Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: RHAN 1

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/04/2014

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/07/2013.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, RHAN 1 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 10 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

RHAN 1LL+CAELODAETH A STATWS

AelodaethLL+C

1(1)Mae SAC i gael 9 aelod.

(2)Dyma hwy—

(a)5 person nad ydynt yn gyflogeion i SAC (“aelodau anweithredol”) (gweler Rhan 2 o’r Atodlen hon),

(b)yr Archwilydd Cyffredinol (gweler Rhan 3 o’r Atodlen hon), ac

(c)3 chyflogai i SAC (“yr aelodau sy’n gyflogeion”) (gweler Rhannau 4 a 5 o’r Atodlen hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 4.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(i)

Penodi aelodau anweithredol ac aelodau sy’n gyflogeionLL+C

2(1)Mae aelodau SAC (ar wahân i’r Archwilydd Cyffredinol) i’w penodi yn unol â darpariaethau’r Atodlen hon.

(2)Rhaid gwneud pob penodiad ar sail teilyngdod.

(3)Ni all person gael ei benodi yn aelod o SAC os yw’r person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn Rhan 6 o’r Atodlen hon.

(4)Mae person yn peidio â bod yn aelod o SAC os yw’r person yn cael ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 4.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(ii)

StatwsLL+C

3(1)Nid yw SAC nac unrhyw un o’i haelodau i’w hystyried neu ei ystyried—

(a)yn was neu’n asiant i’r Goron, na

(b)yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(2)Ond ystyrir bod aelodau SAC yn weision y Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

(3)Nid yw eiddo SAC i’w ystyried yn eiddo i’r Goron neu’n eiddo sy’n cael ei ddal ar ran y Goron.

(4)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i’r Archwilydd Cyffredinol (ac ar gyfer darpariaethau ynglŷn â statws yr Archwilydd Cyffredinol, gweler adran 6).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 4.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(iii)

Yn ôl i’r brig

Options/Help