RHAN 2LL+CCYRFF ETHOLEDIG A’U HAELODAU
PENNOD 1LL+CTREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL
Adolygiadau o drefniadau etholiadol: prif gynghorauLL+C
40Ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol prif ardalLL+C
(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 30 (ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol prif ardal), yn lle is-adran (1) rhodder—
“(1)Wrth ystyried a fydd yn gwneud argymhellion ynghylch newidiadau i drefniadau etholiadol prif ardal, rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r ffactorau a ganlyn—
(a)dymunoldeb cael cymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol sydd yr un fath, neu bron yr un fath, ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal;
(b)ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol maint, siâp a hygyrchedd ward etholiadol;
(c)unrhyw gwlwm lleol (gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Gymraeg) a fyddai’n cael ei dorri gan newidiadau o’r fath.”
41Y cyfnod adolygu ar gyfer adolygiadau prif ardalLL+C
(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 29 (adolygu trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal)—
(a)yn is-adran (3)—
(i)yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)y cyfnod o 12 mlynedd sy’n dechrau ar 30 Medi 2023, a”;
(ii)ym mharagraff (b), yn lle “10” rhodder “12”;
(b)ar ôl is-adran (3), mewnosoder—
“(3A)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (3).”
(3)Yn adran 71(2) (gorchmynion a rheoliadau), ar ôl paragraff (ba) (a fewnosodir gan baragraff 1(4)(b) o Ran 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf hon) mewnosoder—
“(bb)rheoliadau o dan adran 29(3A),”.
(4)Yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1), yn adran 138 (adolygiadau o drefniadau etholiadol), hepgorer is-adran (6).
Adolygiadau o ffiniau atforLL+C
42Adolygu ffiniau atforLL+C
Yn adran 28 o Ddeddf 2013 (adolygu ffiniau tua’r môr), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(3)Caiff adolygiad o dan yr adran hon adolygu ffin mwy nag un ardal llywodraeth leol.”
Ymgynghori ac ystyried sylwadauLL+C
43Argymhellion a phenderfyniadau sy’n deillio o adolygiad etholiadol: dyletswydd i roi sylw i sylwadauLL+C
(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 37 (gweithredu gan Weinidogion Cymru), yn lle is-adran (3) rhodder—
“(3A)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law Gweinidogion Cymru.
(3B)Wrth arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law Gweinidogion Cymru yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law Gweinidogion Cymru.”
(3)Yn adran 38 (gweithredu newid i ffin cymuned), yn lle is-adran (2) rhodder—
“(2A)Rhaid i’r Comisiwn beidio ag arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Comisiwn.
(2B)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law’r Comisiwn yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Comisiwn.”
(4)Yn adran 39 (gweithredu newid i drefniadau etholiadol cymuned), yn lle is-adran (4) rhodder—
“(4A)Rhaid i’r Cyngor beidio ag arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (3) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Cyngor.
(4B)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1) neu (3), rhaid i’r Cyngor roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law’r Cyngor yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir yr adroddiad gan y Cyngor (ar gyfer swyddogaethau yn is-adran (1)) neu’r dyddiad y daw’r argymhellion i law’r Cyngor (ar gyfer swyddogaethau o dan is-adran (3)).”
44Enwau wardiau etholiadolLL+C
(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl adran 36 (adrodd ar yr adolygiad) mewnosoder—
“36AEnwau wardiau etholiadol
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys i adroddiad adolygu o dan y Rhan hon i’r graddau y mae’n ymwneud ag–
(a)ward etholiadol sydd ag enwau gwahanol (mewn unrhyw gyswllt) at ddibenion nodi’r ward wrth gyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg;
(b)cynnig i ward etholiadol gael enwau gwahanol mewn unrhyw gyswllt at ddibenion nodi’r ward wrth gyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg.
(2)Rhaid i’r Comisiwn neu’r prif gyngor (yn ôl y digwydd) bennu’r ddau enw neu’r ddau enw arfaethedig ar gyfer y ward etholiadol yn nwy fersiwn ieithyddol adroddiad o dan adran 35(2), 36(3) neu 36(4).
(3)Cyn llunio adroddiad o dan adran 35(2), 36(3) neu 36(4), rhaid i’r Comisiwn neu brif gyngor (yn ôl y digwydd) roi sylw, yn benodol, i unrhyw sylwadau a gafwyd oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch orgraff enw ward etholiadol, neu orgraff enw arfaethedig ward etholiadol, y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
(4)Yn yr adran hon ystyr “dwy fersiwn ieithyddol yw’r fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg.”
45Ymgynghori ar adolygiadauLL+C
(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 34 (y weithdrefn ragadolygu), yn is-adran (1)(a), ar ôl “sylw” mewnosoder “aelodau o’r cyhoedd yr effeithir arnynt gan yr adolygiad,”.
(3)Yn adran 35 (ymgynghori ac ymchwilio)—
(a)yn is-adran (1), ar ôl “(“y corff adolygu”)—” mewnosoder—
“(za)ymgynghori ag aelodau o’r cyhoedd yn yr ardal yr effeithir arni gan yr adolygiad,”;
(b)yn is-adran (3)—
(i)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)rhoi cyhoeddusrwydd i’r ffaith y caniateir cyflwyno sylwadau sy’n ymwneud â’r adolygiad i’r corff adolygu yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus,
(ab)nodi yn y deunydd cyhoeddusrwydd pryd y mae’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dechrau ac yn dod i ben,”;
(ii)ym mharagraff (b) yn lle “cyfnod ar gyfer sylwadau” rhodder “cyfnod ymgynghori cyhoeddus”;
(iii)ym mharagraff (d) hepgorer “, ac”;
(iv)hepgorer paragraff (e);
(v)yn lle is-adran (4) rhodder—
“(4)Yn is-adran (3), ystyr “cyfnod ymgynghori cyhoeddus yw cyfnod o 6 wythnos o leiaf a dim mwy na 12 wythnos a benderfynir gan y corff adolygu, na chaniateir iddo ddechrau cyn diwedd cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y cyhoeddir yr adroddiad.”
(4)Yn adran 36 (adrodd ar yr adolygiad), yn is-adran (1), yn lle “cyfnod ar gyfer sylwadau” rhodder “cyfnod ymgynghori cyhoeddus”.
46Ystyr “ymgyngoreion gorfodol” yn Rhan 3 o Ddeddf 2013LL+C
(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 34(3) (y weithdrefn ragadolygu), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—
“(ca)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol mewn ardal yr effeithir arni gan yr adolygiad,
(cb)yr awdurdod Iechyd Porthladd a gyfansoddir o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22) ar gyfer rhanbarth iechyd porthladd mewn ardal yr effeithir arni gan yr adolygiad,
(cc)Comisiynydd y Gymraeg,”.
Amseriad adolygiadau a gweithreduLL+C
47Argymhellion a phenderfyniadau sy’n deillio o adolygiad etholiadol: y cyfnod cyn etholiad lleolLL+C
(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 29(8) (adolygu trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal), yn lle “9” rhodder “12”.
