xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CTREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

PENNOD 5LL+CGWEITHREDU YN DILYN ADOLYGIAD

Gweithredu anweinidogolLL+C

39Gweithredu newid i drefniadau etholiadol cymunedLL+C

(1)Caiff prif gyngor, drwy orchymyn, weithredu’r newidiadau a ddisgrifir mewn adroddiad a luniwyd gan y cyngor o dan adran 36(4).

(2)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (1) tan ddiwedd cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddodd y prif gyngor ei adroddiad.

(3)Caiff prif gyngor, ar ôl cael adroddiad sy’n cynnwys yr argymhellion ar gyfer newid oddi wrth y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 32—

(a)drwy orchymyn weithredu’r argymhellion heb addasiadau,

(b)drwy orchymyn weithredu’r argymhellion gyda’r addasiadau hynny y cytunir arnynt â’r Comisiwn,

(c)penderfynu peidio â gweithredu a hysbysu’r Comisiwn yn unol â hynny.

[F1(4A)Rhaid i’r Cyngor beidio ag arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (3) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Cyngor.

(4B)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1) neu (3), rhaid i’r Cyngor roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law’r Cyngor yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir yr adroddiad gan y Cyngor (ar gyfer swyddogaethau yn is-adran (1)) neu’r dyddiad y daw’r argymhellion i law’r Cyngor (ar gyfer swyddogaethau o dan is-adran (3)).]

[F2(4C)Rhaid i’r prif gyngor wneud pob ymdrech i wneud penderfyniad ar bob argymhelliad a gaiff, o’r math a ddisgrifir yn is-adran (3), cyn diwedd cyfnod o 3 mis sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (4A).

(4D)Rhaid i’r prif gyngor gyhoeddi datganiad sy’n nodi ei benderfyniad mewn cysylltiad â phob argymhelliad; ac mae’r dyddiad y cyhoeddir y datganiad i’w drin fel dyddiad y penderfyniad.

(4E)Os bydd prif gyngor yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (4C), nid yw’r methiant i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw orchymyn o dan is-adran (3)(a) neu (b) nac unrhyw benderfyniad neu hysbysiad o dan is-adran (3)(c).]

(5)Dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru y caniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (1) neu (3) sy’n cynnwys newidiadau i drefniadau etholiadol prif ardal.

(6)Mae is-adran (7) yn gymwys—

(a)pan fo’r prif gyngor wedi hysbysu’r Comisiwn nad yw’n bwriadu gweithredu mewn cysylltiad â’r argymhellion, neu

(b)pan na fo’r prif gyngor wedi gwneud gorchymyn (gydag addasiadau neu hebddynt) o fewn y cyfnod o [F33 mis sy’n dechrau gyda diwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (4C)].

(7)Caiff y Comisiwn ofyn i Weinidogion Cymru weithredu’r argymhellion o dan adran 37.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 39 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)