Search Legislation

Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

1Bwrdd Rheoli Etholiadol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl Rhan 2 mewnosoder—

RHAN 2ACYDLYNU GWAITH GWEINYDDU ETHOLIADOL
Swyddogaethau cyffredinol
20ASwyddogaethau gweinyddu etholiadol

(1)Swyddogaeth gyffredinol y Comisiwn yw cydlynu’r gwaith o weinyddu etholiadau a refferenda Cymreig.

(2)Mae’r swyddogaeth gyffredinol yn is-adran (1) yn cynnwys—

(a)cynorthwyo swyddogion canlyniadau, awdurdodau lleol a phersonau eraill wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas ag etholiadau a refferenda Cymreig;

(b)hybu arferion gorau o ran gweinyddu etholiadau a refferenda Cymreig drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor neu hyfforddiant (neu fel arall).

(3)Caiff y Comisiwn ddarparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth arall i Weinidogion Cymru ynghylch gweinyddu etholiadau a refferenda Cymreig.

(4)Yn y Rhan hon ystyr “etholiadau a refferenda Cymreig” yw—

(a)etholiadau Senedd Cymru;

(b)etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru;

(c)refferenda datganoledig.

Cyfarwyddiadau
20BCyfarwyddiadau i swyddogion canlyniadau

(1)Caiff y Comisiwn roi cyfarwyddiadau ysgrifenedig i swyddogion canlyniadau ynghylch arfer swyddogaethau’r swyddogion mewn perthynas—

(a)ag etholiadau Senedd Cymru yn gyffredinol,

(b)ag etholiad penodol i Senedd Cymru,

(c)ag etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn gyffredinol,

(d)ag etholiad llywodraeth leol penodol yng Nghymru,

(e)â refferenda datganoledig yn gyffredinol, neu

(f)â refferendwm datganoledig penodol.

(2)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i swyddog canlyniadau ddarparu gwybodaeth i’r Comisiwn.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i swyddog canlyniadau—

(a)arfer unrhyw ddisgresiwn sydd gan y swyddog wrth gyflawni swyddogaethau’r swyddog, neu

(b)arfer y disgresiwn mewn ffordd benodol.

(4)Rhaid i swyddog canlyniadau y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan is-adran (1) gydymffurfio â’r cyfarwyddyd i’r graddau y mae’n cyfarwyddo’r swyddog—

(a)i arfer unrhyw ddisgresiwn a fyddai gan y swyddog fel arall wrth gyflawni swyddogaethau’r swyddog (neu i’w arfer mewn ffordd benodol), neu

(b)i ddarparu gwybodaeth i’r Comisiwn.

(5)Nid yw’n ofynnol i swyddog canlyniadau gydymffurfio â chyfarwyddyd o dan is-adran (1)—

(a)os byddai cydymffurfio â’r cyfarwyddyd yn anghyson ag un o ddyletswyddau’r swyddog o dan unrhyw ddeddfiad,

(b)i’r graddau y mae arfer swyddogaethau’r swyddog yn ddarostyngedig i’r cyfarwyddyd yn ymwneud ag etholiad a gedwir yn ôl mewn pôl sydd wedi ei gyfuno ag etholiad neu refferendwm Cymreig, neu

(c)i’r graddau y mae arfer swyddogaethau’r swyddog yn ddarostyngedig i’r cyfarwyddyd yn ymwneud â’r cyfuniad—

(i)o bôl mewn etholiad a gedwir yn ôl â’r pôl mewn etholiad neu refferendwm Cymreig;

(ii)o bôl mewn etholiad Senedd Cymru â’r pôl mewn etholiad cyffredin llywodraeth leol yng Nghymru.

(6)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi pob cyfarwyddyd y mae’n ei roi o dan is-adran (1).

20CCyfarwyddiadau i swyddogion cofrestru etholiadol

(1)Caiff y Comisiwn roi cyfarwyddiadau ysgrifenedig i swyddogion cofrestru etholiadol ynghylch arfer swyddogaethau’r swyddogion mewn perthynas—

(a)ag etholiad penodol i Senedd Cymru,

(b)ag etholiad llywodraeth leol penodol yng Nghymru, neu

(c)â refferendwm datganoledig penodol.