(3)Yn adran 37 (gweithredu gan Weinidogion Cymru), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1) mewn unrhyw gyfnod o 6 mis cyn diwrnod etholiad cyffredin cyngor o dan adran 26 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr).”
48Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau adolygiadauLL+C
(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl adran 36A (cynigion ar gyfer enwau wardiau etholiadol: adroddiadau adolygu) (a fewnosodir gan adran 44) mewnosoder—
“36BY dyddiad cau ar gyfer cwblhau adolygiadau
(1)Cyn cynnal adolygiad o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor gyhoeddi datganiad sy’n pennu’r diwrnod y mae’r adolygiad yn dechrau.
(2)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 23, 27 neu 29, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 12 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).
(3)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 28, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 18 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).
(4)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 26 neu 32, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 24 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).
(5)Rhaid i brif gyngor, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 25 neu 31, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 24 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).
(6)Os bydd corff adolygu yn methu â chydymffurfio â dyletswydd a osodir gan yr adran hon mewn perthynas ag adolygiad, nid yw methiant y corff i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd yr adolygiad at ddibenion y Ddeddf hon.”
49Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau gweithreduLL+C
(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 37 (gweithredu gan Weinidogion Cymru)—
(a)yn is-adran (1)(b), ar ôl “gweithredu” mewnosoder “ar unrhyw argymhelliad”;
(b)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(5)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud pob ymdrech i wneud penderfyniad ar bob argymhelliad a gânt, o’r math a ddisgrifir yn is-adran (1), cyn diwedd cyfnod o 3 mis sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (3A).
(6)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n nodi eu penderfyniad mewn cysylltiad â phob argymhelliad; ac mae’r dyddiad y cyhoeddir y datganiad i’w drin fel dyddiad y penderfyniad at ddibenion is-adran (5).
(7)Os bydd Gweinidogion Cymru yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (5), nid yw’r methiant i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw orchymyn o dan is-adran (1)(a) nac unrhyw benderfyniad i beidio â gweithredu o dan is-adran (1)(b).”
(3)Yn adran 38 (gweithredu newid i ffin cymuned), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(5)Rhaid i’r Comisiwn wneud pob ymdrech i wneud penderfyniad ar bob argymhelliad a gaiff, o’r math a ddisgrifir yn is-adran (1), cyn diwedd cyfnod o 3 mis sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (2A).
(6)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad sy’n nodi ei benderfyniad mewn cysylltiad â phob argymhelliad; ac mae’r dyddiad y cyhoeddir y datganiad i’w drin fel dyddiad y penderfyniad.
(7)Os bydd y Comisiwn yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (5), nid yw’r methiant i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw orchymyn o dan is-adran (1)(a) neu (b) nac unrhyw adolygiad o dan is-adran (1)(c).”
(4)Yn adran 39 (gweithredu newid i drefniadau etholiadol cymuned)—
(a)ar ôl is-adran (4B) (a fewnosodir gan adran 43(4)) mewnosoder—
“(4C)Rhaid i’r prif gyngor wneud pob ymdrech i wneud penderfyniad ar bob argymhelliad a gaiff, o’r math a ddisgrifir yn is-adran (3), cyn diwedd cyfnod o 3 mis sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (4A).
(4D)Rhaid i’r prif gyngor gyhoeddi datganiad sy’n nodi ei benderfyniad mewn cysylltiad â phob argymhelliad; ac mae’r dyddiad y cyhoeddir y datganiad i’w drin fel dyddiad y penderfyniad.
(4E)Os bydd prif gyngor yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (4C), nid yw’r methiant i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw orchymyn o dan is-adran (3)(a) neu (b) nac unrhyw benderfyniad neu hysbysiad o dan is-adran (3)(c).”
(b)yn is-adran (6), ym mharagraff (b), yn lle “6 mis sy’n dechrau ar y dyddiad y cafodd y cyngor argymhellion y Comisiwn” rhodder “3 mis sy’n dechrau gyda diwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (4C)”.
50Cyfarwyddydau i oedi adolygiadauLL+C
(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 48 (cyfarwyddiadau a chanllawiau ynghylch Rhan 3)—
(a)yn is-adran (2), ar ôl paragraff (e) mewnosoder—
“(f)i oedi adolygiad y mae’n ei gynnal o dan y Rhan hon am gyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd neu hyd oni roddir cyfarwyddyd pellach.”;
(b)yn is-adran (5), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(c)i oedi adolygiad y mae’n ei gynnal o dan y Rhan hon am gyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd neu hyd oni roddir cyfarwyddyd pellach.”;
(c)ar ôl is-adran (9), mewnosoder—
“(10)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â defnyddio’r pwerau cyfarwyddo o dan y Ddeddf hon i oedi adolygiad am fwy na 9 mis, pa un a yw’r oedi am un cyfnod o 9 mis neu am fwy nag un cyfnod sy’n dod i gyfanswm o 9 mis.
(11)Nid yw unrhyw gyfnod pan gyfarwyddir y Comisiwn neu brif gyngor o dan y Ddeddf hon i oedi adolygiad i gael ei ystyried at ddiben cyfrifo hyd y cyfnodau a grybwyllir yn is-adrannau (2) i (5) o adran 36B.”
Adolygiadau cymuned a statws fel trefiLL+C
51Adolygiadau cymuned a gweithreduLL+C
(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 22 (dyletswyddau prif gynghorau mewn perthynas ag ardal), yn lle is-adrannau (5) a (6) rhodder—
“(5)Cyn 1 Gorffennaf ym mhob blwyddyn, rhaid i brif gyngor gyhoeddi adroddiad ar y modd y cyflawnodd ei swyddogaethau o dan y Rhan hon ac adran 76 o Ddeddf 1972 (newid enw cymuned) yn y flwyddyn flaenorol, i’r graddau y mae’r swyddogaethau yn ymwneud â’r canlynol—
(a)enwau cymunedau,
(b)newidiadau i ffiniau cymunedau,
(c)newidiadau i gynghorau cymuned, a
(d)trefniadau etholiadol cymunedau.
(6)Rhaid i brif gyngor anfon copi o bob adroddiad y mae’n ei gyhoeddi i’r Comisiwn ac at Weinidogion Cymru.
(7)Yn is-adran (5), ystyr “blwyddyn yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ebrill.”
(3)Yn adran 31 (adolygu trefniadau etholiadol i gymuned gan brif gyngor)—
(a)o flaen is-adran (1) mewnosoder—
“(A1)Rhaid i brif gyngor gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob cymuned yn ei ardal o leiaf unwaith ym mhob cyfnod adolygu.
(A2)Yn is-adran (A1), ystyr “cyfnod adolygu” yw—
(a)y cyfnod o 12 mlynedd sy’n dechrau gyda’r diwrnod y daw adran 51 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 i rym, a
(b)pob cyfnod dilynol o 12 mlynedd.
(A3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (A2).”;
(b)yn is-adran (1), ar ôl “prif gyngor” mewnosoder “hefyd”.
