xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Yn y Bennod hon—
ystyr “darpariaeth ranbarthol” (“regional provision”) yw—
darpariaeth addysg i blant sy’n perthyn i ardaloedd gwahanol awdurdodau lleol, mewn ysgol a gynhelir gan un o’r awdurdodau hynny, neu
darpariaeth a wneir gan ddau awdurdod lleol neu fwy i nwyddau neu wasanaethau gael eu cyflenwi gan un o’r awdurdodau—
i’r llall neu’r lleill, neu
i un neu fwy o gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod arall neu’r awdurdodau eraill;
ystyr “swyddogaethau addysg arbennig” (“special education functions”) yw swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996 (anghenion addysgol arbennig).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2A. 64 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdodau lleol i ystyried a fyddent hwy (neu unrhyw rai ohonynt) yn gallu cyflawni eu swyddogaethau addysg arbennig, mewn cysylltiad â phlant sydd â’r anghenion addysgol arbennig a bennir yn y cyfarwyddyd, yn fwy effeithlon neu effeithiol pe câi darpariaeth ranbarthol ei gwneud.
(2)Rhaid i’r awdurdodau y rhoddir cyfarwyddyd iddynt gyflwyno adroddiad ar eu casgliadau i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r amser a bennir yn y cyfarwyddyd.
(3)Caniateir i gyfarwyddyd o dan yr adran hon gael ei roi i awdurdodau lleol yn gyffredinol neu i un neu fwy o awdurdodau a bennir yn y cyfarwyddyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I4A. 65 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai dau neu fwy o awdurdodau lleol yn gallu cyflawni eu swyddogaethau addysg arbennig, mewn cysylltiad â phlant sy’n syrthio o fewn disgrifiad penodol, yn fwy effeithiol neu effeithlon os câi darpariaeth ranbarthol ei gwneud mewn perthynas ag ardaloedd yr awdurdodau hynny.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi un neu fwy o’r cyfarwyddiadau a bennir yn is-adran (3) er mwyn sicrhau bod darpariaeth ranbarthol yn cael ei gwneud mewn perthynas â’r disgrifiad o blant o’r ardaloedd a bennir yn y cyfarwyddyd.
(3)Y cyfarwyddiadau yw—
(a)bod awdurdod lleol yn arfer ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion;
(b)bod corff llywodraethu ysgol sefydledig neu wirfoddol yn arfer ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol;
(c)bod dau neu fwy o awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau—
(i)y bydd darpariaeth ar gyfer addysg yn cael ei gwneud odanynt gan un o’r awdurdodau mewn cysylltiad â phersonau o ardal (neu ardaloedd) yr awdurdod arall (neu’r awdurdodau eraill), a
(ii)y bydd darpariaeth yn cael ei gwneud odanynt i benderfynu’r taliadau sydd i’w gwneud o dan y trefniadau mewn cysylltiad â darparu’r addysg honno;
(d)bod dau neu fwy o awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau sy’n darparu bod un o’r awdurdodau hynny’n cyflenwi i’r llall (neu’r lleill) nwyddau neu wasanaethau sydd i’w pennu yn y trefniadau ar delerau (gan gynnwys telerau o ran talu) a fyddai’n cael eu pennu felly;
(e)bod awdurdod lleol a chyrff llywodraethu un neu fwy o ysgolion sefydledig neu wirfoddol yn gwneud trefniadau sy’n darparu bod yr awdurdod yn cyflenwi i’r cyrff llywodraethu nwyddau neu wasanaethau sydd i’w pennu yn y trefniadau, ar delerau (gan gynnwys telerau o ran talu) a fyddai’n cael eu pennu felly.
(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (3)(c) a chyfarwyddyd o dan is-adran (3)(a) neu (3)(b), caniateir i’r taliadau y mae is-adran (3)(c) yn cyfeirio atynt gynnwys swm mewn cysylltiad â’r costau sy’n gysylltiedig â sefydlu, newid neu derfynu’r ysgol o dan sylw.
(5)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (3)(a) neu (3)(b)—
(a)ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion o dan sylw i gael eu cyhoeddi heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd, a
(b)ei gwneud yn ofynnol i’r corff sy’n gwneud y cynigion anfon copi o’r cynigion cyhoeddedig, ynghyd â gwybodaeth arall (o fath a bennir yn y cyfarwyddyd) mewn cysylltiad â’r cynigion hynny i Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I6A. 66 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)
(1)Ni chaniateir i gynigion a wneir yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 66 gael eu tynnu’n ôl heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cydsyniad at ddibenion is-adran (1) yn ddarostyngedig i amodau.
(3)Rhaid i’r awdurdod lleol ad-dalu gwariant yr aed iddo’n rhesymol gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ganddo wrth wneud cynigion yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 66.
(4)Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i’r awdurdod lleol gwrdd â’r gost o weithredu cynigion a wneir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 66 a’r rheini’n gynigion sydd wedi eu cymeradwyo neu y penderfynwyd eu gweithredu.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I8A. 67 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan adran 66, a
(b)naill ai—
(i)cynigion wedi eu cyhoeddi’n unol â’r cyfarwyddyd, neu
(ii)yr amser a ganiatawyd o dan y cyfarwyddyd ar gyfer cyhoeddi’r cynigion wedi dirwyn i ben.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw gynigion y gellid fod wedi eu gwneud yn unol â’r cyfarwyddyd.
(3)Cyn cyhoeddi cynigion o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ynglyn â’r cynigion yn unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.
(4)Rhaid i’r cynigion gael eu cyhoeddi’n unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r cynigion—
(a)at yr awdurdodau lleol y mae’r cynigion yn effeithio ar eu hardaloedd, a
(b)at gorff llywodraethu pob ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I10A. 68 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)
(1)Caiff unrhyw berson wrthwynebu cynigion a gyhoeddir o dan adran 68.
(2)Rhaid i wrthwynebiadau gael eu hanfon yn ysgrifenedig at Weinidogion Cymru cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y cafodd y cynigion eu cyhoeddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I12A. 69 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried unrhyw wrthwynebiadau a wnaed yn unol ag adran 69 (ac sydd heb gael eu tynnu’n ôl)—
(a)mabwysiadu’r cynigion gydag addasiadau neu hebddynt, neu
(b)penderfynu peidio â mabwysiadu’r cynigion.
(2)Caniateir i fabwysiad cynigion ddatgan mai dim ond os bydd digwyddiad a bennir yn y mabwysiad yn digwydd erbyn dyddiad a bennir felly, y byddai’n dod yn weithredol.
(3)Mae cynigion sydd wedi eu mabwysiadu gan Weinidogion Cymru yn cael effaith fel petaent wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 50 ar ôl cael eu gwneud—
(a)gan yr awdurdod lleol o dan ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion, neu
(b)yn achos cynigion i newid ysgol sefydledig neu wirfoddol, gan y corff llywodraethu o dan ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol.
(4)Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol dan sylw gwrdd â’r gost o weithredu cynigion sy’n cael eu mabwysiadu o dan is-adran (1) ac sy’n cael effaith fel a grybwyllwyd yn is-adran (3)(b).
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I14A. 70 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)