(2)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i swyddog cofrestru etholiadol—

(a)arfer unrhyw ddisgresiwn sydd gan y swyddog wrth gyflawni swyddogaethau’r swyddog, neu

(b)arfer y disgresiwn mewn ffordd benodol.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i swyddog cofrestru etholiadol ddarparu gwybodaeth i’r Comisiwn.

(4)Rhaid i swyddog cofrestru etholiadol y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan is-adran (1) gydymffurfio â’r cyfarwyddyd i’r graddau y mae’n cyfarwyddo’r swyddog—

(a)i arfer unrhyw ddisgresiwn a fyddai gan y swyddog fel arall wrth gyflawni swyddogaethau’r swyddog (neu i’w arfer mewn ffordd benodol), neu

(b)i ddarparu gwybodaeth i’r Comisiwn.

(5)Nid yw’n ofynnol i swyddog cofrestru etholiadol gydymffurfio â chyfarwyddyd o dan is-adran (1)—

(a)os yw’n anghyson—

(i)ag un o ddyletswyddau’r swyddog o dan unrhyw ddeddfiad, neu

(ii)â chyfarwyddyd a roddir o dan adran 52 o Ddeddf 1983;

(b)i’r graddau y mae arfer swyddogaethau’r swyddog yn ymwneud â phôl mewn etholiad a gedwir yn ôl sydd wedi ei gyfuno â phôl mewn etholiad neu refferendwm Cymreig.

(6)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi pob cyfarwyddyd y mae’n ei roi o dan is-adran (1).

20DYmgynghori â’r Comisiwn Etholiadol

(1)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 20B neu 20C, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol.

(2)Rhaid i’r Comisiwn Etholiadol roi ymateb ysgrifenedig i’r Comisiwn ar y materion yr ymgynghorwyd ag ef yn eu cylch.

Y Bwrdd
20EY Bwrdd Rheoli Etholiadol

(1)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu bwrdd o’r enw y Bwrdd Rheoli Etholiadol (“y Bwrdd”).

(2)Mae swyddogaethau’r Comisiwn o dan y darpariaethau a bennir yn is-adran (3) wedi eu dirprwyo i’r Bwrdd ac ni chaniateir iddynt gael eu harfer ond gan y Bwrdd.

(3)Y darpariaethau yw—

(a)adrannau 20A i 20D;

(b)pennod 3 o Ran 1 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholiadol (Cymru) 2024 (peilota a diwygio etholiadau Cymreig);

(c)darpariaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Caniateir i’r pwerau yn adran 12 gael eu harfer gan y Bwrdd neu’r Comisiwn mewn perthynas â’r swyddogaethau sydd wedi eu dirprwyo gan is-adran (2).

(5)Nid yw is-adran (2) yn effeithio ar gyfrifoldeb y Comisiwn dros arfer y swyddogaethau dirprwyedig.

20FAelodaeth o’r Bwrdd

(1)Mae’r Bwrdd i gynnwys—

(a)aelod o’r Comisiwn sy’n gyn-swyddog etholiadau i gadeirio’r Bwrdd,

(b)un aelod arall o’r Comisiwn, ac

(c)aelodau sy’n swyddogion etholiadau neu’n gyn-swyddogion etholiadau (ac mae un ohonynt i fod yn ddirprwy gadeirydd y Bwrdd).

(2)Mae aelodau’r Bwrdd i’w penodi gan y Comisiwn.

(3)Rhaid i’r Comisiwn benodi o leiaf bedwar aelod i’r Bwrdd o’r math a ddisgrifir yn is-adran (1)(c).

(4)Mae’r cadeirydd i’w ddewis gan y Comisiwn ac mae’r dirprwy gadeirydd i’w ddewis gan y Bwrdd.

(5)Mae aelodau o’r Bwrdd sydd hefyd yn aelodau o’r Comisiwn i’w penodi ar delerau ac amodau a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

(6)Mae aelodau eraill y Bwrdd i’w penodi ar delerau ac amodau a benderfynir gan y Comisiwn ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

(7)Mae’r telerau a’r amodau y caniateir iddynt gael eu penderfynu o dan is-adrannau (5) a (6) yn cynnwys amodau o ran tâl, lwfansau a threuliau.