(4)Yn adran 33(3) (ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol cymuned)—
(a)yn lle paragraff (b) rhodder—
“(b)ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol faint, siâp a hygyrchedd ward gymunedol, ac”;
(b)ym mharagraff (c), ar ôl “lleol” mewnosoder “(gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Gymraeg)”.
(5)Yn adran 71(2) (gorchmynion a rheoliadau), ar ôl adran (bb) (a fewnosodir gan adran 41(3) o’r Ddeddf hon) mewnosoder—
“(bc)rheoliadau o dan adran 31(A3),”.
52Hysbysiad o benderfyniadau ynghylch statws cymunedau fel trefiLL+C
(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 245B (cymunedau a chanddynt statws tref), ar ôl is-adran (7) mewnosoder—
“(7A)The community council must give notice electronically in writing of any resolution passed under subsection (1) or (6) to the following bodies—
(a)the Welsh Ministers,
(b)the principal council for the area in which the community is situated, and
(c)the Democracy and Boundary Commission Cymru.”
Cyhoeddi gwybodaeth: trefniadau ar gyfer llywodraeth leolLL+C
53Cyhoeddi gorchmynion o dan Ran 3 o Ddeddf 2013LL+C
(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl adran 49 (ymchwiliadau lleol), mewnosoder—
“49ZACyhoeddi gorchmynion o dan Ran 3
(1)Rhaid i brif gyngor gyhoeddi a chynnal ar ei wefan—
(a)copi o bob gorchymyn y mae’n ei wneud o dan y Rhan hon;
(b)copi o bob gorchymyn sy’n ymwneud â’i ardal a wneir gan y Comisiwn o dan y Rhan hon;
(c)copi o bob offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn sy’n ymwneud â’i ardal a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon, neu ddolen at bob offeryn statudol o’r fath.
(2)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi a chynnal ar ei wefan—
(a)copi o bob gorchymyn a wneir gan brif gyngor o dan y Rhan hon;
(b)copi o bob gorchymyn y mae’r Comisiwn yn ei wneud o dan y Rhan hon;
(c)copi o bob offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon, neu ddolen at bob offeryn statudol o’r fath;
(d)copi o bob offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan y Rhan hon, neu ddolen at bob offeryn statudol o’r fath.
(3)Rhaid i brif gyngor anfon copi o bob gorchymyn y mae’n ei wneud o dan y Rhan hon i’r Comisiwn.
(4)Rhaid i’r Comisiwn anfon i brif gyngor gopi o bob gorchymyn y mae’n ei wneud o dan y Rhan hon sy’n effeithio ar ardal y prif gyngor.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)hysbysu prif gyngor am bob gorchymyn y maent yn ei wneud o dan y Rhan hon sy’n effeithio ar ardal y prif gyngor;
(b)hysbysu’r Comisiwn am bob gorchymyn y maent yn ei wneud o dan y Rhan hon.
(6)Mae’r dyletswyddau yn is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i orchmynion a wneir ar ôl i’r adran hon ddod i rym.”
54Cyhoeddi rhestrau cyfredol o gymunedau a chynghorau cymunedLL+C
(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl adran 49ZA (a fewnosodir gan adran 53), mewnosoder—
“49ZBCyhoeddi rhestrau cyfredol o gymunedau a chynghorau cymuned
(1)Rhaid i brif gyngor gyhoeddi a chynnal ar ei wefan restr gyfredol o’r holl gymunedau a chynghorau cymuned yn ei ardal, gyda’u henwau presennol.
(2)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi a chynnal ar ei wefan restr gyfredol o’r holl gymunedau a chynghorau cymuned yng Nghymru, gyda’u henwau presennol.
(3)Os oes gan gymuned neu gyngor cymuned enwau gwahanol at ddiben cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, rhaid cynnwys y ddau enw mewn rhestr y mae’n ofynnol ei chyhoeddi o dan yr adran hon.”
CyffredinolLL+C
55Darpariaeth drosiannolLL+C
(1)Mae adolygiad sy’n cael ei gynnal o dan Ran 3 o Ddeddf 2013 ar yr adeg y daw’r Bennod hon i rym i’w gwblhau fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan y Bennod hon wedi eu gwneud.
(2)Mae darpariaethau Rhan 3 o Ddeddf 2013 (ac unrhyw orchmynion neu unrhyw reoliadau a wneir o dan y Rhan honno) yn parhau i gael effaith at ddiben adolygiadau o’r fath fel yr oedd darpariaethau’r Rhan honno (ac unrhyw orchmynion neu reoliadau a wnaed o dan y Rhan honno) yn cael effaith yn union cyn i’r Bennod hon ddod i rym.
Rhagolygol
PENNOD 2LL+CCYDNABYDDIAETH ARIANNOL AELODAU ETHOLEDIG
Diddymu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth AriannolLL+C
56Diddymu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth AriannolLL+C
Ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4) (Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol: swyddogaethau sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol aelodau), hepgorer adrannau 141 i 159 ac Atodlen 2.
Swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau CymruLL+C
57Swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannolLL+C
(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl adran 69 mewnosoder—
“RHAN 5ALL+CSWYDDOGAETHAU SY’N YMWNEUD Â THALIADAU A PHENSIYNAU
Tâl ar gyfer aelodau awdurdodLL+C
69ASwyddogaeth sy’n ymwneud â thaliadau i aelodau
(1)Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025 ac ar gyfer pob blwyddyn ariannol ddilynol, rhaid i’r Comisiwn benderfynu ar y materion perthnasol—
(a)y mae’n ofynnol i awdurdod perthnasol wneud taliadau i aelodau o’r awdurdod amdanynt;
(b)yr awdurdodir awdurdod perthnasol i wneud taliadau i aelodau o’r awdurdod amdanynt.
(2)Yn y Rhan hon materion perthnasol yw—
(a)materion sy’n ymwneud â busnes swyddogol aelodau awdurdodau perthnasol;
(b)cyfnodau o absenoldeb teuluol o dan Ran 2 o Fesur 2011.
(3)Wrth wneud penderfyniad o dan is-adran (1) rhaid i’r Comisiwn osod un o’r canlynol ar gyfer pob mater perthnasol—
(a)y swm y mae rhaid i awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o’r awdurdod;
(b)yr uchafswm y caiff awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o’r awdurdod.
(4)Caiff y Comisiwn benderfynu na chaniateir talu taliadau mewn cysylltiad â mater neu faterion perthnasol i fwy na chyfran benodedig neu nifer penodedig o aelodau awdurdod perthnasol.
(5)Ni chaiff y gyfran a bennir gan y Comisiwn o dan is-adran (4) fod yn fwy na 50% oni bai bod Gweinidogion Cymru yn rhoi eu cydsyniad.
(6)Ni chaiff y nifer a bennir gan y Comisiwn o dan is-adran (4), a fynegir fel cyfran o gyfanswm aelodau awdurdod perthnasol, fod yn fwy na 50% oni bai bod Gweinidogion Cymru yn rhoi eu cydsyniad.
