Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

74Y ffurf weithreduLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i gynigion sydd wedi eu mabwysiadu gan Weinidogion Cymru o dan adran 73.

(2)Rhaid i’r cynigion (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr adran hon) gael eu gweithredu ar y ffurf y cawsant eu mabwysiadu.

(3)Ar gais corff penodedig, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)addasu cynigion sydd wedi eu mabwysiadu o dan adran 73 ar ôl ymgynghori â’r cyrff penodedig, a

(b)pan fo wedi ei datgan bod mabwysiad y cynigion yn dod yn weithredol yn ddarostyngedig i ddigwyddiad penodedig, bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y bydd yn rhaid i’r digwyddiad hwnnw ddigwydd.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw is-adran (2) yn gymwys i’r cynigion os ydynt wedi eu bodloni, ar ôl ymgynghori â’r cyrff penodedig—

(a)y byddai gweithredu’r cynigion yn afresymol o anodd, neu

(b)bod yr amgylchiadau wedi newid cymaint ers i’r cynigion gael eu mabwysiadu y byddai’n amhriodol gweithredu’r cynigion.

(5)“Corff penodedig” yw pob un o’r canlynol at ddibenion is-adrannau (3) a (4)—

(a)corff llywodraethu’r ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi;

(b)yn achos cynnig i sefydlu ysgol newydd, y corff llywodraethu dros dro a gyfansoddwyd yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 34 o Ddeddf Addysg 2002;

(c)yr awdurdod lleol sy’n cynnal, neu y cynigir y bydd yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi;

(d)pan fo’r ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi yn ysgol arbennig gymunedol, pob awdurdod lleol sy’n cynnal [F1datganiad o anghenion addysgol arbennig o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996] [F1cynllun datblygu unigol o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018] mewn cysylltiad â disgybl cofrestredig yn yr ysgol.

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn a. 74(5)(d) wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(4); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 74 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(d)