xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Yn ddilys o 30/09/2013

RHAN 3LL+CTREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

PENNOD 4LL+CY WEITHDREFN AR GYFER ADOLYGIADAU LLYWODRAETH LEOL

Y weithdrefn ar gyfer adolygiadauLL+C

34Y weithdrefn ragadolyguLL+C

(1)Cyn cynnal adolygiad o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor gymryd y camau hynny y mae o’r farn eu bod yn briodol er mwyn—

(a)dod â’r adolygiad i sylw ymgyngoreion gorfodol ac unrhyw berson arall y mae o’r farn ei bod yn debygol y bydd ganddynt fuddiant yn yr adolygiad, a

(b)gwneud yr ymgyngoreion gorfodol a’r personau eraill hynny y mae ganddynt fuddiant yn ymwybodol o unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru sy’n berthnasol i’r adolygiad.

(2)O ran adolygiad sydd i’w gynnal o dan adran 29, cyn cynnal yr adolygiad, rhaid i’r Comisiwn hefyd ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol ynghylch y weithdrefn a’r fethodoleg a fwriedir ar gyfer yr adolygiad ac, yn benodol, sut y mae’n bwriadu penderfynu nifer priodol yr aelodau ar gyfer unrhyw brif gyngor yn y brif ardal neu’r ardaloedd sydd dan adolygiad.

(3)At ddibenion y Rhan hon, yr “ymgyngoreion gorfodol” yw—

(a)unrhyw awdurdod lleol y mae’r adolygiad yn effeithio arno,

(b)ac eithrio mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 28 (adolygu ffiniau tua’r môr), comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer unrhyw ardal heddlu y gall yr adolygiad effeithio arni,

(c)ac eithrio pan fo’r adolygiad yn cael ei gynnal (neu i’w gynnal) ganddo ef, y Comisiwn,

(d)unrhyw gorff sy’n cynrychioli’r staff a gyflogir gan awdurdodau lleol sydd wedi gofyn am ymgynghoriad â hwy, a

(e)unrhyw bersonau eraill a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i adolygiad a gynhelir gan y Comisiwn yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 26(2)(b)(ii) neu (iii).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 34 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)