Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 Nodiadau Esboniadol

Adran 91 – Diwygio'r pŵer i godi tâl am brydau bwyd ysgol etc.

102.Mae'r adran hon yn diwygio adrannau 512ZA (pŵer i godi tâl am brydau bwyd etc) a 533 (swyddogaethau cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir mewn cysylltiad â darparu prydau bwyd ysgol etc) o Ddeddf Addysg 1996.

103.Mae is-adrannau (2)(b) a (3)(b) yn diddymu'r gofyniad bod yn rhaid i unrhyw dâl a godir am ddarparu llaeth, prydau bwyd a lluniaeth arall mewn ysgol fod yr un fath ar gyfer pob person am yr un nifer o'r un eitem. Bydd diddymu'r gofyniad hwn yn rhoi'r dewis i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu godi pris gwahanol am yr un nifer o'r un eitem.

104.Bydd codi prisiau hyblyg er enghraifft yn galluogi awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i godi llai am brydau bwyd ysgol a ddarperir i blant teuluoedd ar incwm isel nad ydynt yn gymwys i gael prydau bwyd ysgol am ddim er mwyn eu hannog i gymryd prydau bwyd ysgol. Mae codi prisiau hyblyg yn ddewisol ac yn ddarostyngedig i amgylchiadau lleol. Ni fydd y newid hwn yn cael effaith ar ddarparu prydau bwyd ysgol am ddim (na llaeth am ddim) i ddisgyblion cymwys.

105.Effaith y diwygiadau a wnaed gan is-adrannau (2)(a) a (3)(a) yw bod awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn cael eu hatal rhag codi mwy na chost darparu llaeth, prydau bwyd neu luniaeth arall i ddisgyblion. Ar hyn o bryd, nid oes uchafswm ar faint y gall ysgol godi ar ddisgybl. Ni fydd hyn yn cael effaith ar y ddarpariaeth o brydau bwyd ysgol am ddim (na llaeth am ddim) i ddisgyblion cymwys.

Back to top