Pa ddeddfwriaeth sydd gennym a sut y gallwch ei defnyddio?
Dysgwch ragorPa ddeddfwriaeth sydd gennym a sut y gallwch ei defnyddio?
Dysgwch ragorMynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth newydd ei deddfu ar gyfer y Deyrnas Unedig, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon fel maent yn cael eu cyhoeddi ar y safle hwn gan ddefnyddio’r porthiant tanysgrifio rhad ac am ddim, neu trwy bori trwy ddeddfwriaeth newydd yn ôl dyddiad cyhoeddi. Rhestrir pob Mesur sydd ger bron Senedd y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd ar wefan Senedd y Deyrnas Unedig yn yr adran Mesurau, Deddfwriaeth a Busnes Seneddol. Maent yn cael eu cyhoeddi ar y safle hwn ar ôl derbyn y Cydsyniad Brenhinol.
Mae deddfwriaeth.gov.uk yn cynnwys y rhan fwyaf (ond nid y cyfan) o fathau o ddeddfwriaeth a’r dogfennau esboniadol sydd i gyd-fynd â nhw. Gallwch ddarllen am ba ddeddfwriaeth yr ydym yn ei chyhoeddi, sut yr ydym yn gweithredu diwygiadau, pa ddeddfwriaeth yr ydym yn ei diweddaru, ble y gallwch gael copïau o ddeddfwriaeth nad ydym yn ei dal a sut mae deddfwriaeth yn gweithio. Er mwyn dod o hyd i ddarn o ddeddfwriaeth gallwch bori yn ôl math a chategori’r ddeddfwriaeth neu ddefnyddio ein chwiliad uwch i chwilio yn ôl teitl neu allweddair yn y testun.