xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CTREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

PENNOD 3LL+CADOLYGIADAU O DREFNIADAU ETHOLIADOL

CymunedauLL+C

33Ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol cymunedLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo prif gyngor yn ystyried gwneud neu, yn ôl y digwydd, pan fo’r Comisiwn yn ystyried argymell, newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned.

(2)Wrth ystyried a ddylid rhannu cymuned yn wardiau cymuned, rhaid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)a yw nifer neu ddosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer y gymuned yn y fath fodd sy’n gwneud un etholiad o gynghorwyr cyngor cymuned yn anymarferol neu’n anghyfleus, a

(b)a yw’n ddymunol y dylai unrhyw ardal o’r gymuned gael cynrychiolaeth ar wahân ar y cyngor cymuned.

(3)Pan benderfynir rhannu cymuned yn wardiau cymuned, wrth ystyried maint a ffiniau’r wardiau ac wrth bennu nifer y cynghorwyr cymuned sydd i’w hethol ar gyfer pob ward, dylid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)unrhyw newid yn nifer neu yn nosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl unrhyw argymhelliad,

[F1(b)ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol faint, siâp a hygyrchedd ward gymunedol, ac]

(c)unrhyw gwlwm lleol [F2(gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Gymraeg)] a fydd yn cael ei dorri wrth bennu ffiniau penodol.

(4)Pan benderfynir peidio â rhannu cymuned yn wardiau cymuned, wrth bennu nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer pob cymuned, dylid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)nifer a dosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned, a

(b)unrhyw newid yn y nifer neu’r dosbarthiad hwnnw sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl pennu nifer y cynghorwyr cymuned.

(5)At ddibenion yr adran hon, rhaid rhoi sylw i unrhyw anghysondeb rhwng nifer etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sydd yn gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel a welir mewn ystadegau swyddogol perthnasol).

(6)Yn yr adran hon, ystyr “ystadegau swyddogol perthnasol” yw’r ystadegau swyddogol hynny (o fewn yr ystyr a roddir i “official statistics” yn adran 6 o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 (p. 18)) y mae’r Comisiwn, neu yn ôl y digwydd, y prif gyngor o’r farn eu bod yn briodol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 33 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)