Newidiadau i fangreoeddLL+C
10(1)Ehangu mangre’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti’r ysgol gan o leiaf 25% neu 200 o ddisgyblion o’i gymharu â chapasiti’r ysgol ar y dyddiad priodol.
(2)Wrth benderfynu cynnydd mewn capasiti at ddibenion is-baragraff (1), mae pob ehangiad a wnaed ar ôl y dyddiad priodol i’w cymryd i ystyriaeth ynghyd â’r ehangiad arfaethedig.
(3)Y “dyddiad priodol” yw’r diweddaraf o’r canlynol—
(a)y dyddiad sy’n dod bum mlynedd cyn y dyddiad y cynllunnir gweithredu’r cynigion i wneud yr ehangiad;
(b)y dyddiad pan dderbyniodd yr ysgol ddisgyblion gyntaf;
(c)dyddiad (neu ddyddiad diweddaraf) gweithredu cynigion i wneud unrhyw newid i’r ysgol a oedd yn golygu ehangu ei mangre ac y cyhoeddwyd y cynigon hynny o dan—
(i)adran 48, 59, 68 neu 72, neu
(ii)adran 28 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 neu baragraff 5 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.
(4)Nid yw cyfeiriadau yn y paragraff hwn at ehangu yn cynnwys ehangu dros dro.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)