(7)Caiff y Comisiwn osod—
(a)canran uchaf neu gyfradd arall yr addasiad y caniateir i awdurdod perthnasol ei gwneud, ar gyfer blwyddyn ariannol, i’r symiau a oedd ag effaith mewn cysylltiad â materion perthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn honno;
(b)mynegrif y caniateir i awdurdod perthnasol ei ddefnyddio i addasu, ar gyfer blwyddyn ariannol, y symiau a oedd ag effaith mewn cysylltiad â’r materion perthnasol hynny ar gyfer y flwyddyn flaenorol y bydd y Comisiwn yn penderfynu arnynt.
(8)Caniateir arfer y pwerau o dan is-adran (7) er mwyn—
(a)gosod cyfradd a mynegrif mewn perthynas â’r un mater;
(b)gosod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol mewn perthynas â materion gwahanol.
(9)Wrth osod swm o dan is-adran (3), gwneud penderfyniad o dan is-adran (4) neu osod cyfradd neu fynegrif o dan is-adran (7), rhaid i’r Comisiwn ystyried beth yn ei farn ef fydd effaith ariannol debygol gwneud hynny ar awdurdodau perthnasol.
(10)Caiff y Comisiwn wneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (1), gosod symiau gwahanol o dan is-adran (3), gwneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (4), neu osod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol o dan is-adran (7), mewn perthynas ag awdurdodau perthnasol o ddisgrifiadau gwahanol neu ag awdurdodau perthnasol gwahanol o’r un disgrifiad.
(11)At ddibenion is-adran (2) mae mater yn ymwneud â busnes swyddogol aelod o awdurdod perthnasol os yw’n fater y mae aelod yn ymgymryd ag ef—
(a)fel aelod o awdurdod perthnasol, neu
(b)fel aelod o gorff y penodir yr aelod iddo gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy’n cynnwys yr awdurdod perthnasol, neu yn sgil cael ei enwebu gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy’n cynnwys yr awdurdod perthnasol.
(12)Yn yr adran hon ac yn adran 69E ystyr “blwyddyn ariannol” yw cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.
69BSwyddogaethau sy’n ymwneud â phensiynau aelodau
(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag aelodau o awdurdodau perthnasol—
(a)nad ydynt yn aelodau cyfetholedig, a
(b)sydd am y tro yn gymwys i fod yn aelodau o gynllun pensiwn yn unol â rheoliadau o dan adran 7 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p. 11) (cynlluniau pensiwn llywodraeth leol).
(2)Rhaid i’r Comisiwn benderfynu ar y disgrifiadau o aelodau y mae’n ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn (“pensiwn perthnasol”) mewn cysylltiad â hwy.
(3)Rhaid i’r Comisiwn benderfynu ar y materion perthnasol y mae’n ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn perthnasol mewn cysylltiad â hwy.
(4)Caiff y Comisiwn wneud penderfyniadau gwahanol mewn perthynas ag awdurdodau perthnasol o ddisgrifiadau gwahanol neu ag awdurdodau perthnasol gwahanol o’r un disgrifiad.
69CAwdurdodau perthnasol, aelodau etc.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.
(2)Mae awdurdod yn awdurdod perthnasol os yw’n—
(a)awdurdod lleol;
(b)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(c)awdurdod tân ac achub Cymreig, sef awdurdod yng Nghymru a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;
(d)cyd-bwyllgor corfforedig;
(e)corff a bennir yn awdurdod perthnasol mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(3)Mae cyfeiriad at ddisgrifiad o awdurdod perthnasol i gael ei ddarllen gydag is-adran (2).
(4)Mae “aelod”, mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yn cynnwys—
(a)maer etholedig i’r awdurdod (o fewn ystyr 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000),
(b)aelod gweithredol etholedig o’r awdurdod (o fewn ystyr adran 39(4) o’r Ddeddf honno),
(c)aelod cyfetholedig o’r awdurdod, a
(d)person sy’n aelod o is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig ac a chanddo hawlogaeth i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i’w benderfynu gan yr is-bwyllgor hwnnw.
(5)Ystyr “aelod cyfetholedig”, mewn perthynas ag awdurdod perthnasol nad yw’n gyd-bwyllgor corfforedig, yw person nad yw’n aelod o’r awdurdod (ac eithrio yn rhinwedd is-adran (4)) ond—
(a)sy’n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor i’r awdurdod neu sy’n aelod o gyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i’r awdurdod ac sy’n cynrychioli’r awdurdod ar y cyd-bwyllgor neu’r cyd-is-bwyllgor hwnnw, a
(b)y mae ganddo hawlogaeth i bleidleisio ar gwestiynau sydd i’w penderfynu yng nghyfarfodydd y pwyllgor hwnnw neu’r is-bwyllgor hwnnw.
(6)Ni chaniateir pennu corff yn awdurdod perthnasol mewn rheoliadau o dan is-adran (2)(e) ond—
(a)os yw Gweinidogion Cymru yn arfer swyddogaethau mewn cysylltiad ag ef,
(b)os yw’n arfer swyddogaeth a roddir gan Fesur neu Ddeddf gan Senedd Cymru, neu swyddogaeth a allai gael ei rhoi gan Ddeddf gan Senedd Cymru (gan gynnwys swyddogaeth na allai gael ei rhoi ond gyda chydsyniad un o Weinidogion y Goron), ac
(c)os yw ei aelodaeth yn cynnwys o leiaf un aelod o awdurdod a ddisgrifir yn is-adran (2)(a) i (d).
(7)Nid yw adrannau 69A(4), 69B, 69E(4)(d) a 69O yn gymwys mewn perthynas ag awdurdod perthnasol a ddisgrifir yn is-adran (2)(d) neu (e).
(8)Yn yr adran hon ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” yw pwyllgor a sefydlir drwy reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1).
69DSwyddogaethau sy’n ymwneud â thaliadau ailsefydlu
(1)Mae taliad ailsefydlu yn daliad i berson—
(a)sy’n peidio â bod yn aelod o awdurdod lleol ar ddiwedd tymor ei swydd,
(b)a oedd, pan oedd yn ei swydd, yn aelod o awdurdod lleol o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru,
(c)sy’n sefyll i gael ei ailethol i fod yn aelod o’r un awdurdod yn etholiad cyffredin yr awdurdod lleol ar gyfer y tymor sy’n dilyn ei dymor yn y swydd, a
(d)nad yw’n cael ei ddychwelyd yn aelod yn yr etholiad hwnnw.
(2)Rhaid i’r Comisiwn benderfynu—
(a)o dan ba amgylchiadau y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud taliad ailsefydlu;
(b)o dan ba amgylchiadau yr awdurdodir awdurdod lleol i wneud taliad ailsefydlu;
(c)y materion y mae taliad ailsefydlu yn daladwy mewn cysylltiad â hwy.
(3)Wrth wneud penderfyniad o dan is-adran (2) rhaid i’r Comisiwn osod—
(a)yr amodau cymhwyso i gael taliad;
(b)y swm y mae’n ofynnol i awdurdod lleol ei dalu;
(c)yr uchafswm y caiff awdurdod lleol ei dalu i aelod;
(d)mecanwaith y caniateir ei ddefnyddio i gynyddu neu i leihau swm y taliadau a osodir o dan baragraff (b) neu (c);
(e)gofynion ynghylch sut y mae taliadau i’w gwneud (a pha mor aml y’u gwneir).
(4)Rhaid i’r Comisiwn wneud trefniadau i adolygu unrhyw benderfyniad y mae’n ei wneud o dan is-adran (2) ac, os yw’n meddwl ei bod yn briodol, caiff ddiwygio ei benderfyniad.
(5)Wrth wneud penderfyniad o dan yr adran hon rhaid i’r Comisiwn ystyried effaith ariannol debygol ei benderfyniad ar awdurdodau lleol.
(6)Wrth wneud penderfyniad o dan is-adran (2) caiff y Comisiwn wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas ag aelodau o awdurdodau lleol o ddisgrifiadau gwahanol neu ag aelodau gwahanol o’r un disgrifiad.
(7)Rhaid i’r Comisiwn wneud penderfyniad o dan is-adran (2) cyn pob un o etholiadau cyffredin yr awdurdod lleol, gan ddechrau gyda’r etholiad sydd i’w gynnal ym mis Mai 2027 a rhaid iddo adolygu’r penderfyniad cyn pob etholiad cyffredin dilynol.
(8)Nid yw is-adran (7) ond yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1)(b).
69EAdroddiadau blynyddol ar dâl mewn perthynas ag aelodau o awdurdodau perthnasol
(1)Rhaid i’r Comisiwn lunio a chyhoeddi adroddiad (“adroddiad blynyddol ar dâl”) ynghylch arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol.
(2)Rhaid i adroddiad blynyddol ar dâl nodi’r gofynion a osodir ar awdurdodau perthnasol gan y Comisiwn o dan adrannau 69A, 69B a 69D.
(3)Rhaid cyhoeddi adroddiad blynyddol ar dâl heb fod yn hwyrach nag—
(a)28 Chwefror yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi, neu
(b)unrhyw ddyddiad diweddarach y mae’r Comisiwn a Gweinidogion Cymru yn cytuno arno.
(4)Rhaid i adroddiad blynyddol ar dâl nodi—
(a)y materion perthnasol,
(b)y symiau a osodir o dan adran 69A(3),
(c)y gyfran neu’r nifer a benderfynir o dan adran 69A(4),
(d)yr aelodau neu’r disgrifiadau o aelodau o awdurdodau perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdodau perthnasol dalu pensiwn perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy,
(e)y materion perthnasol y mae pensiwn perthnasol yn daladwy mewn cysylltiad â hwy,
(f)unrhyw ganran, unrhyw gyfradd neu unrhyw fynegrif a osodir o dan adran 69A(7) a’r mater perthnasol y mae’n ymwneud ag ef, ac
(g)unrhyw benderfyniad ynghylch taliadau ailsefydlu o dan adran 69D.
69FAdroddiadau atodol ar dâl
(1)Ar ôl cyhoeddi adroddiad blynyddol ar dâl ond cyn cyhoeddi’r adroddiad nesaf, caiff y Comisiwn lunio a chyhoeddi un neu ragor o adroddiadau atodol ar dâl i’r adroddiad blynyddol ar dâl (“adroddiad atodol ar dâl”).
(2)Caiff yr adroddiad atodol ar dâl—
(a)amrywio’r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol ar dâl o dan adran 69E(4);
(b)gwneud unrhyw ddarpariaeth y gallai’r adroddiad blynyddol ar dâl fod wedi ei gwneud o dan adran 69E(4).
69GDarpariaeth bellach ynghylch adroddiadau blynyddol ar dâl ac adroddiadau atodol ar dâl
(1)Cyn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar dâl neu adroddiad atodol ar dâl o dan adran 69E neu 69F, rhaid i’r Comisiwn—
(a)anfon drafft o’r adroddiad y mae’n cynnig ei wneud—
(i)at Weinidogion Cymru,
(ii)i’r awdurdodau perthnasol y mae’r Comisiwn wedi ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud taliadau, neu wedi eu hawdurdodi i wneud taliadau, i’w haelodau mewn cysylltiad â materion perthnasol, a
(iii)at unrhyw bersonau eraill y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol,
(b)cyhoeddi’r adroddiad drafft cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl ei anfon.
(2)Wrth lunio adroddiad blynyddol ar dâl neu adroddiad atodol ar dâl o dan adran 69E neu 69F, rhaid i’r Comisiwn ystyried—
(a)yr adroddiad blynyddol diwethaf ar dâl ac unrhyw adroddiadau atodol ar dâl sy’n ymwneud â’r adroddiad blynyddol diwethaf ar dâl;
(b)sylwadau sydd wedi dod i law ynghylch yr adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) a’r adroddiadau drafft y cyfeirir atynt yn is-adran (1).
(3)Mae’r darpariaethau mewn adroddiad blynyddol neu atodol ar dâl o dan adran 69E neu 69F yn cael effaith ar y dyddiad a bennir at y diben hwnnw yn yr adroddiad.
(4)Ond pan fo adroddiad atodol ar dâl yn cynnwys darpariaeth a wneir o dan adran 69F(2) sy’n amrywio darpariaeth a wneir o dan adran 69E(4)(a), (b) neu (c), caiff yr adroddiad atodol ar dâl bennu bod y ddarpariaeth i gael ei thrin fel pe bai’n cael effaith hyd at 3 mis yn gynharach na dyddiad cyhoeddi’r adroddiad atodol ar dâl.
69HCyfarwyddiadau i ailystyried adroddiadau drafft
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r Comisiwn i ailystyried darpariaeth mewn adroddiad drafft blynyddol neu adroddiad drafft atodol ar dâl.
(2)Rhaid i gyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu—
(a)y ddarpariaeth,
(b)y rheswm dros roi’r cyfarwyddyd, ac
(c)y dyddiad erbyn pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn ymateb.
(3)O ran y Comisiwn—
(a)rhaid iddo ymateb i’r cyfarwyddyd heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd;
(b)rhaid iddo beidio â chyhoeddi’r adroddiad cyn ymateb i’r cyfarwyddyd.
(4)Os yw’r Comisiwn yn penderfynu peidio ag amrywio’r adroddiad drafft mewn ymateb i’r cyfarwyddyd, rhaid iddo bennu yn ei ymateb y rheswm dros ei benderfyniad.
69IDyletswyddau’r Comisiwn o ran cyhoeddi a hysbysu mewn perthynas ag adroddiadau
(1)Rhaid i’r Comisiwn beidio â chyhoeddi adroddiad blynyddol ar dâl o dan adran 69E cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad o dan adran 69G(1)(a)(i).
(2)Rhaid i’r Comisiwn beidio â chyhoeddi adroddiad atodol ar dâl—
(a)cyn diwedd y cyfnod o 8 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad yn unol ag adran 69G(1)(a)(i), neu
(b)yn hwyrach na diwedd y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad yn unol ag adran 69G(1)(a)(i).
