Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 09/11/2024.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, Adran 36A yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 10 Chwefror 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.![Help about Changes to Legislation](/images/chrome/helpIcon.gif)
![Close](/images/chrome/closeIcon.gif)
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
[36AEnwau wardiau etholiadolLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys i adroddiad adolygu o dan y Rhan hon i’r graddau y mae’n ymwneud ag–
(a)ward etholiadol sydd ag enwau gwahanol (mewn unrhyw gyswllt) at ddibenion nodi’r ward wrth gyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg;
(b)cynnig i ward etholiadol gael enwau gwahanol mewn unrhyw gyswllt at ddibenion nodi’r ward wrth gyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg.
(2)Rhaid i’r Comisiwn neu’r prif gyngor (yn ôl y digwydd) bennu’r ddau enw neu’r ddau enw arfaethedig ar gyfer y ward etholiadol yn nwy fersiwn ieithyddol adroddiad o dan adran 35(2), 36(3) neu 36(4).
(3)Cyn llunio adroddiad o dan adran 35(2), 36(3) neu 36(4), rhaid i’r Comisiwn neu brif gyngor (yn ôl y digwydd) roi sylw, yn benodol, i unrhyw sylwadau a gafwyd oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch orgraff enw ward etholiadol, neu orgraff enw arfaethedig ward etholiadol, y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
(4)Yn yr adran hon ystyr “dwy fersiwn ieithyddol yw’r fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg.]
Yn ôl i’r brig