- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, Adran 39 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 03 Chwefror 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):
(1)Caiff prif gyngor, drwy orchymyn, weithredu’r newidiadau a ddisgrifir mewn adroddiad a luniwyd gan y cyngor o dan adran 36(4).
(2)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (1) tan ddiwedd cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddodd y prif gyngor ei adroddiad.
(3)Caiff prif gyngor, ar ôl cael adroddiad sy’n cynnwys yr argymhellion ar gyfer newid oddi wrth y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 32—
(a)drwy orchymyn weithredu’r argymhellion heb addasiadau,
(b)drwy orchymyn weithredu’r argymhellion gyda’r addasiadau hynny y cytunir arnynt â’r Comisiwn,
(c)penderfynu peidio â gweithredu a hysbysu’r Comisiwn yn unol â hynny.
[F1(4A)Rhaid i’r Cyngor beidio ag arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (3) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Cyngor.
(4B)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1) neu (3), rhaid i’r Cyngor roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law’r Cyngor yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir yr adroddiad gan y Cyngor (ar gyfer swyddogaethau yn is-adran (1)) neu’r dyddiad y daw’r argymhellion i law’r Cyngor (ar gyfer swyddogaethau o dan is-adran (3)).]
[F2(4C)Rhaid i’r prif gyngor wneud pob ymdrech i wneud penderfyniad ar bob argymhelliad a gaiff, o’r math a ddisgrifir yn is-adran (3), cyn diwedd cyfnod o 3 mis sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (4A).
(4D)Rhaid i’r prif gyngor gyhoeddi datganiad sy’n nodi ei benderfyniad mewn cysylltiad â phob argymhelliad; ac mae’r dyddiad y cyhoeddir y datganiad i’w drin fel dyddiad y penderfyniad.
(4E)Os bydd prif gyngor yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (4C), nid yw’r methiant i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw orchymyn o dan is-adran (3)(a) neu (b) nac unrhyw benderfyniad neu hysbysiad o dan is-adran (3)(c).]
(5)Dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru y caniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (1) neu (3) sy’n cynnwys newidiadau i drefniadau etholiadol prif ardal.
(6)Mae is-adran (7) yn gymwys—
(a)pan fo’r prif gyngor wedi hysbysu’r Comisiwn nad yw’n bwriadu gweithredu mewn cysylltiad â’r argymhellion, neu
(b)pan na fo’r prif gyngor wedi gwneud gorchymyn (gydag addasiadau neu hebddynt) o fewn y cyfnod o [F33 mis sy’n dechrau gyda diwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (4C)].
(7)Caiff y Comisiwn ofyn i Weinidogion Cymru weithredu’r argymhellion o dan adran 37.
Diwygiadau Testunol
F1A. 39(4A)(4B) wedi ei amnewid ar gyfer (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 43(4), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F2A. 39(4C)-(4E) wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 49(4)(a), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F3Geiriau yn a. 39(6)(b) wedi eu hamnewid (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 49(4)(b), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 39 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys