46Cyfyngiadau ar newid categori ysgolLL+C
(1)Dim ond yn unol â’r Rhan hon y caiff ysgol a gynhelir o fewn un o’r categorïau a nodir yn adran 20(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ddod yn ysgol o fewn un arall o’r categorïau hynny (ac eithrio ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig).
(2)Ni chaiff ysgol newid categori i ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir oni fydd corff llywodraethu’r ysgol yn bodloni Gweinidogion Cymru y byddai’n gallu cyflawni ei rwymedigaethau o dan Atodlen 3 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (cyllido ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir) am gyfnod o bum mlynedd o leiaf ar ôl y dyddiad y cynigir bod y newid categori yn digwydd.
(3)Ni chaiff ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig ddod yn ysgol gymunedol onid ydys wedi ymrwymo i unrhyw gytundeb trosglwyddo ac unrhyw gytundeb i drosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau sy’n ofynnol o dan Ran 3 o Atodlen 4.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2A. 46 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(a) (ynghyd ag ergl. 4)