xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Pennawd Rhn. 2 wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 44(3)
(1)Mae’r corff corfforaethol a enwir yn Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (a sefydlwyd o dan adran 53 o Ddeddf 1972) i barhau mewn bodolaeth.
F3(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[F4(3)Mae’r corff corfforedig hwnnw (a ailenwyd gyntaf gan is-adran (2)) wedi ei ailenwi yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Comisiwn).]
Diwygiadau Testunol
F2Pennawd a. 2 wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 12(1)(c), 25(1)(a)
F3A. 2(2) wedi ei hepgor (25.6.2024) yn rhinwedd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 12(1)(a), 25(1)(a)
F4A. 2(3) wedi ei fewnosod (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 12(1)(b), 25(1)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 2 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Nid yw’r Comisiwn i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac yn un sy’n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd neu fraint sydd gan y Goron.
(2)Nid yw eiddo’r Comisiwn i’w ystyried yn eiddo’r Goron nac yn eiddo sy’n cael ei ddal ar ran y Goron.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 3 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Yr aelodau a ganlyn fydd aelodau’r Comisiwn—
(a)aelod i gadeirio’r Comisiwn (yr “aelod cadeirio”),
(b)aelod i weithredu fel dirprwy i’r aelod cadeirio, ac
[F5(c)o leiaf 1 aelod arall ond dim mwy na 7 o aelodau eraill.]
(2)Mae’r aelodau i’w penodi gan Weinidogion Cymru ar delerau ac amodau a benderfynir gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys amodau o ran tâl, lwfansau a threuliau).
(3)[F6Ni chaiff aelod fod yn]—
[F7(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;]
[F8(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;
(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;
(bc)cynghorydd arbennig;]
(c)aelod o awdurdod lleol F9...;
(d)swyddog i awdurdod lleol F9...;
(e)aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(f)comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu
(g)aelod o staff y Comisiwn.
Diwygiadau Testunol
F5A. 4(1)(c) wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 13, 25(1)(a)
F6Geiriau yn a. 4(3) wedi eu hamnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(1)(a), 25(1)(a)
F7A. 4(3)(a) wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(1)(b), 25(1)(a)
F8A. 4(3)(ba)-(bc) wedi ei amnewid ar gyfer a. 4(3)(b) (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(1)(c), 25(1)(a)
F9Geiriau yn a. 4(3)(c) wedi eu hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(6), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 4 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
Mae aelodau’r Comisiwn yn dal ac yn gadael swydd yn unol â thelerau ac amodau eu penodiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 5 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)3 yw’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r Comisiwn.
[F10(1A)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (1) i newid y cworwm, ond ni chânt newid y cworwm i rif sy’n is na 3.]
(2)Fel arall, caiff y Comisiwn reoleiddio ei weithdrefn ei hun.
(3)Nid yw unrhyw ddiffyg ym mhenodiad aelod yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan y Comisiwn.
Diwygiadau Testunol
F10A. 6(1A) wedi ei fewnosod (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 15, 25(1)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 6 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caniateir i’r Comisiwn gael sêl.
(2)Dilysir y weithred o osod y sêl drwy lofnod aelod o’r Comisiwn neu lofnod person arall sydd wedi ei awdurdodi gan y Comisiwn at y diben hwnnw.
(3)Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei chyflawni’n briodol o dan sêl y Comisiwn, neu ei bod wedi ei llofnodi ar ei ran gan y prif weithredwr neu aelod arall o staff sydd wedi ei awdurdodi i wneud hynny, i gael ei derbyn yn dystiolaeth a rhaid cymryd ei bod wedi ei chyflawni neu wedi ei llofnodi felly oni phrofir i’r gwrthwyneb.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 7 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Rhaid i’r Comisiwn gyflogi prif weithredwr.
(2)Mae’r prif weithredwr i’w benodi gan [F11y Comisiwn] ar delerau ac amodau a benderfynir [F12ganddo] (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).
