22Dehongli’r Bennod honLL+C
Yn y Bennod hon—
mae “addasu” (“modify”) yn cynnwys diddymu, dirymu a diwygio;
mae i “mater etholiadol perthnasol” (“relevant electoral matter”) yr ystyr a roddir gan adran 5;
ystyr “rheoliadau diwygio etholiadol” (“electoral reform regulations”) yw rheoliadau a wneir o dan adran 18;
ystyr “rheoliadau peilot” (“pilot regulations”) yw rheoliadau a wneir o dan adran 5;
ystyr “swyddog canlyniadau” (“returning officer”) yw swyddog canlyniadau (sut bynnag y’i disgrifir)—
(a)a benodir o dan adran 35(1A) o Ddeddf 1983,
(b)a ddynodir yn unol â gorchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), neu
(c)a benodir o dan reoliadau a wneir yn rhinwedd adran 44 neu 45 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22);
ystyr “swyddog cofrestru etholiadol” (“electoral registration officer”) yw swyddog a benodir o dan adran 8(2A) o Ddeddf 1983.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 22 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(1)(a)