(8)Rhaid i berson a benodir o dan is-adran (1)(c) beidio â bod—

(a)yn aelod o‍ un o ddeddfwrfeydd y DU;‍

(b)yn aelod o staff‍ y Senedd (o fewn yr ystyr a roddir i “member of the staff of the Senedd” gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32));

(c)yn berson‍ a gymerir ymlaen gan aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(d)yn aelod o awdurdod lleol;

(e)yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(f)yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru;

(g)yn Gomisiynydd neu’n Gomisiynydd Cynorthwyol;

(h)yn aelod o staff y Comisiwn;

(i)yn berson a gyflogir yng ngwasanaeth sifil y wladwriaeth.

(9)Yn yr adran hon ystyr “swyddog etholiadau” yw—

(a)swyddog canlyniadau, neu

(b)swyddog cofrestru etholiadol.

20GDeiliadaeth

Mae aelodau’r Bwrdd yn dal swydd ac yn gadael swydd yn unol â thelerau ac amodau eu penodiad.

20HTrafodion y Bwrdd

(1)Rhaid bod gan aelodau’r Bwrdd bleidleisiau sy’n gyfwerth â’i gilydd at ddiben penderfyniadau’r Bwrdd, ond mae gan y cadeirydd (neu’r dirprwy gadeirydd os yw’r cadeirydd yn absennol) bleidlais fwrw os bydd y bleidlais yn gyfartal.

(2)Caiff y Bwrdd fel arall reoleiddio ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys cworwm).

(3)Nid yw unrhyw ddiffyg ym mhenodiad aelod yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan y Bwrdd wrth arfer swyddogaethau’r Comisiwn.

(4)Caiff y cadeirydd neu’r dirprwy gadeirydd (gyda chytundeb aelodau eraill y Bwrdd) wahodd person i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r Bwrdd at ddiben darparu cyngor neu gynorthwyo’r Bwrdd fel arall.

Cyffredinol
20IDehongli’r Rhan hon

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2);

  • ystyr “etholiad a gedwir yn ôl” (“reserved election”) yw—

    (a)

    etholiad ar gyfer aelodaeth o Dŷ’r Cyffredin;

    (b)

    etholiad ar gyfer swydd comisiynydd heddlu a throsedd;

  • ystyr “etholiadau llywodraeth leol” (“local government elections”) yw ethol—

    (a)

    cynghorwyr i ward etholiadol sir neu fwrdeistref sirol,

    (b)

    cynghorwyr i ward gymunedol neu, yn achos cymuned lle nad oes wardiau, i’r gymuned, neu

    (c)

    maer etholedig neu aelod gweithredol etholedig o dan reoliadau a wneir yn rhinwedd adran 44 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22);

  • ystyr “refferenda datganoledig” (“devolved referendums”) yw refferenda a gynhelir o dan—

    (a)

    adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22) neu yn rhinwedd rheoliadau neu orchymyn a wneir o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno;

    (b)

    adran 40 o Fesur 2011;

    (c)

    unrhyw ddeddfiad arall (pryd bynnag y caiff ei basio neu ei wneud) a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru pe bai mewn darpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru (pa un a fyddai’n ofynnol cael cydsyniad un o Weinidogion y Goron ar gyfer y ddarpariaeth ai peidio);

  • ystyr “swyddog canlyniadau” (“returning officer”) yw—

    (a)

    swyddog canlyniadau (sut bynnag y’i disgrifir)—

    (i)

    a benodir o dan adran 35(1A) o Ddeddf 1983,

    (ii)

    a ddynodir yn unol â gorchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (“Deddf 2006”), neu

    (iii)

    a benodir o dan reoliadau a wneir yn rhinwedd adran 44 neu 45 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22);

    (b)

    unrhyw berson a gaiff arfer swyddogaethau swyddog canlyniadau sy’n dod o fewn paragraff (a);

  • ystyr “swyddog cofrestru etholiadol” (“electoral registration officer) yw swyddog a benodir o dan adran 8(2A) o Ddeddf 1983 neu unrhyw berson a gaiff arfer swyddogaethau’r swyddog.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources