.;

(b)yn is-adran (5), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)i oedi adolygiad y mae’n ei gynnal o dan y Rhan hon am gyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd neu hyd oni roddir cyfarwyddyd pellach.;

(c)ar ôl is-adran (9), mewnosoder—

(10)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â defnyddio’r pwerau cyfarwyddo o dan y Ddeddf hon i oedi adolygiad am fwy na 9 mis, pa un a yw’r oedi am un cyfnod o 9 mis neu am fwy nag un cyfnod sy’n dod i gyfanswm o 9 mis.

(11)Nid yw unrhyw gyfnod pan gyfarwyddir y Comisiwn neu brif gyngor o dan y Ddeddf hon i oedi adolygiad i gael ei ystyried at ddiben cyfrifo hyd y cyfnodau a grybwyllir yn is-adrannau (2) i (5) o adran 36B.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 50 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(2)(a)

Adolygiadau cymuned a statws fel trefiLL+C

51Adolygiadau cymuned a gweithreduLL+C

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 22 (dyletswyddau prif gynghorau mewn perthynas ag ardal), yn lle is-adrannau (5) a (6) rhodder—

(5)Cyn 1 Gorffennaf ym mhob blwyddyn, rhaid i brif gyngor gyhoeddi adroddiad ar y modd y cyflawnodd ei swyddogaethau o dan y Rhan hon ac adran 76 o Ddeddf 1972 (newid enw cymuned) yn y flwyddyn flaenorol, i’r graddau y mae’r swyddogaethau yn ymwneud â’r canlynol—

(a)enwau cymunedau,

(b)newidiadau i ffiniau cymunedau,

(c)newidiadau i gynghorau cymuned, a

(d)trefniadau etholiadol cymunedau.

(6)Rhaid i brif gyngor anfon copi o bob adroddiad y mae’n ei gyhoeddi i’r Comisiwn ac at Weinidogion Cymru.

(7)Yn is-adran (5), ystyr “blwyddyn yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ebrill.

(3)Yn adran 31 (adolygu trefniadau etholiadol i gymuned gan brif gyngor)—

(a)o flaen is-adran (1) mewnosoder—

(A1)Rhaid i brif gyngor gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob cymuned yn ei ardal o leiaf unwaith ym mhob cyfnod adolygu.

(A2)Yn is-adran (A1), ystyr “cyfnod adolygu” yw—

(a)y cyfnod o 12 mlynedd sy’n dechrau gyda’r diwrnod y daw adran 51 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 i rym, a

(b)pob cyfnod dilynol o 12 mlynedd.

(A3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (A2).;

(b)yn is-adran (1), ar ôl “prif gyngor” mewnosoder “hefyd”.

(4)Yn adran 33(3) (ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol cymuned)—

(a)yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol faint, siâp a hygyrchedd ward gymunedol, ac;

(b)ym mharagraff (c), ar ôl “lleol” mewnosoder “(gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Gymraeg)”.

(5)Yn adran 71(2) (gorchmynion a rheoliadau), ar ôl adran (bb) (a fewnosodir gan adran 41(3) o’r Ddeddf hon) mewnosoder—

(bc)rheoliadau o dan adran 31(A3),.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 51 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(2)(a)

52Hysbysiad o benderfyniadau ynghylch statws cymunedau fel trefiLL+C

(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 245B (cymunedau a chanddynt statws tref), ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(7A)The community council must give notice electronically in writing of any resolution passed under subsection (1) or (6) to the following bodies—

(a)the Welsh Ministers,

(b)the principal council for the area in which the community is situated, and

(c)the Democracy and Boundary Commission Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 52 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(2)(a)

Cyhoeddi gwybodaeth: trefniadau ar gyfer llywodraeth leolLL+C

53Cyhoeddi gorchmynion o dan Ran 3 o Ddeddf 2013LL+C

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 49 (ymchwiliadau lleol), mewnosoder—

49ZACyhoeddi gorchmynion o dan Ran 3

(1)Rhaid i brif gyngor gyhoeddi a chynnal ar ei wefan—

(a)copi o bob gorchymyn y mae’n ei wneud o dan y Rhan hon;

(b)copi o bob gorchymyn sy’n ymwneud â’i ardal a wneir gan y Comisiwn o dan y Rhan hon;

(c)copi o bob offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn sy’n ymwneud â’i ardal a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon, neu ddolen at bob offeryn statudol o’r fath.

(2)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi a chynnal ar ei wefan—

(a)copi o bob gorchymyn a wneir gan brif gyngor o dan y Rhan hon;

(b)copi o bob gorchymyn y mae’r Comisiwn yn ei wneud o dan y Rhan hon;

(c)copi o bob offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon, neu ddolen at bob offeryn statudol o’r fath;

(d)copi o bob offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan y Rhan hon, neu ddolen at bob offeryn statudol o’r fath.

(3)Rhaid i brif gyngor anfon copi o bob gorchymyn y mae’n ei wneud o dan y Rhan hon i’r Comisiwn.

(4)Rhaid i’r Comisiwn anfon i brif gyngor gopi o bob gorchymyn y mae’n ei wneud o dan y Rhan hon sy’n effeithio ar ardal y prif gyngor.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu prif gyngor am bob gorchymyn y maent yn ei wneud o dan y Rhan hon sy’n effeithio ar ardal y prif gyngor;

(b)hysbysu’r Comisiwn am bob gorchymyn y maent yn ei wneud o dan y Rhan hon.

(6)Mae’r dyletswyddau yn is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i orchmynion a wneir ar ôl i’r adran hon ddod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 53 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(2)(a)

54Cyhoeddi rhestrau cyfredol o gymunedau a chynghorau cymunedLL+C

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 49ZA (a fewnosodir gan adran 53), mewnosoder—

49ZBCyhoeddi rhestrau cyfredol o gymunedau a chynghorau cymuned

(1)Rhaid i brif gyngor gyhoeddi a chynnal ar ei wefan restr gyfredol o’r holl gymunedau a chynghorau cymuned yn ei ardal, gyda’u henwau presennol.

(2)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi a chynnal ar ei wefan restr gyfredol o’r holl gymunedau a chynghorau cymuned yng Nghymru, gyda’u henwau presennol.

(3)Os oes gan gymuned neu gyngor cymuned enwau gwahanol at ddiben cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, rhaid cynnwys y ddau enw mewn rhestr y mae’n ofynnol ei chyhoeddi o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 54 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(2)(a)

CyffredinolLL+C

55Darpariaeth drosiannolLL+C

(1)Mae adolygiad sy’n cael ei gynnal o dan Ran 3 o Ddeddf 2013 ar yr adeg y daw’r Bennod hon i rym i’w gwblhau fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan y Bennod hon wedi eu gwneud.

(2)Mae darpariaethau Rhan 3 o Ddeddf 2013 (ac unrhyw orchmynion neu unrhyw reoliadau a wneir o dan y Rhan honno) yn parhau i gael effaith at ddiben adolygiadau o’r fath fel yr oedd darpariaethau’r Rhan honno (ac unrhyw orchmynion neu reoliadau a wnaed o dan y Rhan honno) yn cael effaith yn union cyn i’r Bennod hon ddod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 55 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(2)(a)

Back to top

Options/Help