Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Yn ddilys o 20/02/2014

8Pŵer awdurdod lleol i atal dros dro yr hawl i gael cyllideb ddirprwyedigLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os oes gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir, a

(b)os oes gan yr ysgol gyllideb ddirprwyedig o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(2)Caiff yr awdurdod lleol atal dros dro hawl y corff llywodraethu i gael cyllideb ddirprwyedig drwy roi i’r corff llywodraethu hysbysiad am yr ataliad dros dro.

(3)Mae’r ataliad dros dro ar yr hawl i gael cyllideb ddirprwyedig yn dod yn weithredol o’r adeg y bydd y corff llywodraethu’n cael yr hysbysiad.

(4)Os yw’r awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad yn atal dros dro yr hawl i gael cyllideb ddirprwyedig, rhaid iddo roi copi o’r hysbysiad i’r pennaeth yr un pryd.

(5)Mae ataliad dros dro sy’n cael ei osod o dan yr adran hon yn cael effaith at ddibenion Pennod 4 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (ariannu ysgolion a gynhelir) fel petai wedi ei wneud o dan baragraff 1 o Atodlen 15 i’r Ddeddf honno (atal dros dro ddirprwyiad ariannol).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)