[F13(2A)Ond os yw swydd prif weithredwr wedi bod yn wag am dros chwe mis, caiff Gweinidogion Cymru benodi prif weithredwr o dan unrhyw delerau ac amodau a bennir ganddynt (gan gynnwys amodau o ran cydnabyddiaeth ariannol, pensiwn, lwfansau a threuliau).]
(3)Cyn penodi prif weithredwr [F14o dan is-adran (2A),] rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.
(4)Ni chaiff y prif weithredwr fod—
[F15(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;]
[F16(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;
(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;
(bc)cynghorydd arbennig;]
(c)yn aelod o awdurdod lleol;
(d)yn swyddog awdurdod lleol;
(e)yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(f)yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.
Diwygiadau Testunol
F11Gair yn a. 8(2) wedi ei amnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(2)(a), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F12Gair yn a. 8(2) wedi ei amnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(2)(b), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F13A. 8(2A) wedi ei fewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(3), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F14Geiriau yn a. 8(3) wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(4), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F15A. 8(4)(a) wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(2)(a), 25(1)(a)
F16A. 8(4)(ba)-(bc) wedi ei amnewid ar gyfer a. 8(4)(b) (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(2)(b), 25(1)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 8 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caiff y Comisiwn gyflogi staff.
(2)Mae’r staff i’w cyflogi ar delerau ac amodau a benderfynir gan y Comisiwn (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).
(3)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y symiau sy’n daladwy i’w staff mewn cysylltiad â thâl, pensiynau, lwfansau a threuliau.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 9 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caiff y Comisiwn benodi person (“arbenigwr”) i’w gynorthwyo i arfer ei swyddogaethau.
(2)Cyn penodi arbenigwr rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.
(3)Ni chaniateir i benodiad o dan is-adran (1) gael ei wneud oni bai bod y Comisiwn wedi ei fodloni bod gan yr arbenigwr wybodaeth, profiad neu arbenigedd sy’n berthnasol i’r broses o arfer ei swyddogaethau.
(4)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i’r arbenigwr.
(5)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i arbenigwr.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 10 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
[F17(1)Caiff y Comisiwn benodi un neu ragor o bersonau (a elwir yn “comisiynydd cynorthwyol) y caiff y Comisiwn ddirprwyo swyddogaethau iddo neu iddynt yn unol ag adran 13(1).]
(2)[F18Ni chaiff comisiynydd cynorthwyol fod yn]—
[F19(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;]
[F20(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;
(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;
(bc)cynghorydd arbennig;]
(c)aelod o awdurdod lleol F21...;
(d)swyddog i awdurdod lleol F22...;
(e)aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(f)comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu
(g)aelod o staff y Comisiwn.
(3)Cyn penodi comisiynydd cynorthwyol rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.
(4)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i gomisiynydd cynorthwyol.
(5)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i gomisiynydd cynorthwyol.
Diwygiadau Testunol
F17A. 11(1) wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 16(1)(a), 25(1)(a)
F18Geiriau yn a. 11(2) wedi eu hamnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 16(1)(b)(i), 25(1)(a)
F19A. 11(2)(a) wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 16(1)(b)(ii), 25(1)(a)
F20A. 11(2)(ba)-(bc) wedi ei amnewid ar gyfer a. 11(2)(b) (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 16(1)(b)(iii), 25(1)(a)
F21Geiriau yn a. 11(2)(c) wedi eu hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(6), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F22Geiriau yn a. 11(2)(d) wedi eu hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(6), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 11 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caiff y Comisiwn wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso’r arferiad o’i swyddogaethau neu sy’n ffafriol i’r arferiad o’i swyddogaethau neu’n gysylltiedig â hynny.
