RHAN 3DARPARIAETH GYFFREDINOL

72Dod i rym

(1)

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)

Pennod 3 o Ran 1 a Rhan 2 o Atodlen 1 (peilota a diwygio etholiadau Cymreig);

(b)

adran 61 (anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd ac yn gynghorydd cymuned), ond mae’r adran honno yn cael effaith yn unol ag adran 61(7);

(c)

adran 66 (Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: personau na chaniateir iddynt fod yn aelodau etc.);

(d)

y Rhan hon.

(2)

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf hon i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)

Pennod 1 o Ran 2 (trefniadau ar gyfer llywodraeth leol);

(b)

adran 25 (arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr aflwyddiannus mewn etholiadau lleol);

(c)

adran 30 (canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol i hybu amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig);

(d)

adrannau 62 a 63 (anghymhwysiad am arferion llwgr neu anghyfreithlon).

(3)

Daw adran 65 i rym ar 6 Mai 2027.

(4)

Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol, yn ddarostyngedig i is-adran (5).

(5)

Ni chaiff y darpariaethau ym Mhennod 2 o Ran 1 (cofrestru etholiadol heb geisiadau), ac eithrio paragraffau (c) a (d) o adran 4(9), ddod i rym oni bai—

(a)

bod darpariaeth peilota etholiadau Cymreig o’r math a ddisgrifir yn adran 5(4) wedi ei gwneud mewn rheoliadau o dan adran 5(1),

(b)

bod adroddiad ar weithrediad y rheoliadau wedi ei anfon at Weinidogion Cymru o dan adran 17(5)(a),

(c)

bod Gweinidogion Cymru wedi gosod yr adroddiad gerbron Senedd Cymru, a

(d)

nad yw’r rheoliadau sydd mewn grym o dan adran 53 o Ddeddf 1983 sy’n gymwys i gofrestrau etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardaloedd yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion cofrestru lunio cofrestrau golygedig o etholwyr llywodraeth leol na chyflenwi cofrestrau o’r fath na rhan ohonynt i unrhyw berson ar ôl talu ffi, i’r graddau y mae gofynion o’r math hwnnw mewn rheoliadau o dan adran 53 wedi eu gwahardd yn rhinwedd paragraffau 10(3) a 10B(4) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno (fel y’u mewnosodir gan adran 4(9)(c) a (d) o’r Ddeddf hon).

(6)

Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)—

(a)

pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)

gwneud darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth i rym a ddygir i rym drwy’r gorchymyn.