(3)Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i adran 69H(3)(b) (ni chaniateir cyhoeddi’r adroddiad ond os yw’r Comisiwn wedi ymateb i’r cyfarwyddyd).
(4)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi pob adroddiad blynyddol ar dâl, pob adroddiad atodol ar dâl a phob adroddiad drafft a lunnir o dan y Rhan hon ar ei wefan, ac mewn unrhyw ffordd arall y mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol.
(5)Caniateir i gopïau o unrhyw beth a gyhoeddir o dan is-adran (4) gael eu cyflenwi yn rhad ac am ddim neu ar ôl talu unrhyw ffi, nad yw’n fwy na chost cyflenwi’r copi, a benderfynir gan y Comisiwn.
(6)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi adroddiad blynyddol ar dâl neu adroddiad atodol ar dâl, rhaid i’r Comisiwn hysbysu’r personau y mae o’r farn ei fod yn debygol o effeithio arnynt ynghylch sut y gallant gael mynediad at yr adroddiad neu gael copi ohono.
69JGofynion gweinyddol ar gyfer awdurdodau perthnasol mewn adroddiadau
(1)Caiff adroddiad blynyddol ar dâl gynnwys gofynion y Comisiwn er mwyn—
(a)osgoi dyblygu—
(i)taliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol, a
(ii)ceisiadau am daliad mewn cysylltiad â’r un materion perthnasol o dan adran 69A(2)(a);
(b)cadw cofnodion—
(i)o geisiadau am daliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol;
(ii)o daliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol;
(iii)o daliadau a wneir mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol;
(iv)o daliadau ailsefydlu a wneir o dan adran 69D.
(2)Rhaid i adroddiad blynyddol ar dâl nodi gofynion y Comisiwn mewn perthynas â sut y mae awdurdod perthnasol yn penderfynu pa awdurdod perthnasol y mae’n ofynnol iddo wneud taliad mewn achos pan fo aelod o awdurdod perthnasol yn gwneud rhywbeth—
(a)y mae rhaid gwneud taliad amdano mewn cysylltiad â mater perthnasol, a
(b)sy’n ymwneud ag awdurdod perthnasol arall (yn ogystal â’r awdurdod y mae’r aelod yn perthyn iddo).
69KGofynion cyhoeddi ar gyfer awdurdodau perthnasol mewn adroddiadau
(1)Caiff adroddiad blynyddol ar dâl nodi gofynion y Comisiwn i awdurdodau perthnasol gyhoeddi gwybodaeth—
(a)ynghylch taliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol;
(b)ynghylch taliadau a wneir mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol;
(c)ynghylch taliadau ailsefydlu a wneir o dan adran 69D;
(d)ynghylch taliadau eraill a wneir i aelodau o awdurdodau perthnasol gan gyrff cyhoeddus eraill.
(2)At ddibenion is-baragraff (1)(d), ystyr “corff cyhoeddus” yw—
(a)bwrdd iechyd lleol;
(b)panel heddlu a throsedd;
(c)awdurdod perthnasol;
(d)corff sydd wedi ei ddynodi’n gorff cyhoeddus mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(3)Caiff y Comisiwn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu i awdurdodau gwahanol o’r un disgrifiad wneud trefniadau cyhoeddi gwahanol.
69LMonitro cydymffurfedd â gofynion y Comisiwn
(1)Rhaid i awdurdod perthnasol gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a nodir mewn adroddiad blynyddol ar dâl neu adroddiad atodol ar dâl.
(2)Caiff y Comisiwn fonitro sut y gwneir taliadau gan awdurdodau perthnasol mewn cysylltiad â materion perthnasol; a chaiff ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol ddarparu gwybodaeth iddo—
(a)ynghylch y materion sy’n faterion perthnasol mewn perthynas â’r awdurdod;
(b)ynghylch ceisiadau i’r awdurdod am daliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol;
(c)ynghylch taliadau a wneir gan yr awdurdod mewn cysylltiad â materion perthnasol.
(3)Caiff y Comisiwn fonitro sut y gwneir taliadau gan awdurdodau perthnasol mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol a chaiff ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol ddarparu gwybodaeth iddo—
(a)ynghylch aelodau’r awdurdod y mae’n ofynnol i’r awdurdod dalu pensiynau perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy;
(b)ynghylch taliadau a wneir gan yr awdurdod mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol.
(4)Caiff y Comisiwn fonitro sut y gwneir taliadau ailsefydlu gan awdurdodau lleol a chaiff ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth iddo—
(a)ynghylch cyn-aelodau’r awdurdod lleol y mae’n ofynnol i’r awdurdod dalu taliad ailsefydlu iddynt neu mewn cysylltiad â hwy;
(b)ynghylch taliadau ailsefydlu a wneir gan yr awdurdod lleol.
69MCyfarwyddiadau i orfodi cydymffurfedd â gofynion y Comisiwn
(1)Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â gofyniad mewn adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol ar dâl a wneir o dan y Rhan hon, cânt gyfarwyddo’r awdurdod i gydymffurfio â’r gofyniad.
(2)Rhaid i gyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu—
(a)y gofyniad;
(b)y rheswm dros roi’r cyfarwyddyd;
(c)y camau y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod eu cymryd;
(d)y dyddiad erbyn pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod gymryd y camau.
69NAelodau sy’n dymuno ymwrthod â thaliadau
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw person, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i swyddog priodol yr awdurdod, yn dewis ymwrthod (naill ai’n gyfan gwbl neu i’r graddau a bennir yn yr hysbysiad) â’r hawlogaeth i gael taliadau mewn cysylltiad â’r materion perthnasol, neu daliad ailsefydlu, a bennir yn yr hysbysiad.
(2)Nid yw’r gofyniad a osodir ar yr awdurdod gan adran 69A a 69D i wneud taliadau a bennir yn yr hysbysiad yn gymwys yn achos yr aelod hwnnw (neu nid yw’n gymwys i’r graddau a bennir yn yr hysbysiad).
(3)Yn yr adran hon mae i “swyddog priodol” yr ystyr a roddir i “proper officer” yn adran 270(3) o Ddeddf 1972.
69OCadw taliadau yn ôl
(1)Rhaid i awdurdod perthnasol beidio â gwneud taliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol na phensiwn perthnasol i berson—
(a)sydd wedi ei atal dros dro neu wedi ei atal dros dro yn rhannol rhag bod yn aelod o’r awdurdod yn rhinwedd Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22) (ymddygiad aelodau llywodraeth leol etc.);
(b)sydd wedi ei rwystro rhag gweithredu yn swydd aelod o awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 80A(6) o Ddeddf 1972 (anghymhwyso).
(2)Rhaid i awdurdod lleol beidio â gwneud taliad ailsefydlu i berson sydd wedi ei rwystro rhag gweithredu yn swydd aelod o awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 80A(6) o Ddeddf 1972.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, mewn achosion y maent o’r farn eu bod yn briodol, gyfarwyddo awdurdod perthnasol i beidio ag—
(a)gwneud taliadau (gan gynnwys mewn cysylltiad â phensiynau) mewn cysylltiad â’r materion perthnasol a bennir yn y cyfarwyddyd;
(b)gwneud taliad ailsefydlu.
(4)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.
(5)Caiff awdurdod perthnasol ei gwneud yn ofynnol i berson ad-dalu taliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol neu bensiwn perthnasol i berson mewn cysylltiad â chyfnod pan nad oedd gan y person hawlogaeth i gael y taliad am unrhyw reswm, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y rhesymau a ganlyn—
(a)gwnaed y taliadau yn groes i is-adran (1);
(b)gwnaed y taliadau yn groes i gyfarwyddyd o dan is-adran (3)(a);
(c)yr oedd y person wedi peidio â bod yn aelod o’r awdurdod.
(6)Caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i berson ad-dalu taliad ailsefydlu a wneir o dan adran 69D pan nad oedd gan y person hawlogaeth i gael y taliad am unrhyw reswm, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y rhesymau a ganlyn—
(a)gwnaed y taliad yn groes i is-adran (2);
(b)gwnaed y taliad yn groes i gyfarwyddyd o dan is-adran (3)(b).
69PCanllawiau
(1)Caiff y Comisiwn ddyroddi canllawiau i awdurdodau perthnasol ynghylch sut i gydymffurfio â gofynion a osodir o dan y Rhan hon.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r Comisiwn ynghylch swyddogaethau’r Comisiwn o dan y Rhan hon.
(3)Mae pwerau’r Comisiwn a Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau o dan is-adrannau (1) a (2) yn cynnwys y pŵer i amrywio neu ddirymu canllawiau a roddir.
(4)Rhaid i awdurdod perthnasol, neu’r Comisiwn yn ôl y digwydd, roi sylw i ganllawiau a roddir o dan yr adran hon.
69QCyfarwyddiadau o dan y Rhan hon
(1)Mae cyfarwyddyd a roddir o dan adran 69M a 69O yn orfodadwy drwy orchymyn mandadol ar gais gan Weinidogion Cymru.
(2)Nid yw’r pŵer i roi cyfarwyddiadau o dan y Rhan hon yn cyfyngu ar y pŵer cyfarwyddo cyffredinol o dan adran 14.
69RPŵer i addasu darpariaeth
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud addasiadau i’r Rhan hon er mwyn ychwanegu, amrywio neu hepgor darpariaeth sy’n rhoi swyddogaeth i’r Comisiwn neu’n gosod swyddogaeth arno.”
58Trosglwyddo eiddo, hawliau ac atebolrwyddauLL+C
Mae’r holl eiddo, yr holl hawliau a’r holl atebolrwyddau a freinir ym Mhanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn union cyn iddo gael ei ddiddymu gan adran 56 wedi eu trosglwyddo i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
59Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C
Mae Rhan 4 o Atodlen 1 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r Bennod hon.
60ArbedionLL+C
Mae effaith y darpariaethau a ddiddymir gan adran 56 wedi ei harbed at ddibenion y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025, ac eithrio bod pob cyfeiriad at Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (sut bynnag y’i mynegir) i’w ddehongli fel pe bai’n gyfeiriad at Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
PENNOD 3LL+CANGHYMHWYSO, DYLANWAD AMHRIODOL A CHYFYNGIADAU GWLEIDYDDOL AR SWYDDFEYDD
AnghymhwysoLL+C
61Anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd ac yn gynghorydd cymunedLL+C
(1)Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 16 (anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd) yn is-adran (1)—
(a)ym mharagraff (za), hepgorer “and 17B”;
(b)yn lle paragraff (zc), rhodder—
“(zc)is a member of the council of a county, a county borough or a community in Wales (but see section 17D),”.
(3)Hepgorer adran 17B.
(4)Yn adran 17D (eithriad rhag anghymhwyso yn rhinwedd bod yn gynghorydd)—
(a)yn is-adran (1), ar ôl “borough” mewnosoder “or community council”;
(b)yn is-adran (2), ar ôl “borough” mewnosoder “or community council”.
(5)Hepgorer adran 17E.
(6)Hepgorer adran 17F.
(7)Mae’r diwygiadau a wneir gan yr adran hon yn cael effaith at ddibenion etholiad i fod yn Aelod o’r Senedd pan gynhelir pôl ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026.
62Anghymhwysiad am arferion llwgr neu anghyfreithlon: etholiadau llywodraeth leolLL+C
Yn adran 80A(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (anghymhwysiad person rhag cael ei ethol neu fod yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)the person is incapable of being elected to or holding elective office in a district council in Northern Ireland under Part 10 of the Electoral Law Act (Northern Ireland) 1962 (c. 14) (corrupt or illegal practices);”.
63Anghymhwysiad am arferion llwgr neu anghyfreithlon: etholiadau Senedd CymruLL+C
Yn Atodlen 1A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (anghymhwysiad rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisydd mewn etholiad i fod yn Aelod o’r Senedd), ar ôl paragraff 5 mewnosoder—
“5AA person who is incapable of being elected to or holding elective office in a district council in Northern Ireland under Part 10 of the Electoral Law Act (Northern Ireland) 1962 (c. 14) having been reported guilty or convicted of a corrupt or illegal practice.”
Rhagolygol
Dylanwad amhriodolLL+C
64Dylanwad amhriodolLL+C
(1)Mae Deddf 1983 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 114A (trosedd o ddylanwad amhriodol a fewnosodir gan adran 8 o Ddeddf Etholiadau 2022), hepgorer “or Wales”.
(3)Yn adran 115 (trosedd o ddylanwad amhriodol: etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a’r Alban)—
(a)yn is-adran (1), hepgorer “or Wales”;
(b)yn is-adran (2), hepgorer “or Wales”;
(c)yn y pennawd, hepgorer “and Wales”.
Rhagolygol
Cyfyngiadau gwleidyddol ar swyddfeyddLL+C
65Cyfyngiadau gwleidyddol ar swyddogion a staffLL+C
(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 1 (anghymhwyso swyddogion a staff penodol a chyfyngiadau gwleidyddol arnynt)—
(a)yn is-adran (1A)—
(i)ar ôl “member of any local authority in Wales” mewnosoder “(including an elected mayor)”;
(ii)ym mharagraff (b), ar ôl “under a” mewnosoder “community council or”;
(b)yn is-adran (1B), ar ôl “any corporate joint committee” mewnosoder “, community council”;
(c)ar ôl is-adran (1B) mewnosoder—
“(1C)A person shall be disqualified from becoming or remaining a member of a community council if that person holds a politically restricted post under any community council, corporate joint committee or local authority in Great Britain.”;
(d)ar ôl is-adran (12) mewnosoder—
“(13)Subsections (5) and (6) of this section apply to a community council as they apply to a local authority in Wales.”.
(3)Yn adran 2 (swyddi o dan gyfyngiadau gwleidyddol)—
(a)ar ôl is-adran (1B) mewnosoder—
“(1C)For the purposes of this Part the following persons are to be regarded as holding politically restricted posts under a community council—
(a)a paid officer having responsibility, for the purposes of section 151 of the Local Government Act 1972, for the administration of the financial affairs of the community council;
(b)a person holding a paid post that is for the time being specified by the community council in the list maintained in accordance with subsection (2) and any directions under section 3.”;
(b)ar ôl is-adran (10C) mewnosoder—
“(10D)This section, other than subsection (1), applies in relation to a community council as it applies in relation to a local authority in Wales.
(10E)In the application of subsection (4) to a community council, the reference to the coming into force of this section has effect as if it were a reference to 6 May 2027.”.
(4)Yn adran 3(9) (rhoi a goruchwylio esemptiadau rhag cyfyngiadau gwleidyddol), ar ôl “corporate joint committee” mewnosoder “and a community council”.
(5)Yn adran 10(2) (terfyn ar wyliau â thâl ar gyfer dyletswyddau awdurdod lleol), yn y diffiniad o “local authority”, ar ôl “corporate joint committee” mewnosoder “and a community council”.
(6)Yn adran 12(2) (gwrthdaro buddiannau mewn negodiadau staff), yn y diffiniad o “local authority”, ar ôl “corporate joint committee” mewnosoder “and a community council”.
PENNOD 4LL+CCOMISIWN DEMOCRATIAETH A FFINIAU CYMRU
66Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: personau na chaniateir iddynt fod yn aelodau etc.LL+C
(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 4(3) (personau na chaniateir iddynt fod yn gomisiynwyr)—
(a)ym mharagraff (c), ar ôl “lleol” mewnosoder “neu’n aelod o staff awdurdod lleol”;
(b)hepgorer paragraff (d);
(c)ym mharagraff (e), ar ôl “awdurdod Parc Cenedlaethol” mewnosoder “, neu’n aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol,”;
(d)ar ôl paragraff (e) mewnosoder—
“(ea)aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);
(eb)aelod o awdurdod tân ac achub, neu’n aelod o staff awdurdod tân ac achub, a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;”.
(3)Yn adran 8(4) (personau na chaniateir iddynt fod yn brif weithredwr)—
(a)ym mharagraff (c), ar ôl “lleol” mewnosoder “neu’n aelod o staff awdurdod lleol”;
(b)hepgorer paragraff (d);
(c)ym mharagraff (e), ar ôl “awdurdod Parc Cenedlaethol” mewnosoder “, neu’n aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol,”;
(d)ar ôl paragraff (e) mewnosoder—
“(ea)yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);
(eb)yn aelod o awdurdod tân ac achub, neu’n aelod o staff awdurdod tân ac achub, a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;”.
(4)Yn adran 11(2) (personau na chaniateir iddynt fod yn gomisiynwyr cynorthwyol)—
(a)ym mharagraff (c), ar ôl “lleol” mewnosoder “neu’n aelod o staff awdurdod lleol”;
(b)hepgorer paragraff (d);
(c)ym mharagraff (e), ar ôl “awdurdod Parc Cenedlaethol” mewnosoder “, neu’n aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol,”;
(d)ar ôl paragraff (e) mewnosoder—
“(ea)aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);
(eb)aelod o awdurdod tân ac achub, neu’n aelod o staff awdurdod tân ac achub, a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;”.
Rhagolygol
67Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: pwyllgor llywodraethu ac archwilioLL+C
(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn y croesbennawd o flaen adran 15 (cyllido), ar ôl “ariannol” mewnosoder “a llywodraethu”.
(3)Yn adran 17 (pwyllgor archwilio)—
(a)yn lle pennawd yr adran, rhodder “Pwyllgor llywodraethu ac archwilio”;
(b)yn is-adran (1)—
(i)yn lle “(”pwyllgor archwilio”)” rhodder “(“pwyllgor llywodraethu ac archwilio”)”;
(ii)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)adolygu, asesu a rheoli trefniadau archwilio mewnol ac allanol y Comisiwn,
(bb)adolygu ac asesu sut y mae’r Comisiwn yn ymdrin â chwynion,
(bc)adolygu—
(i)datganiadau o gyfrifon ac adroddiadau a lunnir gan y Comisiwn o dan adrannau 19(1) ac 20,
(ii)adroddiadau a lunnir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 19(4),”;
(iii)ym mharagraff (d), ar ôl “(b)” mewnosoder “, (ba), (bb), (bc)”;
(c)yn is-adran (2), yn lle “archwilio” rhodder “llywodraethu ac archwilio”;
(d)yn is-adran (3), yn lle “archwilio” rhodder “llywodraethu ac archwilio”;
(e)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)Caiff y Comisiwn roi i’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio y swyddogaethau y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn addas i’w harfer gan y pwyllgor.”
(4)Yn adran 18 (pwyllgor archwilio: aelodaeth)—
(a)yn lle pennawd yr adran, rhodder “Pwyllgor llywodraethu ac archwilio: aelodaeth a chworwm”;
(b)yn lle is-adrannau (1) a (2) o Ddeddf 2013 rhodder—
“(1)Mae aelodau’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio i fod fel a ganlyn—
(a)o leiaf ddau aelod o’r Comisiwn;
(b)o leiaf ddau aelod lleyg;
(c)dim mwy na phum aelod.
(2)Rhaid penodi aelod lleyg o’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio—
(a)i gadeirio’r pwyllgor (y “cadeirydd”);
(b)yn ddirprwy i’r cadeirydd.
(2A)Ni chaiff person fod yn aelod o’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio os yw’r person yn aelod o’r Comisiwn a’i fod naill ai’n aelod cadeirio’r Comisiwn neu’n gweithredu fel dirprwy i aelod cadeirio’r Comisiwn.
(2B)Tri aelod yw’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio, a rhaid i’r cworwm gynnwys o leiaf un aelod lleyg.”
Rhagolygol
68Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: pŵer i godi tâlLL+C
(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl adran 11 (comisiynwyr cynorthwyol) a’r croesbennawd sy’n dilyn yr adran honno, mewnosoder—
“11APŵer i godi tâl
(1)Caiff y Comisiwn godi tâl ar berson am ddarparu nwyddau neu wasanaethau fel a grybwyllir yn is-adran (2) i adennill cost y ddarpariaeth os yw’r person wedi cytuno i’r nwyddau neu’r gwasanaethau gael eu darparu.
(2)Y nwyddau neu’r gwasanaethau yw—
(a)nwyddau y mae’r Comisiwn yn eu darparu neu’n eu sicrhau, neu hyfforddiant y mae’r Comisiwn yn ei ddarparu neu’n ei sicrhau, wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 20A (swyddogaethau gweinyddu etholiadol);
(b)hyfforddiant y mae’r Comisiwn yn ei ddarparu neu’n ei sicrhau ar gyfer prif gyngor mewn cysylltiad â swyddogaethau’r cyngor o dan Ran 3.”