(2)Ond ni chaiff y Comisiwn—
(a)benthyca arian;
(b)caffael tir neu eiddo arall heb gydsyniad Gweinidogion Cymru; neu
(c)ffurfio a hyrwyddo cwmnïau.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 12 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caiff y Comisiwn ddirprwyo i un neu fwy o’i aelodau neu [F23un neu fwy o’i gomisiynwyr cynorthwyol] y swyddogaethau hynny o dan [F24—
(a)Penodau 2 i 4, 6 neu 7 o Ran 3 (swyddogaethau sy’n ymwneud â chynnal adolygiadau o lywodraeth leol neu ymchwiliadau lleol);
(b)Rhan 3A (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd);
(c)Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau cychwynnol),
fel a benderfynir ganddo i’r graddau y mae wedi eu dirprwyo felly.]
(2)Nid yw is-adran (1) yn effeithio ar—
(a)cyfrifoldeb y Comisiwn dros arfer swyddogaethau dirprwyedig, na
(b)gallu’r Comisiwn i arfer swyddogaethau dirprwyedig.
Diwygiadau Testunol
F23Geiriau yn a. 13(1) wedi eu hamnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 16(2), 25(1)(a)
F24Geiriau yn a. 13(1) wedi eu hamnewid (24.8.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(2)(c), Atod. 3 para. 2(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 13 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd (boed yn gyffredinol neu’n benodol) a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.
(2)Caniateir i gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd dilynol.
[F25(3)Nid yw’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn yn ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 3A (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd).]
Diwygiadau Testunol
F25A. 14(3) wedi ei fewnosod (24.8.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(2)(c), Atod. 3 para. 2(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 14 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau i’r Comisiwn o symiau a benderfynir ganddynt.
(2)Gwneir grant yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys amodau ynghylch ad-dalu).
Gwybodaeth Cychwyn
I14A. 15 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddynodi person i weithredu’n swyddog cyfrifyddu i’r Comisiwn.
(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Comisiwn, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.
(3)Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—
(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;
(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiwn;
(c)cyfrifoldebau am ddarbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth i’r Comisiwn ddefnyddio ei adnoddau;
(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;
(e)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 16 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu pwyllgor (“pwyllgor archwilio”) i—
(a)adolygu materion ariannol y Comisiwn a chraffu arnynt,
(b)adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol y Comisiwn,
(c)adolygu ac asesu darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd defnydd y Comisiwn o’i adnoddau wrth gyflawni ei swyddogaethau, a
(d)llunio adroddiadau a gwneud argymhellion i’r Comisiwn mewn perthynas ag adolygiadau a gynhelir o dan baragraffau (a), (b) neu (c).
(2)Rhaid i’r pwyllgor archwilio anfon copïau o’i adroddiadau a’i argymhellion at Weinidogion Cymru.
(3)Y pwyllgor archwilio sydd i benderfynu sut i arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I16A. 17 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Mae aelodau’r pwyllgor archwilio i fod fel a ganlyn—
(a)o leiaf ddau aelod o’r Comisiwn, a
(b)o leiaf un aelod lleyg.
(2)Ni chaiff aelod cadeirio’r Comisiwn fod yn aelod o’r pwyllgor archwilio.
(3)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau a threuliau a benderfynir ganddo i aelod lleyg.
(4)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i aelod lleyg.
(5)Yn yr adran hon, ystyr “aelod lleyg” yw unrhyw berson ar wahân i—
(a)un o aelodau neu gyflogeion y Comisiwn, neu
(b)arbenigwr sydd wedi ei benodi o dan adran 10(1) neu gomisiynydd cynorthwyol sydd wedi ei benodi o dan adran 11(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 18 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn—
(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a
(b)llunio datganiad o gyfrifon.
(2)Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—
(a)yr wybodaeth i’w chynnwys ynddo,
(b)y modd y mae’r wybodaeth i gael ei chyflwyno,
(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy.
(3)Heb fod yn hwyrach nag 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i—
(a)Gweinidogion Cymru, a
(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru.
(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a)archwilio ac ardystio’r datganiad o gyfrifon ac adrodd arno, a
(b)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno, gosod copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(5)Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.
Gwybodaeth Cychwyn
I18A. 19 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar y broses o gyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad a gosod copi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3)Yn yr adran hon, mae i “blwyddyn ariannol” yr un ystyr ag yn adran 19.
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 20 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)